Geraint Lovgreen

Pryd ddechreuodd dy ddiddordeb di mewn cerddoriaeth?

Mae’n siwr mai tua 9-10 oed oeddwn i (tua canol y 1960au) pan ges i a fy chwaer a ’mrawd dri o senglau’r Beatles a gramoffôn gen Nain i Nadolig. Dyna hi wedyn, mi fyddwn i’n gwario fy mhres poced ar senglau – Beatles, Animals, Amen Corner… Dwi’n cofio’n iawn mai chwe swllt ac wyth ceiniog (tua 30c) oedd pris sengl. Ges i gitâr blastic Beatles wedyn a gwneud “grwp” efo mrawd chwech oed! Sgwennais gân 4 cord o’r enw “You’ll be sorry some day” – ein hit mwya (wel, ein hunig gân, o bosib). A dwi’n ei chofio hi hyd heddiw!!

 Sut sin gerddorol sydd yng Nghymru ar hyn o bryd yn dy farn di?

Mae’na artistiaid ofnadwy o dalentog yn gwneud pob math o gerddoriaeth yn Gymraeg erbyn hyn – dwi’n rhyfeddu ac yn gwirioni ar artistiaid ifanc mor amrywiol â Gareth Bonello, Yr Ods, Mr Phormula, Georgia Ruth … ac ymlaen ac ymlaen, mae ’na gymaint o dalent ar gael.

Y trueni ydi nad oes cynulleidfa deilwng iddyn nhw, mae fel petai’n well gen lawer o bobl lyncu be mae’r cyfryngau’n ei roi iddyn nhw (Britain’s Got Talent ac ati) yn hytrach na mynd allan i weld rhywun gwirioneddol ddawnus a chreadigol yn canu mewn neuadd neu glwb ar eu stepan drws.

Wyt ti’n edmygu unrhyw gerddor arall cyfoes yng Nghymru heddiw? 

Dwi wedi enwi rhai o’r rhai ifanc dwi’n eu hedmygu yn yr ateb uchod – wedyn mae ’na hen stejars fel Geraint Jarman, Endaf Emlyn a Meic Stevens. Dyna’r recordiau Cymraeg cynta brynais i – roedd ‘Hiraeth’ gan Endaf Emlyn yn LP hollol arloesol yn ei ddydd, pan oeddwn i yn nosbarth 6 yn yr ysgol yn y Drenewydd; dyma stwff Cymraeg roedd fy ffrindiau di-Gymraeg yn gallu ei werthfawrogi.

Wedyn dwi’n edmygu rhywun fel Rhys Mwyn am symud pethau ymlaen a chynnal gigs bach mewn tafarnau fel yr Albert yn Gaernarfon, a mynd â’r Gymraeg i wledydd eraill a phrofi nad oedd raid canu yn Saesneg. A wnes i wastad hoffi Y Cyrff am eu hagwedd a’u cerddoriaeth ddigyfaddawd.

Beth wyt ti’n fwynhau fwyaf am ganu a chyfansoddi?

Be dwi’n dal i fwynhau fwyaf ydi mynd i lefydd gwahanol o gwmpas Cymru a chwrdd â phobl wahanol a pherfformio iddyn nhw! Dwi’n deud o hyd mod i’n teimlo mor lwcus i fedru gwneud hyn fel hobi yn fwy na dim. Cyfieithydd ydwi wrth fy ngwaith bob dydd, yn gweithio o gartre.

Oes gen ti gyngor i gerddorion ifanc sy’n ceisio datblygu gyrfa ym maes cerddoriaeth?

Dim byd wir, dim ond bod yn driw ichi’ch hun a gwneud be ydach chi isio’i neud, nid be sy’n digwydd bod yn trendi neu’n cwl ar y pryd. Ond cyngor gan amatur ydi hyn, dwi erioed wedi meddwl am drio gwneud gyrfa mewn cerddoriaeth. Dwi ddim yn meddwl y byswn i’n mwynhau’r pwysau.

 Gobeithion cerddorol ar gyfer y dyfodol?

Mae gen i lawer o ganeuon y byswn i yn hoffi eu rhoi ar albwm rywbryd, ond dwi ddim yn dda iawn ar y busnes recordio ’ma. Does yna ddim ffordd ddi-boen o’i wneud o, hyd y gwela i. Felly mond gobeithio cadw fy iechyd er mwyn dal ati i gigio!

Soundcloud – 

Twitter – https://twitter.com/ddim_yn_sant

Advertisements

Gareth Bonello

Gareth Bonello

Gareth Bonello

Gen ti CD yn dod allan cyn bo hir  – fedri di son am hynny?

Roeddwn i’n ffodus iawn i ennill grant gan y  Cyngor Prydeinig a PRSF ddwy flynnedd y ôl i fynd i Tsieina am 7 wythnos. Roeddwn i’n artist preswyl gyda chwmni theatr yn Chengdu, yn nhalaeth Sichuan. Pwrpas y prosiect oedd dysgu am gerddoriaeth draddodiadol yr ardal a chydweithio gyda offerynwyr y cwmni theatr. Tra oeddwn yn Chengdu roeddwn yn ‘sgwennu lot o ganeuon i wneud gyda barddoniaeth y bardd enwog Li Bai, a phenderfynais ‘sgwennu albym wedi ei seilio ar hanes bywyd y bardd. Llwyddais i recordio cwpl o ganeuon gyda’r offerynnwyr o’r cwmni theatr ac ers dod nol ‘dw i wedi bod yn cwpla ‘sgwennu a recordio gweddill yr albym.

 Pryd mae’n cael ei ryddhau?

Erbyn mis Medi ‘dw i’n disgwyl, ar label lleol i Gaerdydd o’r enw Bubblewrap records. Mae’r albym yn y Gymraeg i gyd – 11 trac gyda sawl trac offerynnol. Mi fydda i hefyd yn plethu recordiadau wnes i o ddinas Chengdu ymysg y traciau.

Sawl offeryn ti’n chwarae ? Sgen ti ffefryn?

Dwi’n chwarae sawl offeryn – ges i wersi ar y Piano a’r Soddgrwth pan oeddwn i’n ifanc, felly ‘dw i’n gallu chwarae rheini’n dderbyniol. Dw i’n gallu chwarae ychydig o’r mandolin a’r banjo hefyd ac wedi bod yn dysgu sut i chwarae’r Pipa (liwt Tseineaidd) ers dod nol o Tseina.

Ond yn y pen draw i’r gitar ‘dw i wastad yn dychwelyd, ‘dw i’n caru chware’r gitar ac mae’r offeryn wedi bod yn gyfaill cyson i mi ers fy arddegau.

Ti wedi recordio’n lled-ddiweddar gyda’r Chinese Ensemble yn Llundain…  Sut brofiad oedd hynny? 

Gan nad oeddwn wedi cwpla’r albym tra oeddwn i mas yn Tsieina, roedd angen i mi ffeindio offerynwyr ym Mhrydain oedd yn gallu chware rhai o’r un offerynnau a’r ensemble yn Chengdu.

Ar ôl ceisio a methu ffeindio unrhywun yng Nghaerdydd – cefais fanylion cyswllt yr UK Chinese Ensemble yn Llundain, felly aethon ni draw i recordio ‘da nhw. Roedd e’n brofiad itha anodd i ddweud y gwir achos roedd rhaid gwneud popeth mewn un prynhawn, sy’n rhoi lot o bwysau ar bawb! Ond ‘dw i’n hapus gyda’r recordiadau wnethon ni mas ‘na ac yn edrych mlaen i gwpla’r albym nawr!

Mi siaradais i ‘fo ti chydig flynyddoedd yn ôl  (pan oeddwn i’n gweithio fel newyddiadurwr) am dy daith i Tseina. Beth oedd uchafbwynt y profiad i ti a’r isafbwynt?

Ges i sawl uchabwynt yn clywed a recordio’r offerynwyr Tseiniaidd yn chware ac yn jamio gyda nhw. Roedd e’n bleser  ac yn fraint i ddysgu am gerddoriaeth/diwylliant draddodiadol Tseina  a hynny oddi wrth arbennigwyr fel y rhai oedd yn gweithio i’r cwmni theatr.

Y pwynt isaf oedd sylweddoli nad oeddwn i’n mynd i gael y cyfle i gwpla’r albym yn Tsieina. Mae gwahaniaethau mawr yn y ffordd y mae cerddorion yn gweitho allan yn Tseina ac roedd hyn yn creu lot o anhawster pan ddaeth yr amser i recordio. Serch hynny rwy’n falch iawn o’r hyn llwyddais i wneud yno.

Unrhyw brofiad penodol yn aros yn y cof?

Ges i’r cyfle i fynd nol i Tsieina haf diwethaf i chware cwpl o gigs ac fe wnes i gyngerdd dwy awr yn y Forbidden City Concert Hall yn Beijing ddiwedd mis Mehefin 2012. Bydd y profiad yn aros ‘da fi i am weddill fy oes!

Sut wyt ti’n mynd ati i gyfansoddi? Be’ sy’n dy ysbrydoli di?

Rydw i’n un go dda am botsian o biti ar y gitar a ‘dw i’n ffeindio fy mod yn cael lot o syniadau am sgwennu caneuon wrth ymarfer mor aml â sy’n bosib. Pan mae’n dod i ‘swennu geiriau ‘dw i’n ffeindio bod barddoniaeth yn ffynhonell di-waelod o ysbrydoliaeth.

Mae’r albym newydd wedi ei seilio ar farddoniath Li Bai a hen benillion Cymreig.

Uchafbwynt dy yrfa gerddorol?

Rwyf wedi bod yn lwcus iawn ac wedi cael sawl uchafbwynt hyd yn hyn. Yr hyn ‘dw i’n mwynhau fwyaf yw’r cyfleon mae cerddoriaeth yn rhoi i mi deithio a chlywed cerddoriaeth newydd o amgylch y byd i gyd.

Es i mas i Sudan blwyddyn diwethaf gyda band Richard James, Pen Pastwn. Fe wnaethon ni gig awyr agored ym Mhort Sudan ac roedd hynny’n brofiad anhygoel. Cefais amser gwych allan yng ngwyl y Smithsonian yn Washington DC yn 2009 hefyd yn cydweithio gyda rhai o gerddorion gorau Cymru yn ogystal â cherddorion o Dde America.

Gareth Bonello

Gareth Bonello

Pa gerddorion eraill ti’n edmygu? 

Fel gitarydd, dwi’n tueddu i edmygu pobl sydd wedi meistroli’r gitar acwstig ac yn gwrando yn aml ar gerddorion fel Bert Jansch, John Renbourn a John Fahey.

Fel sgwennwr, ‘dw i’n edmygu pobl sy’n gallu cyfuno cerddoriaeth a geiriau mewn ffordd ddeallus ac unigryw. Mae gwaith Gillian Welch a Dave Rawlings wastad o’r safon uchaf a ‘dw i’n eu hedmygu nhw’n fawr iawn.

Rydw i hefyd yn edmygu llawer o gerddorion ‘dw i’n gweld o amglych y sin yn gigio. Mae’n ysbrydoliaeth gweld Cate Le Bon yn parhau i arbrofi tra’n sgwennu alawon anhygoel o dda. Mae Euros Childs yn ddewin pan mae’n dod i gyfuno alawon a geiriau a ‘dw i’n amlwg yn cael lot o bleser yn cydweithio gyda’r cyn-aelod Gorky’s Richard James hefyd.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol…

Ar y foment ‘dw i’n canolbwyntio ar gwpla’r albym Tsieiniaidd. Ond, ar ol hynny ‘dw i’n awyddus iawn i barhau i ‘sgwennu caneuon newydd. Teimlad braf yw dechrau record newydd heb syniad manwl o le bydd yn mynd.

Gareth Bonello @ghbonello