Seimon Brooks

 Homoffobia yng Nghymru …

Portraits-Small-files-97

“Dwi’n meddwl fod llai o homoffobia yn y Gymru Gymraeg nag a fu. Wrth gwrs bu enghreifftiau o oddefgarwch yn y gorffennol hefyd. Meddyliwch am Prosser Rhys yn ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1924 am gerdd am brofiadau hoyw. Cafodd Freud hyd yn oed clywed am yr hanes! Mae’n bwysig inni beidio gorsymleiddio agweddau cymdeithasol unrhyw gymdeithas, neu unrhyw gyfnod, at ddynion a merched hoyw. Ond yn gyffredinol baswn i’n dweud fod y sefyllfa yn fwy goleuedig erbyn hyn. Mae’n debyg er hynny fod agweddau homoffobaidd yn bodoli ar lawr gwlad, bron fel rhyw fath o isddiwylliant. Am y rheswm yna ro’n i’n arbennig o falch o weld fod Stonewall yn ymgyrchu yn erbyn iaith homoffobaidd mewn ysgolion uwchradd.”

– Seimon Brooks

Cam yn Nes at Gyfartaledd

Cyhoeddwyd yng nghylchgrawn BARN fis Mawrth, 2013

http://www.cylchgrawnbarn.com

Priodasau Cyfartal: Cam yn Nes at Gyfartaledd PDF Argraffu Ebost
Malan Vaughan Wilkinson sy’n croesawu’r bleidlais ddiweddar yn Nhy’r Cyffredin dros fesur i ganiatáu i bobl o’r un rhyw briodi.Bwystfileiddiwch, gweithredu’n ‘annaturiol’, priodi mwy nag un wraig, camdrin plant ac israddio sefydliad priodas. Dyma rai o’r cysyniadau a chymariaethau eithafol sydd wedi’u defnyddio gan wrthwynebwyr yng Nghymru i gyfiawnhau gwrthod y Mesur ar Briodasau i Gyplau o’r un Rhyw yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er gwaethaf y dadleuon deinosoraidd hyn, roedd y bleidlais gyntaf ar y mesur yn Nhy’r Cyffredin yn ddiweddar yn llwyddiant ysgubol o safbwynt cyplau hoyw.Roedd canlyniad pleidlais yr Aelodau Seneddol ddechrau fis Chwefror yn gam hanesyddol pwysig tuag at sicrhau cyfartaledd i gyplau hoyw. Roedd y fuddugoliaeth yn un gyfforddus gyda’r mwyafrif yn pleidleisio o blaid y mesur (400 i 175). Fodd bynnag, mae disgwyl i’r craffu ar y mesur fod yn fanwl a thaer ac nid ar chwarae bach y caiff sêl bendith Ty’r Arglwyddi fis Mai.

Os daw’r mesur yn ddeddf, bydd yn caniatáu i gyplau o’r un rhyw briodi mewn seremonïau sifil a rhai crefyddol, gyda chaniatâd sefydliadau crefyddol. Bydd hefyd yn caniatáu i gyplau sydd eisoes wedi uno drwy bartneriaeth sifil briodi.

Yn dilyn y bleidlais yn Nhy’r Cyffredin, disgrifiodd y gwleidydd Tim Loughton amseru’r bleidlais fel ‘rhwystr anghyfleus’. Roedd o’r farn fod pethau pwysicach i’w cyflawni’n wleidyddol na mesur fel hwn. Siom oedd clywed y fath safbwynt. Efallai wir mai ‘rhwystr anghyfleus’ yw mesur o’r fath i wleidyddion fel Loughton, ond i gyplau hoyw ar hyd a lled y wlad byddai deddf o’r fath yn caniatáu iddyn nhw fyw eu bywydau gan fwynhau yr un hawliau â chyplau heterorywiol.

Trueni hefyd oedd deall bod yr wyth aelod Ceidwadol o Gymru wedi pleidleisio yn erbyn y mesur – prawf pellach fod y bleidlais wedi creu rhwyg ddofn a chwerw ym mhlaid Cameron. Mae rhywbeth gwrthun ynglyn â gwleidyddion sydd wedi priodi eu hunain yn gwadu’r hawl i gyplau eraill briodi a hynny ar sail eu rhywioldeb. Mae’r fath safonau dwbl yn amlygu diffyg cyfartaledd a statws israddol cyplau hoyw yn ein cymdeithas heddiw.

Yn sgil y trafodaethau diweddar, mae llawer un wedi disgrifio’r ddeddf arfaethedig fel mesur ‘dadleuol’. Wn i ddim beth sy’n ddadleuol mewn ceisio cyfartaledd. Nid pleidlais am freintiau arbennig yw’r bleidlais hon, ond pleidlais am gyfartaledd. Mesur yw hwn i sicrhau bod cyplau o’r un rhyw yn cael priodi gerbron Duw os ydyn nhw’n mynnu, fel y mae cyplau heterorywiol eisoes yn ei wneud heb feddwl ddwywaith.

Mae’r bleidlais yn Nhy’r Cyffredin wedi profi un peth – bod mwyafrif gwleidyddion yr oes oleuedig hon yn barod i symud ymlaen, i ddathlu amrywiaeth, i gynnig cyfleoedd cyfartal ac i beidio gwahaniaethu ar sail rhywioldeb. Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu ar sail hil – pam felly y mae rhai’n teimlo bod parhau i wahaniaethu ar sail rhywioldeb yn dderbyniol? Mae’n hen bryd i ni ffarwelio â’n deinosoriaid a’u gadael yn nhywyllwch eu hogofâu cyntefig i ymdrybaeddu yn eu theorïau homoffobaidd.