Gareth Glyn

Gareth Glyn

Gareth Glyn

Pryd ddechreuodd eich diddordeb mewn cyfansoddi? Unrhyw atgofion cynnar penodol?

Pan oeddwn i’n blentyn, yn clywed cerddoriaeth o ’nghwmpas i drwy’r amser. Roedd fy nhad, y Prifardd T. Glynne Davies, yn denor da , ac wedi ennill mewn eisteddfodau; roedd o hefyd wrth ei fodd yn gwrando ar – a chanu hefo – recordiau o denoriaid mwya Cymru fel David Lloyd a Richie Thomas.

Ar ochor Mam, roedd na nifer o’m modrybedd yn canu’r piano a’r harmoniwm – un ohonyn nhw, dwi’n cofio’n iawn, yn gwneud hynny o sol-ffa – ac, am wn i fel pob plentyn yn gweld piano am y tro cynta, mi esh i ati i geisio gael sŵn allan ohono fo. Roedd na biano yn ei tŷ ni hefyd – efo’r ‘Melodist’ arno fo mewn print euraid – mae’n siŵr bod fy rhieni i wedi ei brynu o gan obeithio cael pianydd yn y teulu – ac ar hwnnw y bum i’n ymarfer fy ngraddfeydd a’n narnau gosod ar ôl dechrau gwersi piano yn wyth oed efo Mrs Dickson yng Nghaerdydd, lle roedden ni’n byw erbyn hynny.

Mae’n rhaid i mi gyfadda, er y pleser o ddysgu canu’r piano, mi oedd gen i ofn Mrs Dickson; i mi roedd hi fel rhywbeth allan o Charles Dickens, efo’i thŷ mawr yn llawn anifeiliaid wedi stwffio ac ati, ei ffordd o siarad: “attend!!” ei ffordd hen-ffasiwn o ddysgu – ergyd rwler ar gefn y llaw, geiriau fel ‘poor’ a ‘weak’ yn lle beirniadaeth adeiladol – a phan symudon ni i’r Wyddgrug, a minnau’n rhyw ddeuddeg oed, mi wrthodais i ail-afael mewn gwersi piano. Trist iawn. Ond diolch i ragluniaeth mai i’r Wyddgrug y symudon ni, achos yr athro cerdd yn Ysgol Maes Garmon oedd y dylanwad cryfa erioed arna i fel cerddor a chyfansoddwr.

Wna i byth anghofio’r rhyfeddod o weld Rhys Jones yn canu’r piano mewn ffordd nad oeddwn i rioed wedi’i weld o’r blaen – yn sicr ddim gan Mrs Dickson – mi benderfynais i yn syth mod i isio ei efelychu o. Mi soniodd wrtha i am feistri’r arddull stride – Fats Waller yn benna – a dyma beth o’m mhres poced i yn mynd ar recordiau gan hwnnw! Mi benderfynais i gymryd Cerddoriaeth fel pwnc, er mai y fi oedd yr unig hogyn mewn môr o genod, ac o fewn chydig amser, dan arweiniad Rhys Jones, roeddwn i wedi cyfansoddi fy narn cynta – “alaw gytbwys un mesur-ar-bymtheg o hyd gyda thrawsgyweiriad i’r llywydd ar ddiwedd y ail gymal”.

Wedyn, efo ragor o addysg, mi ddaeth emyn-dôn: yn llawnder yr amser, dan anogaeth doeth Rhys, daeth caneuon i gôr yr ysgol, a chwechawd i offerynnwyr ifainc Maes Garmon. Mi wnaeth Rhys Jones hyd yn oed gynnwys un gân gen i –“Yn y Beibil Mawr” – mewn rhaglen radio. Nid ‘Yn y Beibil Mawr’ oedd yr enw gwreiddiol – Aled Lloyd Davies oedd yn gyfrifol am y geiriau rheini – roeddwn i wedi cael hyd i gasgliad o ganeuon gan Joseph Parry, a phenderfynu gosod cerddoriaeth fyddai’n fwriadol groes i ysbryd y geiriau. Geiriau gwreiddiol y gân oedd “Y Bachgen yn Marw”!

Ond y rheswm penna dwi’n diolch o’r galon mod i wedi mynd i Ysgol Maes Garmon ydy mai yn fanno y gwnes i gyfarfod ag Eleri. Roedd hi yn yr un dosbarth â mi, ac yn cael gwersi telyn gan Mair Jones o Gerddorfa Ffilharmonig Lerpwl. Dyma Eleri’n deud rhyw ddydd – ‘sgwenna ddarn i mi – a chofia mai dim ond pedwar bys sy gan delynorion ar bob llaw’. Yn dilyn sgwennu’r darn hwnnw, mi gyfansoddais i un ar bob o bennau blwydd Eleri am gyfnod – Nosgan, Cân Wrth Ymadael, Dawns Wyllt, Triban…. ac mi enillodd Triban yng nghystadleuaeth gyfansoddi Gŵyl Gerdd Menai yn 1978. Rhan o’r wobr oedd cael cyfansoddi’r darn cerddorfaol Porthaethwy i Gerddorfa Gymreig y BBC, a’r perfformiad hwnnw, a darllediad ar Radio 3, nath fy narbwyllo i bod cyfansoddi’n medru bod yn yrfa.

Beth sydd gennych chi ar y gweill ar hyn o bryd?

Newydd orffen darn sylweddol o’r enw ‘Gododdin’ ar gyfer Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Llanelwy – darn i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi’i ysbrydoli gan y gerdd enwog o’r 6ed ganrif sy’n sôn am frwydr Catraeth. Mae’n addas ym mlwyddyn canmlwyddiant y Rhyfel Mawr – cyflafan arall lle y bu i gannoedd o filoedd o filwyr dan orchymyn roi eu bywydau tra’n wynebu gelyn grymus.

Ond ers y llynedd dwi wedi bod yn gweithio ar opera yn Gymraeg – addasiad Mererid Hopwodd o nofel Islwyn Ffowc Elis Wythnos yng Nghymru Fydd, gaiff ei berfformiad cynta y flwyddyn nesa yng nghanolfan gerdd newydd Pontio ym Mangor. Mi fydd yn gwireddu breuddwyd yr ydw i wedi ei choleddu ers blynyddoedd.

Ar y gweill hefyd mae opera arall ar gyfer Prifwyl 2015 ar hanes Blodeuwedd, a darn i gitarau clasurol yn nodi can mlynedd a hanner ers glaniad y Mimosa yn cludo’r sawl wnaeth sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia.

A chant a mil o bethau eraill – dwi’n rhy brysur o’r hanner y dyddiau yma, mae’n rhaid cyfadda.

Unrhyw gyngor i gyfansoddwyr ifanc sy’n ceisio datblygu gyrfa ym maes cyfansoddi?

Y dyddiau yma mae’n syniad da i ddilyn y cyrsiau cywir mewn prifysgol er mwyn cael eich troed yn y drws, ond pa ffordd bynnag dach chi’n ddewis, mae’n rhaid cael y dalent a’r weledigaeth i ddechrau, ac yna meithrin y grefft ei hun – gwybod sut i drin lleisiau ac offerynnau yn unigol a chyda’i gilydd, a chael cymaint o brofiad ag y bo modd o glywed eich cerddoriaeth – cyfansoddwch ar gyfer eich cyfeillion a gofynnwch iddyn nhw berfformio’ch gwaith ichi. Ac os mai recorder, organ geg a thrombôn mae’ch cyfeillion chi’n medru’u chwarae, wel sgwennwch ddarn i’r cyfuniad hwnnw! Hefyd – cystadleuwch gymaint ag y medrwch chi – eisteddfodau wrth reswm, ond hefyd chwiliwch ar y We am y cystadleuthau cyfansoddi dirifedi sy ar gael. Mae’r mwyafrif ohonyn nhw’n cynnwys perfformiad fel rhan o’r wobr. Amhrisiadwy.

Oes unrhyw gyfansoddwr arall wedi eich ysbrydoli ar draws y blynyddoedd? Os oes, pwy a pham?

Britten, Copland, Strafinsci, Honegger – i gyd yn gyfansoddwyr o’r ugeinfed ganrif oedd wedi medru cadw at eu hegwyddorion cerddorol yn lle dilyn y ffasiwn avant-garde.

Oes na ddigon o gomisiynu gwaith newydd cerddorol yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd?

Fedra i ddim siarad ag awdurdod am hyn, gan nad ydw i’n gwybod faint o gomisiynu sydd yn digwydd, ond mi wn i bod Tŷ Cerdd yng Nghaerdydd yn gwneud gwaith da yn y maes yma, fel ag y mae nifer o gorau a cherddorfeydd amatur neu led-broffesiynol.

Gobeithion ar gyfer y dyfodol?

Dim ond bod yr awydd a’r awen (os mai dyna ydy o) yn para, a bod pobol yn dal i ofyn i mi gyfansoddi! Ac mae perfformiadau ar ôl y cynta o hyd yn bwysig – maen nhw’n dangos bod rhywun yn gweld rhyw werth yn y darnau ac yn teimlo bod angen rhoi gwyntylliad arall iddyn nhw.