Seimon Brooks

 Homoffobia yng Nghymru …

Portraits-Small-files-97

“Dwi’n meddwl fod llai o homoffobia yn y Gymru Gymraeg nag a fu. Wrth gwrs bu enghreifftiau o oddefgarwch yn y gorffennol hefyd. Meddyliwch am Prosser Rhys yn ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1924 am gerdd am brofiadau hoyw. Cafodd Freud hyd yn oed clywed am yr hanes! Mae’n bwysig inni beidio gorsymleiddio agweddau cymdeithasol unrhyw gymdeithas, neu unrhyw gyfnod, at ddynion a merched hoyw. Ond yn gyffredinol baswn i’n dweud fod y sefyllfa yn fwy goleuedig erbyn hyn. Mae’n debyg er hynny fod agweddau homoffobaidd yn bodoli ar lawr gwlad, bron fel rhyw fath o isddiwylliant. Am y rheswm yna ro’n i’n arbennig o falch o weld fod Stonewall yn ymgyrchu yn erbyn iaith homoffobaidd mewn ysgolion uwchradd.”

– Seimon Brooks

Casi Wyn

Casi Wyn

Casi Wyn

Beth oedd sbardun cynhyrchu’r EP newydd ‘1’? 

Ma’ recordio caneuon yn debyg iawn i dynnu llun am wn i. Roedd gen i gasgliad o ganeuon ond doeddwn i heb eu cofnodi nhw’n unman. ‘O’n i’n awyddus i dynnu llun ohonynt, a dyna wnes i ar ffurf EP. 

Pa gerddorion sy’n dy gyffroi ar y sin ar hyn o bryd? 
 
Dwi’n mwynhau gwaith Rae Morris ar hyn o bryd. Yn ogystal â Foxes – dwi’n mynd i’w gweld hi’n canu draw i Hackney fis nesa’. Dwi’n licio ref-io i ganeuon Swnami hefyd. Ma’ lleisia’ cerddorion yn dueddol o’m ysbrydoli fi’n fwy na’r offeryniaeth, yn aml iawn. Y llais ydi’r peth cyntaf un dwi’n glywed. Dwi wastad yn meddwl y bydda’r llais yn gallu goroesi heb yr offerynnau’n gefndir.

 

Fedri di ddewis un trac oddi ar dy EP newydd a dweud rhywbeth difyr amdano? 

Ma’ ‘Fan Hyn’ yn son am fod yn andros o hapus yng nghwmni rhywun, boed hynny ym mha bynnag le. Mi fysa ‘Fan Hyn’ yn gallu cynrychioli unrhyw le’n y Byd. 

Ti’n edrych ‘mlaen i gyfrannu at ddiwrnod BBC Radio Wales Music Day ddydd Gwener?

Dwi’n teimlo’n freintiedig iawn o gael bod ymhlith yr artistiad fydd yn perfformio’n rhan o’r BBC Radio Wales Music Day draw yng Nghaerdydd eleni. Mi fydda i’n canu sesiwn fyw ar raglen Louise Elliot yn ystod y prynhawn!

Dy hoff le yn y byd? 

Ers imi symud i Lundain, dwi am ddweud Gogledd Cymru.

Eshi am dro i draeth Porthor am y tro cyntaf yr wythnos ddiwethaf. Dwi’n meddwl fod prydferthwch y Gogledd yn rywbeth ma’ llawer ohonom ni’n ei gymryd yn ganiatol. Nes i ddim gwerthfawrogi harddwch fy mro tan imi adael. 

Sut es di ati i ddewis y gwaith celf sy’n ymddangos ar yr EP? 

Merch ddawnus o’r enw Jodie Chinn sydd wedi dylunio’r gwaith celf. Ro’n i’n byw gyda hi llynedd a dwi’n falch iawn mod i wedi ei chyfarfod hi.

Sgen ti gynlluniau cyffrous ar gyfer 2013? 

Dwi’n canolbwyntio ar hyrwyddo fy EP newydd 1′ ar hyn o bryd. Mi fydda i’n parhau i weithio’n galed gan obeithio dychwelyd i’r stiwdio yn fuan gyda chaneuon newydd a chryfach.

Casi Wyn

Casi Wyn

Sut ddechreuodd dy ddiddordeb di mewn cerddoriaeth ?

Dwi’n canu ers erioed. Canu’n y capel, canu yng nghyngherdda’r ysgol, canu’n Eisteddfod yr Urdd. Dwi’m yn meddwl y baswn i’n gwybod mod i’n gallu canu heb y profiada’ a roddwyd imi’n blentyn. Ro’ ni’n tua 5 oed yn sefyll ar lwyfan ar fy mhen fy hun am y tro cyntaf. Nes i ‘rioed feddwl dwy waith ynglyn â’r peth.

Dwi’n andros o ffodus mod i wedi cael fy nghyflwyno i gerddoriaeth ac alawon cynhenid Gymreig ers yn blentyn. Ma’ gen i storfa eang o alawon gwerin yn llechu yn fy nghof. Dwi’n meddwl eu bod nhw wedi bod o fudd imi gan fod ysgrifennu geiriau i gan yn dod yn gymharol hawdd imi. Dwi’n meddwl fod gan lawer o Gymry ddawn naturiol gyda geiriau. Geshi nhrwytho gyda chyfoeth o alawon, emynau a barddoniaeth tra’n blentyn, adref ac yn yr ysgol- dwi’n andros o ddiolchgar o hynny.
‘Gwerinol’
Ma’ ‘na ambell i berson wedi disgrifio fy llais i fel un eitha’ gwerinol. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r ‘tinc gwerinol’ tan i bobl nodi hynny. Mae’n rhaid bod fy nghefndir o ganu gwerin tra’n blentyn wedi bod yn fwy o ddylanwad arna fi nag y meddyliais. Dwi’n hoffi gwerin ond ma’n well gen i gerddoriaeth Jessie Ware a King Krule ar hyn o bryd.
Dylanwadau dros y ffin… 
Tydw i ddim yn meddwl ei bod hi’n ‘hanfodol’ eich bod chi’n croesi unrhyw ‘ffin’. Ro’ni eisiau symud i Lundain i brofi diwylliant gwahanol, felly dyna ‘nes i. Ma’ pawb yn wahanol.
Ma’r bobl dwi wedi ei gyfarfod yno unai’n wallgo’ neu’n hyfryd tu hwnt. Dwi’n licio’r ddau beth yna. A phobl yn aml iawn ydi’r ysbrydoliaeth tu ol i rai o’m caneuon. Dwi’n dysgu rhywbeth newydd pob dydd ac felly ma’ symud yno’n sicr wedi newid fy ngolwg ar sawl agwedd o fywyd. Ond dwi ddim eisiau byw yno am byth.
‘Gwell Cymro, Cymro alltud’ ys dywed y ddihareb. Ma’ hynny heb os, yn wir yn fy achos i.