Gareth Glyn

Gareth Glyn

Gareth Glyn

Pryd ddechreuodd eich diddordeb mewn cyfansoddi? Unrhyw atgofion cynnar penodol?

Pan oeddwn i’n blentyn, yn clywed cerddoriaeth o ’nghwmpas i drwy’r amser. Roedd fy nhad, y Prifardd T. Glynne Davies, yn denor da , ac wedi ennill mewn eisteddfodau; roedd o hefyd wrth ei fodd yn gwrando ar – a chanu hefo – recordiau o denoriaid mwya Cymru fel David Lloyd a Richie Thomas.

Ar ochor Mam, roedd na nifer o’m modrybedd yn canu’r piano a’r harmoniwm – un ohonyn nhw, dwi’n cofio’n iawn, yn gwneud hynny o sol-ffa – ac, am wn i fel pob plentyn yn gweld piano am y tro cynta, mi esh i ati i geisio gael sŵn allan ohono fo. Roedd na biano yn ei tŷ ni hefyd – efo’r ‘Melodist’ arno fo mewn print euraid – mae’n siŵr bod fy rhieni i wedi ei brynu o gan obeithio cael pianydd yn y teulu – ac ar hwnnw y bum i’n ymarfer fy ngraddfeydd a’n narnau gosod ar ôl dechrau gwersi piano yn wyth oed efo Mrs Dickson yng Nghaerdydd, lle roedden ni’n byw erbyn hynny.

Mae’n rhaid i mi gyfadda, er y pleser o ddysgu canu’r piano, mi oedd gen i ofn Mrs Dickson; i mi roedd hi fel rhywbeth allan o Charles Dickens, efo’i thŷ mawr yn llawn anifeiliaid wedi stwffio ac ati, ei ffordd o siarad: “attend!!” ei ffordd hen-ffasiwn o ddysgu – ergyd rwler ar gefn y llaw, geiriau fel ‘poor’ a ‘weak’ yn lle beirniadaeth adeiladol – a phan symudon ni i’r Wyddgrug, a minnau’n rhyw ddeuddeg oed, mi wrthodais i ail-afael mewn gwersi piano. Trist iawn. Ond diolch i ragluniaeth mai i’r Wyddgrug y symudon ni, achos yr athro cerdd yn Ysgol Maes Garmon oedd y dylanwad cryfa erioed arna i fel cerddor a chyfansoddwr.

Wna i byth anghofio’r rhyfeddod o weld Rhys Jones yn canu’r piano mewn ffordd nad oeddwn i rioed wedi’i weld o’r blaen – yn sicr ddim gan Mrs Dickson – mi benderfynais i yn syth mod i isio ei efelychu o. Mi soniodd wrtha i am feistri’r arddull stride – Fats Waller yn benna – a dyma beth o’m mhres poced i yn mynd ar recordiau gan hwnnw! Mi benderfynais i gymryd Cerddoriaeth fel pwnc, er mai y fi oedd yr unig hogyn mewn môr o genod, ac o fewn chydig amser, dan arweiniad Rhys Jones, roeddwn i wedi cyfansoddi fy narn cynta – “alaw gytbwys un mesur-ar-bymtheg o hyd gyda thrawsgyweiriad i’r llywydd ar ddiwedd y ail gymal”.

Wedyn, efo ragor o addysg, mi ddaeth emyn-dôn: yn llawnder yr amser, dan anogaeth doeth Rhys, daeth caneuon i gôr yr ysgol, a chwechawd i offerynnwyr ifainc Maes Garmon. Mi wnaeth Rhys Jones hyd yn oed gynnwys un gân gen i –“Yn y Beibil Mawr” – mewn rhaglen radio. Nid ‘Yn y Beibil Mawr’ oedd yr enw gwreiddiol – Aled Lloyd Davies oedd yn gyfrifol am y geiriau rheini – roeddwn i wedi cael hyd i gasgliad o ganeuon gan Joseph Parry, a phenderfynu gosod cerddoriaeth fyddai’n fwriadol groes i ysbryd y geiriau. Geiriau gwreiddiol y gân oedd “Y Bachgen yn Marw”!

Ond y rheswm penna dwi’n diolch o’r galon mod i wedi mynd i Ysgol Maes Garmon ydy mai yn fanno y gwnes i gyfarfod ag Eleri. Roedd hi yn yr un dosbarth â mi, ac yn cael gwersi telyn gan Mair Jones o Gerddorfa Ffilharmonig Lerpwl. Dyma Eleri’n deud rhyw ddydd – ‘sgwenna ddarn i mi – a chofia mai dim ond pedwar bys sy gan delynorion ar bob llaw’. Yn dilyn sgwennu’r darn hwnnw, mi gyfansoddais i un ar bob o bennau blwydd Eleri am gyfnod – Nosgan, Cân Wrth Ymadael, Dawns Wyllt, Triban…. ac mi enillodd Triban yng nghystadleuaeth gyfansoddi Gŵyl Gerdd Menai yn 1978. Rhan o’r wobr oedd cael cyfansoddi’r darn cerddorfaol Porthaethwy i Gerddorfa Gymreig y BBC, a’r perfformiad hwnnw, a darllediad ar Radio 3, nath fy narbwyllo i bod cyfansoddi’n medru bod yn yrfa.

Beth sydd gennych chi ar y gweill ar hyn o bryd?

Newydd orffen darn sylweddol o’r enw ‘Gododdin’ ar gyfer Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Llanelwy – darn i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi’i ysbrydoli gan y gerdd enwog o’r 6ed ganrif sy’n sôn am frwydr Catraeth. Mae’n addas ym mlwyddyn canmlwyddiant y Rhyfel Mawr – cyflafan arall lle y bu i gannoedd o filoedd o filwyr dan orchymyn roi eu bywydau tra’n wynebu gelyn grymus.

Ond ers y llynedd dwi wedi bod yn gweithio ar opera yn Gymraeg – addasiad Mererid Hopwodd o nofel Islwyn Ffowc Elis Wythnos yng Nghymru Fydd, gaiff ei berfformiad cynta y flwyddyn nesa yng nghanolfan gerdd newydd Pontio ym Mangor. Mi fydd yn gwireddu breuddwyd yr ydw i wedi ei choleddu ers blynyddoedd.

Ar y gweill hefyd mae opera arall ar gyfer Prifwyl 2015 ar hanes Blodeuwedd, a darn i gitarau clasurol yn nodi can mlynedd a hanner ers glaniad y Mimosa yn cludo’r sawl wnaeth sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia.

A chant a mil o bethau eraill – dwi’n rhy brysur o’r hanner y dyddiau yma, mae’n rhaid cyfadda.

Unrhyw gyngor i gyfansoddwyr ifanc sy’n ceisio datblygu gyrfa ym maes cyfansoddi?

Y dyddiau yma mae’n syniad da i ddilyn y cyrsiau cywir mewn prifysgol er mwyn cael eich troed yn y drws, ond pa ffordd bynnag dach chi’n ddewis, mae’n rhaid cael y dalent a’r weledigaeth i ddechrau, ac yna meithrin y grefft ei hun – gwybod sut i drin lleisiau ac offerynnau yn unigol a chyda’i gilydd, a chael cymaint o brofiad ag y bo modd o glywed eich cerddoriaeth – cyfansoddwch ar gyfer eich cyfeillion a gofynnwch iddyn nhw berfformio’ch gwaith ichi. Ac os mai recorder, organ geg a thrombôn mae’ch cyfeillion chi’n medru’u chwarae, wel sgwennwch ddarn i’r cyfuniad hwnnw! Hefyd – cystadleuwch gymaint ag y medrwch chi – eisteddfodau wrth reswm, ond hefyd chwiliwch ar y We am y cystadleuthau cyfansoddi dirifedi sy ar gael. Mae’r mwyafrif ohonyn nhw’n cynnwys perfformiad fel rhan o’r wobr. Amhrisiadwy.

Oes unrhyw gyfansoddwr arall wedi eich ysbrydoli ar draws y blynyddoedd? Os oes, pwy a pham?

Britten, Copland, Strafinsci, Honegger – i gyd yn gyfansoddwyr o’r ugeinfed ganrif oedd wedi medru cadw at eu hegwyddorion cerddorol yn lle dilyn y ffasiwn avant-garde.

Oes na ddigon o gomisiynu gwaith newydd cerddorol yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd?

Fedra i ddim siarad ag awdurdod am hyn, gan nad ydw i’n gwybod faint o gomisiynu sydd yn digwydd, ond mi wn i bod Tŷ Cerdd yng Nghaerdydd yn gwneud gwaith da yn y maes yma, fel ag y mae nifer o gorau a cherddorfeydd amatur neu led-broffesiynol.

Gobeithion ar gyfer y dyfodol?

Dim ond bod yr awydd a’r awen (os mai dyna ydy o) yn para, a bod pobol yn dal i ofyn i mi gyfansoddi! Ac mae perfformiadau ar ôl y cynta o hyd yn bwysig – maen nhw’n dangos bod rhywun yn gweld rhyw werth yn y darnau ac yn teimlo bod angen rhoi gwyntylliad arall iddyn nhw.

Plu

PluDiolch i Elan o’r band Plu am ateb y cwestiynnau isod.

Pryd ddechreuodd dy ddiddordeb di mewn cerddoriaeth?
Allai’m dweud yn union pryd dechreuodd fy niddordeb mewn cerddoriaeth ond dechreuais gymryd lot fawr o ddiddordeb yn y sîn gerddoriaeth Cymraeg tua deng mlynedd yn ôl mwy neu lai (pan oeddwn yn 15) pan oeddwn yn mynd i weld bands fel Derwyddon dr Gonzo ac Anweledig.
Fedri di son mwy am Arthur?
Mae Arthur yn gan freuddwydol ac eitha ffantasîol gan ei fod o’n dod o syniad dychmygol. Ond cafodd y syniad yna ei ysbrydoli’n gryf gan dirwedd moel a chorsiog y Migneint, ardal sy’n ymestyn o uwchben dyffryn Machno draw bron at Lyn Celyn a lawr tuag at Ffestiniog. Mae ganddo nifer o byllau a llynoedd sy’n suddo’n ddwfn i mewn i’r tir mawnog a dwi’n meddwl bod ‘na deimlad eitha sci-fi i’r ardal, sydd mor agored ac anghysbell. Mae’r gan yn son am arnofio yn un o’r pyllau ar y Migneint, yn ystod y nos ond ar noson glir a serog, ac mae cymhariaethau cyson yn cael eu gwneud rhwng yr elfenau naturiol yn yr amgylchedd â nodweddion ‘Arthur’, ond dydi o ddim yn glir os ydy Arthur yn berson, ysbryd neu enaid.
‘Obsessed efo gwerin’
Mae Cymru’n obsessed efo gwerin ar y funud, sy’n gret i ni! Mae’n golygu ein bod ni’n brysur iawn ac yn cael cyfleoedd ffantastic. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth gwerin, ac beth sydd fwyaf cyffrous am y genre yw’r posibliadau.
Mae’n bosib mynd a gwerin i unryw gyfeiriad a’i gyfuno gyda phob math o genres eraill. Ond os dwi’n siarad nid o safbwynt aelod o Plu ond o safbwynt gwrandawr radio/ gwyliwr teledu/ person sy’n cymryd diddordeb mewn diwylliant Cymraeg/ Cymreig, dwi’n meddwl fod yr HOLL werin sydd o gwmpas ar y funud yn eithaf undonnog. Ond dwi’n credu mai ‘phase’ ydi hyn, mi fydd y rhôd yn troi maes o law gobeithio, a dwi’n edrych ymlaen i weld ‘Wythnos seicadelia’ ar s4c a sesiynnau unnos gan gyfansoddwyr chillout ar C2.
Mae Sain wedi gofyn i ni recordio album i blant iddynt ryddhau, felly dyna ‘di’r prif beth byddem yn gweithio arno rhwng rwan a mis Medi. Mae album i blant yn rywbeth doedden ni rioed wedi meddwl amdano cynt a dwi’n meddwl bod yna botensial iddo fod yn rywbeth cyffrous dros ben. Buasai rhyddhau EP yn fuan ac album arall erbyn haf 2015 yn wych, ond mae’n dipyn o sialens dod at ein gilydd i sgwennu i fod yn onest. Cloi ein hunain mewn ryw fwthyn yng nghanol nunlle am bythefnos fysa’n neud y tric bosib!

Cofio Gerallt …

Un o’r rhesymau y dechreuais i’r blog yma yn y lle cyntaf oedd i nodi cyfraniad unigolion arbennig a chofio pethau o werth diwylliannol. Yn ddiweddar, gwyliais raglen ddogfen Gerallt Lloyd Owen am yr eil dro. Rhaglen ddirdynnol a gonest, yn bortread iasol o arwr cenedl. Roedd rhaid i mi fynd ati i ‘sgrifennu rhywbeth am y rhaglen. Roedd gweld ‘Expires in 25 days’ ar dudalen Clic yn ddigon i godi arswyd arnai. Dyma fy ymdrech felly i nodi rhai sylwadau gan Gerallt a greodd argraff arnai.

 

‘Os na wyddon ni o ble ‘da ni’n dod, wyddon ni ddim pwy ydan ni nag i ble ‘da ni’n mynd…

 

‘Does arna i ddim ofn marw fel y cyfryw – y marw corfforol. Marw yn fy mhen ydy fy arswyd mawr i, hynny ydy, colli ‘nghof. Nid fy nghof fy hun yn unig sydd gen i, ond mae gen i hefyd gof fy nghenedl drwy ei phriod iaith sef y Gymraeg…

 

‘Dydw i ddim yn eisteddfodwr brwd. ‘Dw i ddim na fu mi erioed yn hoff o grwydro’r maes a gweld hwn a’r llall a siarad a’r math yna o beth…ond y pwynt ydy, mae’r ‘steddfod yn bwysig iawn i ni fel cenedl achos mae hi’n un o’r ychydig arwyddion o’n sofraniaeth ddiwylliannol ni – y collson ni sofraniaeth wleidyddol yn 1282 ac felly dyna pam mae’r eisteddfod yn bwysig i mi.

 

‘Dydio’n beth od, hyd yn oed o dristwch weithia, mae na rywbeth braf…

 

‘…Faswn i ddim yn dymuno cael fy nghofio fel hen ddyn bach piwis, blin ar ddiwedd fy oes, ond mi ydw i yn hen ddyn bach blin.

 

‘Dydw i erioed wedi meddwl amdanaf fy hun fel rhywun sydd yn cyflawni swyddogaeth arbennig. Deud yr hyn oedd yn agos at fy nghalon i nes i. Ond, mae na un peth y medra i falle ymffrostio ynddo fo, fedr neb gyfieithu Gerallt Lloyd Owen.’

Geraint Lovgreen

Pryd ddechreuodd dy ddiddordeb di mewn cerddoriaeth?

Mae’n siwr mai tua 9-10 oed oeddwn i (tua canol y 1960au) pan ges i a fy chwaer a ’mrawd dri o senglau’r Beatles a gramoffôn gen Nain i Nadolig. Dyna hi wedyn, mi fyddwn i’n gwario fy mhres poced ar senglau – Beatles, Animals, Amen Corner… Dwi’n cofio’n iawn mai chwe swllt ac wyth ceiniog (tua 30c) oedd pris sengl. Ges i gitâr blastic Beatles wedyn a gwneud “grwp” efo mrawd chwech oed! Sgwennais gân 4 cord o’r enw “You’ll be sorry some day” – ein hit mwya (wel, ein hunig gân, o bosib). A dwi’n ei chofio hi hyd heddiw!!

 Sut sin gerddorol sydd yng Nghymru ar hyn o bryd yn dy farn di?

Mae’na artistiaid ofnadwy o dalentog yn gwneud pob math o gerddoriaeth yn Gymraeg erbyn hyn – dwi’n rhyfeddu ac yn gwirioni ar artistiaid ifanc mor amrywiol â Gareth Bonello, Yr Ods, Mr Phormula, Georgia Ruth … ac ymlaen ac ymlaen, mae ’na gymaint o dalent ar gael.

Y trueni ydi nad oes cynulleidfa deilwng iddyn nhw, mae fel petai’n well gen lawer o bobl lyncu be mae’r cyfryngau’n ei roi iddyn nhw (Britain’s Got Talent ac ati) yn hytrach na mynd allan i weld rhywun gwirioneddol ddawnus a chreadigol yn canu mewn neuadd neu glwb ar eu stepan drws.

Wyt ti’n edmygu unrhyw gerddor arall cyfoes yng Nghymru heddiw? 

Dwi wedi enwi rhai o’r rhai ifanc dwi’n eu hedmygu yn yr ateb uchod – wedyn mae ’na hen stejars fel Geraint Jarman, Endaf Emlyn a Meic Stevens. Dyna’r recordiau Cymraeg cynta brynais i – roedd ‘Hiraeth’ gan Endaf Emlyn yn LP hollol arloesol yn ei ddydd, pan oeddwn i yn nosbarth 6 yn yr ysgol yn y Drenewydd; dyma stwff Cymraeg roedd fy ffrindiau di-Gymraeg yn gallu ei werthfawrogi.

Wedyn dwi’n edmygu rhywun fel Rhys Mwyn am symud pethau ymlaen a chynnal gigs bach mewn tafarnau fel yr Albert yn Gaernarfon, a mynd â’r Gymraeg i wledydd eraill a phrofi nad oedd raid canu yn Saesneg. A wnes i wastad hoffi Y Cyrff am eu hagwedd a’u cerddoriaeth ddigyfaddawd.

Beth wyt ti’n fwynhau fwyaf am ganu a chyfansoddi?

Be dwi’n dal i fwynhau fwyaf ydi mynd i lefydd gwahanol o gwmpas Cymru a chwrdd â phobl wahanol a pherfformio iddyn nhw! Dwi’n deud o hyd mod i’n teimlo mor lwcus i fedru gwneud hyn fel hobi yn fwy na dim. Cyfieithydd ydwi wrth fy ngwaith bob dydd, yn gweithio o gartre.

Oes gen ti gyngor i gerddorion ifanc sy’n ceisio datblygu gyrfa ym maes cerddoriaeth?

Dim byd wir, dim ond bod yn driw ichi’ch hun a gwneud be ydach chi isio’i neud, nid be sy’n digwydd bod yn trendi neu’n cwl ar y pryd. Ond cyngor gan amatur ydi hyn, dwi erioed wedi meddwl am drio gwneud gyrfa mewn cerddoriaeth. Dwi ddim yn meddwl y byswn i’n mwynhau’r pwysau.

 Gobeithion cerddorol ar gyfer y dyfodol?

Mae gen i lawer o ganeuon y byswn i yn hoffi eu rhoi ar albwm rywbryd, ond dwi ddim yn dda iawn ar y busnes recordio ’ma. Does yna ddim ffordd ddi-boen o’i wneud o, hyd y gwela i. Felly mond gobeithio cadw fy iechyd er mwyn dal ati i gigio!

Soundcloud – 

Twitter – https://twitter.com/ddim_yn_sant

Casi Wyn

Casi Wyn

Casi Wyn

Beth oedd sbardun cynhyrchu’r EP newydd ‘1’? 

Ma’ recordio caneuon yn debyg iawn i dynnu llun am wn i. Roedd gen i gasgliad o ganeuon ond doeddwn i heb eu cofnodi nhw’n unman. ‘O’n i’n awyddus i dynnu llun ohonynt, a dyna wnes i ar ffurf EP. 

Pa gerddorion sy’n dy gyffroi ar y sin ar hyn o bryd? 
 
Dwi’n mwynhau gwaith Rae Morris ar hyn o bryd. Yn ogystal â Foxes – dwi’n mynd i’w gweld hi’n canu draw i Hackney fis nesa’. Dwi’n licio ref-io i ganeuon Swnami hefyd. Ma’ lleisia’ cerddorion yn dueddol o’m ysbrydoli fi’n fwy na’r offeryniaeth, yn aml iawn. Y llais ydi’r peth cyntaf un dwi’n glywed. Dwi wastad yn meddwl y bydda’r llais yn gallu goroesi heb yr offerynnau’n gefndir.

 

Fedri di ddewis un trac oddi ar dy EP newydd a dweud rhywbeth difyr amdano? 

Ma’ ‘Fan Hyn’ yn son am fod yn andros o hapus yng nghwmni rhywun, boed hynny ym mha bynnag le. Mi fysa ‘Fan Hyn’ yn gallu cynrychioli unrhyw le’n y Byd. 

Ti’n edrych ‘mlaen i gyfrannu at ddiwrnod BBC Radio Wales Music Day ddydd Gwener?

Dwi’n teimlo’n freintiedig iawn o gael bod ymhlith yr artistiad fydd yn perfformio’n rhan o’r BBC Radio Wales Music Day draw yng Nghaerdydd eleni. Mi fydda i’n canu sesiwn fyw ar raglen Louise Elliot yn ystod y prynhawn!

Dy hoff le yn y byd? 

Ers imi symud i Lundain, dwi am ddweud Gogledd Cymru.

Eshi am dro i draeth Porthor am y tro cyntaf yr wythnos ddiwethaf. Dwi’n meddwl fod prydferthwch y Gogledd yn rywbeth ma’ llawer ohonom ni’n ei gymryd yn ganiatol. Nes i ddim gwerthfawrogi harddwch fy mro tan imi adael. 

Sut es di ati i ddewis y gwaith celf sy’n ymddangos ar yr EP? 

Merch ddawnus o’r enw Jodie Chinn sydd wedi dylunio’r gwaith celf. Ro’n i’n byw gyda hi llynedd a dwi’n falch iawn mod i wedi ei chyfarfod hi.

Sgen ti gynlluniau cyffrous ar gyfer 2013? 

Dwi’n canolbwyntio ar hyrwyddo fy EP newydd 1′ ar hyn o bryd. Mi fydda i’n parhau i weithio’n galed gan obeithio dychwelyd i’r stiwdio yn fuan gyda chaneuon newydd a chryfach.

Casi Wyn

Casi Wyn

Sut ddechreuodd dy ddiddordeb di mewn cerddoriaeth ?

Dwi’n canu ers erioed. Canu’n y capel, canu yng nghyngherdda’r ysgol, canu’n Eisteddfod yr Urdd. Dwi’m yn meddwl y baswn i’n gwybod mod i’n gallu canu heb y profiada’ a roddwyd imi’n blentyn. Ro’ ni’n tua 5 oed yn sefyll ar lwyfan ar fy mhen fy hun am y tro cyntaf. Nes i ‘rioed feddwl dwy waith ynglyn â’r peth.

Dwi’n andros o ffodus mod i wedi cael fy nghyflwyno i gerddoriaeth ac alawon cynhenid Gymreig ers yn blentyn. Ma’ gen i storfa eang o alawon gwerin yn llechu yn fy nghof. Dwi’n meddwl eu bod nhw wedi bod o fudd imi gan fod ysgrifennu geiriau i gan yn dod yn gymharol hawdd imi. Dwi’n meddwl fod gan lawer o Gymry ddawn naturiol gyda geiriau. Geshi nhrwytho gyda chyfoeth o alawon, emynau a barddoniaeth tra’n blentyn, adref ac yn yr ysgol- dwi’n andros o ddiolchgar o hynny.
‘Gwerinol’
Ma’ ‘na ambell i berson wedi disgrifio fy llais i fel un eitha’ gwerinol. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r ‘tinc gwerinol’ tan i bobl nodi hynny. Mae’n rhaid bod fy nghefndir o ganu gwerin tra’n blentyn wedi bod yn fwy o ddylanwad arna fi nag y meddyliais. Dwi’n hoffi gwerin ond ma’n well gen i gerddoriaeth Jessie Ware a King Krule ar hyn o bryd.
Dylanwadau dros y ffin… 
Tydw i ddim yn meddwl ei bod hi’n ‘hanfodol’ eich bod chi’n croesi unrhyw ‘ffin’. Ro’ni eisiau symud i Lundain i brofi diwylliant gwahanol, felly dyna ‘nes i. Ma’ pawb yn wahanol.
Ma’r bobl dwi wedi ei gyfarfod yno unai’n wallgo’ neu’n hyfryd tu hwnt. Dwi’n licio’r ddau beth yna. A phobl yn aml iawn ydi’r ysbrydoliaeth tu ol i rai o’m caneuon. Dwi’n dysgu rhywbeth newydd pob dydd ac felly ma’ symud yno’n sicr wedi newid fy ngolwg ar sawl agwedd o fywyd. Ond dwi ddim eisiau byw yno am byth.
‘Gwell Cymro, Cymro alltud’ ys dywed y ddihareb. Ma’ hynny heb os, yn wir yn fy achos i.

Blodau Gwylltion – Manon Steffan Ros

Manon Steffan RosBlodau Gwylltion

Manon Steffan Ros
Blodau Gwylltion

Roedd darganfod Blodau Gwylltion yn brofiad hyfryd a chyffrous. Lle dw i di bod? Dyna’r cwestiwn ro’ ni’n ofyn i mi fy hun! I mi, mae rhywbeth arbennig am  yr alawon cignoeth – y gerddoriaeth yn hyfryd o fregus ar brydiau a naws y sain yn gyfoethog. Diolch yn fawr iawn i Manon Steffan Ros am gyfweliad difyr ac am rannu ei meddyliau… 

Sut a phryd daeth Blodau Gwylltion i fodolaeth? Ychydig o’r cefndir …

Dwi’n sgwennu caneuon ers blynyddoedd mawr, ond mae ‘na swildod mawr o ran rhannu ‘ngherddoriaeth sydd wedi bod yn fy nal i nol. Ond ar ol Haf 2010, a llawer o gigs hyfryd yn canu cefndir efo Lleuwen a Dad, mi wnes i benderfynu bod ofn yn gymhelliad gwael iawn i beidio gwneud rhywbeth dwi wir yn ei fwynhau, felly dyma recordio ambell gan a’u gosod nhw ar YouTube.

Roedd yr ymateb yn ddigon ffafriol i wneud i mi recordio mwy, ac uwchlwytho’r rheiny i SoundCloud.

Nom de plume oedd Blodau Gwylltion (mae o’n dwad o’r gan werin, Ddoi Di Dei- “pwy sy’n plannu’r blodau gwylltion?”) Yn syml iawn, ro’n i’n ormod o gachwr i ddefnyddio fy enw go iawn! Ond o fewn ‘chydig oria’, roedd pobol wedi dyfalu mai fi oedd yn canu, felly weithiodd y disguise ddim yn dda iawn!

Beth sy’n dy ysbrydoli i greu cerddoriaeth? 

Mi fedra i fynd am fis heb ‘sgwennu dim, ac wedyn ‘sgwennu pedair can mewn wythnos.

Mae’r cwestiwn am ysbrydoliaeth yn un sy’n ofnadwy o anodd i’w hateb, ond dwi yn cael fy ysgogi i fynd ati a ‘sgwennu mwy ar ol i mi fod yn gweld bandia’ yn fyw, neu o glywed albym newydd sy’n taro rhyw nodyn efo fi. Dwi hefyd yn tueddu ‘sgwennu lot pan ‘dwi ynghanol ‘sgwennu nofel, yn aml yn ‘sgwennu can o safbwynt un o’r cymeriadau.

Sgin i ddim syniad efo’r gitar, ond ma’ ‘na synau oce yn dwad ohono fo weithia’ pan fydda i’n chwara’ o gwmpas!

Gobeithion a chynlluniau …

Sgin i ddim uchelgais o gwbl o ran fy ngherddoriaeth- Mae o’n braf i’w greu, a dwi’n mwynhau rhannu, ond ‘sgin i ddim gobeithion. Ma’ hynny’n rhoi rhyddid hyfryd i mi, dwi’n meddwl- Dwi jest yn creu be’ dwisho.

Ar y llaw arall, dwi’n gyffrous i recordio sesiwn C2 yn y dyfodol agos efo Elwyn Williams- Athrylith o foi sy’n dallt yn gyfan gwbl pa fath o swn dwisho o’r caneuon. Mae o’n fraint i mi gael gweithio efo fo.

‘Ysgogi emosiwn’

Dwi’n mwynhau trawsdoriad eang iawn o gerddoriaeth- Yr unig beth sy’ ganddyn nhw’n gyffredin, dwi’n meddwl, ydi eu bod nhw’n ysgogi rhyw emosiwn.

Mi brynodd Dad CD Mid Air, albym newydd Paul Buchanan i mi, sy’n wefreiddiol o gignoeth a hyfryd. Dwi’n edrych ymlaen at fynd i weld Einaudi mewn cyngerdd yng Nghaerdydd mis nesa’, ac mae Elvis wastad yn hawlio’i le yn chwaraeydd CD y car. Y CDs dwi wastad yn dod yn ol atyn nhw ydi dau albym ddiweddara’ Cowbois Rhos Botwnnog. Dwi heb glywed gystal albyms mewn unrhyw iaith, erioed. Ond, dwi’n reit agored i bob dim- weithia’ bydd rhywun yn esbonio bod can yn taro deuddeg efo nhw, ac mi ‘dwi’n clywed rhywbeth newydd ynddo fo fy hun wedyn.

Tasa rhaid i ti rannu rhywbeth am un o’r caneuon ar SoundCloud ar hyn o bryd – be sa ti’n rannu?

Pan o’n i’n Fach… Mi ‘sgwennish i hon pan ganed fy nai bach. Mae fy chwaer yn byw yn bell, ac mi wyddwn i na fyddwn i’n cael gweld y bychan am fisoedd. Ar y ffon ar ol ei eni, mi ddaliodd Lleuwen y ffon yn agos at y crud, a deud “gwranda arno fo’n anadlu!” ac roedd o’r swn hyfryta, fatha’ tonnau.

Manon Steffan Ros @BlodauGwylltion