Arwel Lloyd – Gildas

Arwel Lloyd - Gildas

Arwel Lloyd – Gildas

Ar y gweill ar hyn o bryd …

Wel y peth mwyaf cyfredol mae’n debyg ydy ail albwm stiwdio Gildas – ‘Sgwennu Stori’, sy’n dod allan ddechrau fis Gorffennaf. Mi wnath hi gael ei recordio rhwng mis Ionawr a Mawrth y flwyddyn yma yn Musicbox Studios (Caerdydd) gyda’r cynhyrchydd Llion Robertson. Yn wahanol i’r album gyntaf ‘Nos Da’, mae llu o gerddorion eraill yn ymddangos ar hon. Mae wedi bod yn sbel llawer rhy hir ers y diwetha’ felly mi fydd yn rhyddhad mawr gallu cyflwyno’r caneuon newydd yma.

O ran y gigio, dwi wedi bod wrthi yn weddol gyson dros y flwyddyn, unai gyda Gildas, Al Lewis Band neu Greta Isaac. A pharhau fydd y patrwm dros weddill yr haf gyda Gildas yn perfformio yng Ngwyl Gwydir (31-08-13), Gwyl Hen Dref Caerfyrddin (22/06/13) a Gigs Cymdeithas y Steddfod, Greta Isaac yng Ngwyl Pili Pala (17/05/13) a Beach Break Live (23/06/13) ac Al Lewis yn Maes B (10/08/13) ac yn cefnogi Jools Holland. Dim ond blas o berfformiadau’r haf sydd yma, ewch i wefan unrhyw un o’r bandiau uchod i weld y rhestrau cyflawn. Mi fydd yn haf prysur iawn eto ‘leni.

Ond yn gyffredinol, hyrwyddo y cynnyrch newydd fydd y prif weithgaredd dros yr haf, ‘Sgwennu Stori’ albwm Gildas ac albwm newydd Al Lewis: ‘Battles’.

‘Ffeindio pobl ddiddorol’

Dwi wedi bod yn hynod o ffodus i gael cyd-weithio gydag artistiaid arbennig dros y blynyddoedd – Meic Stevens, Elin Fflur, Al Lewis, Fflur Dafydd, Greta a Miriam Isaac. Roedd hi wir yn anrhydedd cael gweithio a meddwl yn greadigol gyda’r bobl yma. Y bwriad yw parhau i ffeindio pobl ddiddorol i weithio gyda nhw, cyfansoddi a recordio mewn llefydd gwahanol gyda phobl gwahanol. Mae Greta Isaac yn canu deuawd hefo fi ar yr albwm newydd, sef trac teitl yr albwm, mae ganddi hi lais anhygoel sy’n gyrru ias lawr y cefn.

Mi faswn i wrth fy modd petai Gildas yn medru rhyddhau albwm o ddeuawdau rhyw ddiwrnod.

Mi fydd yna rhyw lun o daith gyda Gildas yn hyrwyddo yr album newydd yn ystod yr haf/hydref hefyd, felly mi fydd yn neis gallu cyfarfod â phobl led-led Cymru am sgwrs.

O ran Al Lewis Band, mae’r gwaith wedi dechrau ar drydedd albwm Gymraeg y band. Dwi’n siwr erbyn diwedd y flwyddyn fydd honno wedi cymeryd dipyn o siap ac y barod i’w recordio.

Pan ddechreuais i gyfansoddi nol yn 2006 mi nes i osod targed i mi’n hun o ryddhau rhywbeth bob blwyddyn (Sengl, EP, Album….unrhywbeth!!) er mwyn cadw meddwl creadigol a chadw momentwm cerddorol. Dwi wedi llwyddo hyd yn hyn a mi fasa’n braf cael rhyddhau albwm Gymraeg rhif 3 gyda Al Lewis Band yn 2014 i gadw’n driw at y targed.

Pryd ddechreuais di ganu’r gitâr? 

Deg oed oeddwn i. Mi ges i gitar ar fy mhenblwydd yn 10 – Hohner 3/4 nylon string – mae hi dal gen i. Roedd dad mewn grwp canu yn y 70’au o’r enw Triawd y Bryn ac wedyn Hogiau’r Llan, felly roedd o hefyd yn ganwr/gyfansoddwr oedd yn chwarae’r gitar. Roedd o’n cadw gitar acwstig Fender F250 yn y wardrob yn lloft (mae honno dal gen i hefyd), a bob yn hyn a hyn bydde hi’n dod allan. Dwim yn meddwl fod yna wythnos wedi mynd heibio ers hynny lle nad ydw i wedi gafael mewn gitar.

Dwi wrth fy modd yn gwrando ar waith gitar pobl fel John Martyn, Nick Drake, James Taylor, Chet Atkins, Doc Waston, arddull plycio gyda’r llaw dde. Mae’r gwaith gitar yn eu caneuon yn gyfansoddiadau offerynnol gwych yn eu hunain, felly dwi’n trio defnyddio yr holl ddylanwadau cerddorol hyn pan dwi’n cyfansoddi.

Mae bron pob can gen i gyda Gildas yn dechrau gyda rhyw syniad ar y gitar, patrwm o gordiau neu alaw o ryw fath. Mae’r ‘trefniant’ gitar yn dilyn, yna’r alaw a’r geiriau yn olaf.

Mae’r drefn yn amrywio rhywfaint pan dwi’n cyd-gyfansoddi gyda Al Lewis Band. Gall y caneuon hynny ddechrau gyda unrhywbeth; geiriau, alaw, cordiau neu syniad hyd yn oed. Y peth allweddol yn y berthynas honno yw fod Al a finnau yn ffrindiau oes, ac yn gallu bod yn onest iawn pan mae’n dod i’r gerddoriaeth, gallu cynnig sylwadau positif a negyddol heb i neb ei gymryd yn bersonnol!

Artistiaid sy’n dy gyffroi …

Mae Plu yn un band sy’n wedi ennyn fy sylw yn ddiweddar. Mae eu harddull cyfansoddi, set-yp gwerinol a’r lleisiau hudolus yn rhywbeth sydd yn apelio yn fawr. Mae gwrando yn teimlo fel cam nol i’r 70’au cynnar, sy’n beth da!! Does dim degawd gyfoethocach o ran canwyr/cynfansoddwyr. Allai ddim aros i’w halbwm gyntaf ddod allan.

Mae album newydd Georgia Ruth Williams hefyd yn argoeli’n chwip o gasgliad. Mae hi wir yn ‘gwbod ei sdwff’ pan mae’n dod i gerddoriaeth a dydi cael Cowbois Rhos Botwnnog fel band cenfdir ddim yn ddrwg o beth chwaith nachdi? Dwi meddwl mai Dafydd Cowbois yw fy hoff drymiwr yn yr SRG, mae ganddo fo ‘feel’ anhygoel i gerddoriaeth ‘country’.

Sen Segur yw’r band ifanc sy’n sefyll allan i mi. Mae na rhywbeth hypnotig ei naws yn y gerddoriaeth sy’n tynnu’r gwrandawr i mewn a’u tywys i arall-fyd psychedelic. Mae nhw’n wych yn fyw hefyd. Mae nhw wedi gwneud lot i lenwi’r gwagle nath Jen Jeniro adael ar ol gwahanu.

Arwel Lloyd - Gildas

Arwel Lloyd – Gildas

Unrhyw beth yn peri pryder i ti am y sin gerdd yng Nghymru ar hyn o bryd?  

Mae’r sefyllfa gyda PRS, BBC ac Eos yn parhau i fod yn un anffodus a rhwystredig iawn, dim ond oherwydd nad yw’n ymddangos y bydd unrhyw fath o gyfaddawd yn y dyfodol agos. A dwine fel llwyth o gerddorion eraill eisiau gweld y peth yn cael eu ddatrys fel y gall y diwydiant symud yn ei flaen, be’ bynnag fo canlyniad y trafodaethau.

Ar nodyn fwy gobeithiol, mae nifer o drefi/dinasoedd Cymru wedi profi rhyw fath o adfywiad cerddorol yn ddiweddar – Wrecsam (Gwyl Focus Wales), Llanrwst (Gwyl Gwydir), Abertawe (Gwyl Pili Pala) a Chaerfyrddin (Gwyl yr Hen Dref). Mae’n gyffrous iawn gweld pobl yn ymdrechu’n galed i sicrhau llwyfanau mewn ardaloedd gwahanol i gerddoriaeth o bob math gyda chysylltiadau Cymreig. Mae’n diolch ni fel cerddorion yn anferth. Hoffwn i weld mwy o hyn!

Ydy dysgu yn ogystal â ffeindio amser i gyfansoddi a pherfformio yn anodd? 

Mae’n gallu bod yn lladdfa ar adegau, yn enwedig yr holl deithio a’r diffyg amser i ymlacio. Ond mae gan y rhan fwyaf o bobl yn y SRG swyddi llawn amser byddwn i’n tybio, felly dydio ddim yn beth anghyffredin. Dwi’n mwynhau pob eiliad o’r ddau, ac yn teimlo’n freintiedig iawn yn cael bod yn rhan o’r byd addysg a cherddoriaeth.  

Dy hoff le yn y byd …

Mae’n rhaid i fi ddeud Llansannan dwi meddwl, pentref fy magwraeth. Dwi ddim wedi bod yn byw yno ers 10 mlynedd a mwy bellach, ond mae’n cadw lle agos iawn at y nghalon i. Os bydde’n rhaid i fi ddewis lleoliad, dwi’n meddwl mai Castell Carreg Cennen ydio. Mae ‘na rhyw ramant ac urddas ysgytwol yn perthyn i’r lle, heb son am yr hanes. Mae ‘na gan o’r enw Carreg Cennen ar yr albwm hefyd.

Gyda pwy hoffet ti ganu deuawd a pam? 

Joni Mitchell dwi meddwl. Hi ydi brenhines y canwyr/cyfansoddwyr a’u gitar, heb os, a dwi’n edmygu ei thalent a’i dawn hi’n aruthrol. Mae’n brofiad mor emosiynol gwrando ar ei gwaith, ac yn affodus tydi artistiaid cyfoes heddiw ddim cweit yn gallu cynnig uchelfannau rhywun fel Joni. 

Advertisements

Fflur Dafydd

FFLYR DAFYDD

Fflur Dafydd

You Found Me Out – Beth oedd sbardun rhyddhau’r caneuon yn Saesneg?

Daeth y sbardun i ryddhau’r caneuon eto yn Saesneg yn sgil cael ymateb mor ffafriol a chynnes wedi perfformio’n ddwyieithog ar Radio Wales. Am y tro cyntaf, nes i ystyried efallai fod yna gynulleidfa i fy nghaneuon yn Saesneg. Mae’r EP yn rhyw ffenest fach i mewn i’r albym i’r di-Gymraeg.

Wrth gyfieithu ac addasu, buan iawn wyt ti’n sylweddoli bod yr iaith Gymraeg yn rhagori o ran ei rhythmau – doedd ‘Rhoces’ ddim yn hawdd i’w chyfieithu am nad oes ‘na air Saesneg cyfatebol, ac roedd rhaid ffeindio ymadroddion, geiriau, ac odlau newydd i greu’r un ystyron ac emosiynau, a oedd yn dipyn o sialens. Ond wedyn roedd ambell i gân yn llifo’n rhwydd yn Saesneg – dwi’n meddwl am gân fel ‘Lammas St.’ (addasiad o’r Ferch sy’n licio’r gaeaf) ac efallai am mai stori garu yw hi bod modd iddi gyfathrebu’n rhwydd mewn dwy iaith. Ac mae’r gân sy’n deyrnged i Ray Gravell – bron roedd hi’n bwysig bod hon yn bodoli yn Saesneg am bod Ray yn ffigwr mor bwysig ac yn rhywun a oedd yn llwyddo i uno’r Cymry, pa bynnag iaith oedden nhw’n siarad.

Dwi wedi dewis unwaith eto y caneuon sy’n deyrngedau i bobl – i fy merch, (Beca), Ray Gravell, fy ngŵr, (Iwan – sydd yn y band hefyd) a fy mrawd bach (Meilyr Ceredig).

Mae’r profiad o ddod yn fam wedi newid pob dim yn fy mywyd, wedi fy ngwneud yn fwy dwl, yn gryfach, yn fwy goddefgar. On i eisiau rhoi’r teimladau hynny ar gân ar gyfer y dyfodol, a dyfodol fy merched. On i’n feichiog iawn yn ystod recordio’r EP yma ac mae hynny i’w glywed yn fy llais – mae fy llais wastad wedi newid pan dwi’n feichiog. Er nad oes ‘na deyrnged uniongyrchol i fy ail ferch (Luned) dwi’n licio meddwl ei bod hi’n rhan o’r EP gan ei bod hi yno’n cicio trwy gydol y broses!  A nawr dwi’n clywed y gytgan yn wahanol – nid ‘Fy rhoces i’ ond ‘Fy rhocesi…’

Rwyt ti wedi son fod artistiaid fel John Martyn, James Taylor a Nanci Griffith wedi dylanwadu arnat. Fedri di son mwy am hyn/beth sy’n arbennig amdanyn nhw? 

Dyma’r artistiaid sy’n cyffwrdd yn fy enaid i – nid o reidrwydd yn gwneud i mi ddawnsio na ffrwydro’n llawn egni – ond y cyfansoddwyr sydd wedi darganfod rhywbeth real ac amrwd a phwerus a wedi llwyddo ei rannu ag eraill, a dwi’n ddigon ffodus i fod wedi gweld y tri ohonyn nhw yn fyw – gwefr hynod iawn oedd pob un profiad. Ges i fy magu ar Nanci Griffith i weud y gwir – roedd y casetiau yma wastad yn y car gyda ni fel teulu – felly mae dylanwad canu gwlad yn mynd nôl yn bell. Un o’m gitaryddion (Elwyn Williams – sydd hefyd yn chwarae gyda Steve Eaves) wnaeth gyflwyno John Martyn i mi – a wna i byth anghofio’r wefr o glywed ei lais am y tro cyntaf, a teimlo’r angerdd a’r tywyllwch a’r boen sydd yn y tiwnings gitar amrywiol mae e’n eu defnyddio. Mae James Taylor yn storiwr hynod a’i lais fel mêl ac mae e’n gwella gydag oedran yn sicr.

Lawnsio “You Found Me Out” yng Ngwyl y Gelli …

Dwi wedi cael cyfleoedd anhygoel gan yr ŵyl hon. Wnaeth y cyfan ddechrau nôl yn 2005 pan ges i fy newis i fod yn rhan o gynllun rhyngwladol ar gyfer awduron newydd – y Scritture Giovani – a chael fy nanfon i 4 gŵyl rhyngwladol i ddarllen fy ngwaith, gan ddechrau yn y Gelli. Do’n i ddim wedi sgwennu llawer bryd hynny, ond wrth gwrdd ag awduron gwahanol a chael fy ysbrydoli ganddyn nhw– fe wnes i ddod nôl i GYmru yn sylweddoli mai sgwennu on i am wneud, a dwi wedi sgwennu fel ffwl ers hynny. Wedyn ges i wahoddiad da Owen Sheers i berfformio yn y Gelli ar y cyd gydag e – sioe arall aeth wedyn ar daith yng Nghymru ac i’r Iseldiroedd. Dwi wedi bod digon ffodus i allu gwneud rhywbeth yno bron bob blwyddyn ers hynny – ac eleni dwi’n mynd i fod yn Gymrawd Rhyngwladol i’r Gelli ac yn mynd i ymweld â gwyliau’r Gelli yn Sbaen, Mexico, India, Colombia a Budapest.

Er bod nifer o Gymry yn dueddol o ystyried y Gelli fel gŵyl Seisnig efallai – dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysicach i ni ei gweld hi fel gŵyl rhyngwladol sy’n digwydd bod yng Nghymru – a’n bod ni yn gallu elwa ohoni a bod yn rhan o leisiau’r byd. Dwi’n sicr yn cael gwefr fawr o fod yno ac o berfformio yno – ac o ennill darllenwyr a gwrandawyr newydd. Roedd perfformio i ryw 500 o bobl wrth gefnogi Cerys yn anhygoel.

‘All I see’

Mae’r gân olaf oddi ar yr EP – ‘All I see’ yn mynd nôl blynyddoedd maith – i 2004, pan nes i gyfarfod a chyfansoddwr o Iwerddon, Anthony Mulcahy. Roedd Rhys (Barf) bant ar weithdy cyfansoddi i Iwerddon gyda Mattoidz, ac fe dynnodd rhywun mas, felly fe gynigiodd y lle i mi. Newidiodd y daith hon pob dim i mi.

Prin on i’n gallu chwarae gitâr, ond fe’m taflwyd mewn i sefyllfa lle bu’n rhaid i mi gydweithio gyda’r cyfansoddwr ma do’n i erioed wedi cwrdd ag e – ac fe ddigwyddodd bethau rhyfeddol. Sgwennodd Anthony a fi 5 cân mewn 2 ddiwrnod, a dod yn ffrindiau agos iawn. Wnaeth y berthynas barhau a sgwennon ni sawl cân gyda’n gilydd wedi hynny, a dwi wedi ymweld ag e yn Efrog Newydd ers hynny i sgwennu ambell gân – gan mai dyna lle mae’n byw ac yn perfformio nawr. Ond hon oddi ar yr EP – “All I See” – yw’r orau, ac fe gafodd hi ei sgwennu mewn 5 munud fflat mewn stafell westy yn Waterford gyda hangovers difrifol!

Fedri di son mymryn am ba gerddorion sy’n dy gyffroi di yng Nghymru ar hyn o bryd a pham? 

Yr un band sy’n fy nghyffroi bob tro dwi’n clywed nhw ar y radio ydy HUD – ma’r riffs mor anfarwol a dwi’n dwlu ar eu steil nhw.

Dwi wedi clywed Kizzy Crawford hefyd ac mae hi i weld yn hynod unigryw a ffres, a chanddi lais cyfareddol. Dwi’n ffan mawr iawn o Gildas ac yn dwlu ar unrhywbeth mae Arwel yn neud. On i’n ffodus iawn iddo gytuno i ganu gyda fi ar yr albym ddiwethaf. Mae ansawdd ei lais yn wefreiddiol – mae e’n taflu ei hun gorff ac enaid mewn i bob can.

Fflur Dafydd

Fflur Dafydd

Unrhyw beth yn peri pryder i ti am y sin gerdd yng Nghymru? 

Mae’r sin fenywaidd yn gryf ac yn ddiddorol – Lleuwen, Gwyneth Glyn,  Lowri Evans, Einir Dafydd, Georgia Ruth ‘mond i enwi rhai – a dwi’n browd i fod yn rhan o’r chwaeroliaeth hynod yma, ond weithiau dwi’n meddwl bod prinder bandiau merched. Ddechreuon ni Y Panics (fi, Nia Medi a Betsan Haf Evans) achos ein bod yn gweld bwlch yno – ac i raddau mae e’n dal yno.

Bydde’n dda gweld mwy o ferched yn chwarae’r bas a chwarae’r dryms a rhedeg y sioe i gyd eu hunain (yn hynny o beth wnaethon ni fethu gyda Johnny Panic achos oedd rhaid cael dynion aton ni i gwblhau’r band, ond hei – o leiaf ‘nes i ffeindio gŵr wedyn…) Mae pobl fel Betsan Haf Evans (drymiwr Y Panics) a Heledd Watkins (basydd/cantores Bare Left/HMS Morris) yn arwain y ffordd beth bynnag.

Dy hoff le yn y byd …

Yr UN lle gwefreiddiol i mi o hyd yw Ynys Enlli. Wna i byth anghofio y cyfnod dreuliais i yno. Dwi’n cofio cerdded ar y llwybr fyny at y goleudy (lle ro’n i’n byw am gyfnod yn y bwthyn yn ystod Haf 2002) – a dyheu i amser sefyll yn ei unfan er mwyn i mi gael dal fy ngafael ar yr eiliad honno am byth. Dwi ddim yn credu ‘mod i erioed wedi teimlo mor gryf am un lle yn fy mywyd. Heidiwch yno Gymry! Mae’n rhan hynod o’n hetifeddiaeth. Sgwennais i fy nghan gyntaf ar y gitar yno – Ar Ol Heddi.