Llosgi Piano – Annea Lockwood

Mi ges i  brofiad celfyddydol unigryw dros y penwythnos – perfformiad o waith arloesol 1968 Annea Lockwood, artist sain o Seland Newydd / UDA  ‘Piano Burning’ (Llosgi Piano) yn Hen Iard Nwyddau Treborth, Bangor. Hen biano (wedi gweld dyddiau gwell) oedd y biano a ddefnyddiwyd, yn unol a gofynion y cyfansoddwr. Roedd y cynhyrchiad yn rhan o lansiad tymor newydd Dinas Sain Bangor.

Dyma  gyfle gwerthfawr  i weld Annea Lockwood yn perfformio ei gwaith yn fyw. Roedd  sawl unigolyn yn canu’r piano cyn iddo gael ei losgi. Drwy gydol y perfformiad, roedd y gynulleidfa’n sefyll o amgylch y piano yn  gwrando ar synau’r pren a’r llinynnau wrth i’r fflamau fwyta’r offeryn.  Dyma brofiad seiniol a chelfyddydol unigryw. Roedd criw technegol yn bresennol i  recordio’r sain a ffilmio’r profiad. Dyw’r syniad o losgi offeryn  a’i gynnig fel profiad celfyddydol byw ddim yn newydd. Ond, dyma’r tro cyntaf i mi brofi perfformiad o’r fath. Fe glywais i rai yn wfftio’r syniad  ‘Pam gwneud peth  fel hyn? Difetha piano dda’ neu ‘Nid cerddoriaeth ydy hyn siwr – ond llond ysgyfaint o fwg’. Rhydd i bawb ei farn, wrth gwrs – ond, wnes i fwynhau’r profiad. Mi gafodd pawb oedd yn sefyll o amgylch y piano brofiad celfyddydol unigryw, profiad ooedd yn apelio at nifer o’r synhwyrau. Roedd y cyhoedd wrthi’n tynnu lluniau o’r biano’n llosgi, rhai yn ymateb drwy Gelf,  eraill yn ffilmio ac yn ceisio dal y profiad drwy ddefnydd y cyfryngau digidol. Ai galaru diwedd hen biano wael oedden ni neu ddefnyddio hen offeryn i ddathlu seiniau cerddorol newydd a mwynhau diweddglo unigryw? Yr ail, o’ mhrofiad i.

 Mae sawl un yn gyfforddus iawn mewn neuadd gerdd fawreddog yn gwerthfawrogi dehongliad cerddorfa o waith poblogaidd. Ond, wnaeth y profiad anghonfensiynol ac unigryw hwn fy atgoffa i mor gyffrous ac annisgwyl y gall sain  a’r celfyddydau  fod – roedd rhywbeth arbennig am y perfformiad.

Fe benderfynodd rhai yn y gynulleidfa gerdded i ffwrdd ar ôl i brif ffram y piano ddisgyn, falle eu bod nhw’n credu bod y sioe drosodd, bod dim byd mwy i’w weld nac i’w glywed. Roedd eraill dal yn sefyll yno’n syllu ar yr hen biano wrth i weddill y darnau losgi. Pam oedd y perfformiad drosodd i rai ac eraill yn parhau i ryfeddu ar yr hyn oedd yn digwydd o’u blaenau? Pam bod rhai yn drist/ emosiynol ac eraill ar ben eu digon?

Mae rhai yn anghytuno â’r egwyddor o losgi hen bianos, ond allai ddim deall pam, mewn gwirionedd. Mae pianos gwael  i’w cael mewn sawl canolfan gymdeithasol ledled y wlad – llawer ohonynt yn ddim mwy na darn o ddodrefnyn yng nghornel stafell, offeryn sydd prin yn cael ei ddefnyddio ac sy’n llawn pry. Dyma pryd y bydda i’n galau diwedd offeryn, nid mewn perfformiad arbennig fel a gafwyd nos Sadwrn ym Mangor.

Dyma flas o’ mhrofiad i mewn lluniau:

Advertisements