Plu

PluDiolch i Elan o’r band Plu am ateb y cwestiynnau isod.

Pryd ddechreuodd dy ddiddordeb di mewn cerddoriaeth?
Allai’m dweud yn union pryd dechreuodd fy niddordeb mewn cerddoriaeth ond dechreuais gymryd lot fawr o ddiddordeb yn y sîn gerddoriaeth Cymraeg tua deng mlynedd yn ôl mwy neu lai (pan oeddwn yn 15) pan oeddwn yn mynd i weld bands fel Derwyddon dr Gonzo ac Anweledig.
Fedri di son mwy am Arthur?
Mae Arthur yn gan freuddwydol ac eitha ffantasîol gan ei fod o’n dod o syniad dychmygol. Ond cafodd y syniad yna ei ysbrydoli’n gryf gan dirwedd moel a chorsiog y Migneint, ardal sy’n ymestyn o uwchben dyffryn Machno draw bron at Lyn Celyn a lawr tuag at Ffestiniog. Mae ganddo nifer o byllau a llynoedd sy’n suddo’n ddwfn i mewn i’r tir mawnog a dwi’n meddwl bod ‘na deimlad eitha sci-fi i’r ardal, sydd mor agored ac anghysbell. Mae’r gan yn son am arnofio yn un o’r pyllau ar y Migneint, yn ystod y nos ond ar noson glir a serog, ac mae cymhariaethau cyson yn cael eu gwneud rhwng yr elfenau naturiol yn yr amgylchedd â nodweddion ‘Arthur’, ond dydi o ddim yn glir os ydy Arthur yn berson, ysbryd neu enaid.
‘Obsessed efo gwerin’
Mae Cymru’n obsessed efo gwerin ar y funud, sy’n gret i ni! Mae’n golygu ein bod ni’n brysur iawn ac yn cael cyfleoedd ffantastic. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth gwerin, ac beth sydd fwyaf cyffrous am y genre yw’r posibliadau.
Mae’n bosib mynd a gwerin i unryw gyfeiriad a’i gyfuno gyda phob math o genres eraill. Ond os dwi’n siarad nid o safbwynt aelod o Plu ond o safbwynt gwrandawr radio/ gwyliwr teledu/ person sy’n cymryd diddordeb mewn diwylliant Cymraeg/ Cymreig, dwi’n meddwl fod yr HOLL werin sydd o gwmpas ar y funud yn eithaf undonnog. Ond dwi’n credu mai ‘phase’ ydi hyn, mi fydd y rhôd yn troi maes o law gobeithio, a dwi’n edrych ymlaen i weld ‘Wythnos seicadelia’ ar s4c a sesiynnau unnos gan gyfansoddwyr chillout ar C2.
Mae Sain wedi gofyn i ni recordio album i blant iddynt ryddhau, felly dyna ‘di’r prif beth byddem yn gweithio arno rhwng rwan a mis Medi. Mae album i blant yn rywbeth doedden ni rioed wedi meddwl amdano cynt a dwi’n meddwl bod yna botensial iddo fod yn rywbeth cyffrous dros ben. Buasai rhyddhau EP yn fuan ac album arall erbyn haf 2015 yn wych, ond mae’n dipyn o sialens dod at ein gilydd i sgwennu i fod yn onest. Cloi ein hunain mewn ryw fwthyn yng nghanol nunlle am bythefnos fysa’n neud y tric bosib!

Cofio Gerallt …

Un o’r rhesymau y dechreuais i’r blog yma yn y lle cyntaf oedd i nodi cyfraniad unigolion arbennig a chofio pethau o werth diwylliannol. Yn ddiweddar, gwyliais raglen ddogfen Gerallt Lloyd Owen am yr eil dro. Rhaglen ddirdynnol a gonest, yn bortread iasol o arwr cenedl. Roedd rhaid i mi fynd ati i ‘sgrifennu rhywbeth am y rhaglen. Roedd gweld ‘Expires in 25 days’ ar dudalen Clic yn ddigon i godi arswyd arnai. Dyma fy ymdrech felly i nodi rhai sylwadau gan Gerallt a greodd argraff arnai.

 

‘Os na wyddon ni o ble ‘da ni’n dod, wyddon ni ddim pwy ydan ni nag i ble ‘da ni’n mynd…

 

‘Does arna i ddim ofn marw fel y cyfryw – y marw corfforol. Marw yn fy mhen ydy fy arswyd mawr i, hynny ydy, colli ‘nghof. Nid fy nghof fy hun yn unig sydd gen i, ond mae gen i hefyd gof fy nghenedl drwy ei phriod iaith sef y Gymraeg…

 

‘Dydw i ddim yn eisteddfodwr brwd. ‘Dw i ddim na fu mi erioed yn hoff o grwydro’r maes a gweld hwn a’r llall a siarad a’r math yna o beth…ond y pwynt ydy, mae’r ‘steddfod yn bwysig iawn i ni fel cenedl achos mae hi’n un o’r ychydig arwyddion o’n sofraniaeth ddiwylliannol ni – y collson ni sofraniaeth wleidyddol yn 1282 ac felly dyna pam mae’r eisteddfod yn bwysig i mi.

 

‘Dydio’n beth od, hyd yn oed o dristwch weithia, mae na rywbeth braf…

 

‘…Faswn i ddim yn dymuno cael fy nghofio fel hen ddyn bach piwis, blin ar ddiwedd fy oes, ond mi ydw i yn hen ddyn bach blin.

 

‘Dydw i erioed wedi meddwl amdanaf fy hun fel rhywun sydd yn cyflawni swyddogaeth arbennig. Deud yr hyn oedd yn agos at fy nghalon i nes i. Ond, mae na un peth y medra i falle ymffrostio ynddo fo, fedr neb gyfieithu Gerallt Lloyd Owen.’