Cofio Gerallt …

Un o’r rhesymau y dechreuais i’r blog yma yn y lle cyntaf oedd i nodi cyfraniad unigolion arbennig a chofio pethau o werth diwylliannol. Yn ddiweddar, gwyliais raglen ddogfen Gerallt Lloyd Owen am yr eil dro. Rhaglen ddirdynnol a gonest, yn bortread iasol o arwr cenedl. Roedd rhaid i mi fynd ati i ‘sgrifennu rhywbeth am y rhaglen. Roedd gweld ‘Expires in 25 days’ ar dudalen Clic yn ddigon i godi arswyd arnai. Dyma fy ymdrech felly i nodi rhai sylwadau gan Gerallt a greodd argraff arnai.

 

‘Os na wyddon ni o ble ‘da ni’n dod, wyddon ni ddim pwy ydan ni nag i ble ‘da ni’n mynd…

 

‘Does arna i ddim ofn marw fel y cyfryw – y marw corfforol. Marw yn fy mhen ydy fy arswyd mawr i, hynny ydy, colli ‘nghof. Nid fy nghof fy hun yn unig sydd gen i, ond mae gen i hefyd gof fy nghenedl drwy ei phriod iaith sef y Gymraeg…

 

‘Dydw i ddim yn eisteddfodwr brwd. ‘Dw i ddim na fu mi erioed yn hoff o grwydro’r maes a gweld hwn a’r llall a siarad a’r math yna o beth…ond y pwynt ydy, mae’r ‘steddfod yn bwysig iawn i ni fel cenedl achos mae hi’n un o’r ychydig arwyddion o’n sofraniaeth ddiwylliannol ni – y collson ni sofraniaeth wleidyddol yn 1282 ac felly dyna pam mae’r eisteddfod yn bwysig i mi.

 

‘Dydio’n beth od, hyd yn oed o dristwch weithia, mae na rywbeth braf…

 

‘…Faswn i ddim yn dymuno cael fy nghofio fel hen ddyn bach piwis, blin ar ddiwedd fy oes, ond mi ydw i yn hen ddyn bach blin.

 

‘Dydw i erioed wedi meddwl amdanaf fy hun fel rhywun sydd yn cyflawni swyddogaeth arbennig. Deud yr hyn oedd yn agos at fy nghalon i nes i. Ond, mae na un peth y medra i falle ymffrostio ynddo fo, fedr neb gyfieithu Gerallt Lloyd Owen.’