Geraint Lovgreen

Pryd ddechreuodd dy ddiddordeb di mewn cerddoriaeth?

Mae’n siwr mai tua 9-10 oed oeddwn i (tua canol y 1960au) pan ges i a fy chwaer a ’mrawd dri o senglau’r Beatles a gramoffôn gen Nain i Nadolig. Dyna hi wedyn, mi fyddwn i’n gwario fy mhres poced ar senglau – Beatles, Animals, Amen Corner… Dwi’n cofio’n iawn mai chwe swllt ac wyth ceiniog (tua 30c) oedd pris sengl. Ges i gitâr blastic Beatles wedyn a gwneud “grwp” efo mrawd chwech oed! Sgwennais gân 4 cord o’r enw “You’ll be sorry some day” – ein hit mwya (wel, ein hunig gân, o bosib). A dwi’n ei chofio hi hyd heddiw!!

 Sut sin gerddorol sydd yng Nghymru ar hyn o bryd yn dy farn di?

Mae’na artistiaid ofnadwy o dalentog yn gwneud pob math o gerddoriaeth yn Gymraeg erbyn hyn – dwi’n rhyfeddu ac yn gwirioni ar artistiaid ifanc mor amrywiol â Gareth Bonello, Yr Ods, Mr Phormula, Georgia Ruth … ac ymlaen ac ymlaen, mae ’na gymaint o dalent ar gael.

Y trueni ydi nad oes cynulleidfa deilwng iddyn nhw, mae fel petai’n well gen lawer o bobl lyncu be mae’r cyfryngau’n ei roi iddyn nhw (Britain’s Got Talent ac ati) yn hytrach na mynd allan i weld rhywun gwirioneddol ddawnus a chreadigol yn canu mewn neuadd neu glwb ar eu stepan drws.

Wyt ti’n edmygu unrhyw gerddor arall cyfoes yng Nghymru heddiw? 

Dwi wedi enwi rhai o’r rhai ifanc dwi’n eu hedmygu yn yr ateb uchod – wedyn mae ’na hen stejars fel Geraint Jarman, Endaf Emlyn a Meic Stevens. Dyna’r recordiau Cymraeg cynta brynais i – roedd ‘Hiraeth’ gan Endaf Emlyn yn LP hollol arloesol yn ei ddydd, pan oeddwn i yn nosbarth 6 yn yr ysgol yn y Drenewydd; dyma stwff Cymraeg roedd fy ffrindiau di-Gymraeg yn gallu ei werthfawrogi.

Wedyn dwi’n edmygu rhywun fel Rhys Mwyn am symud pethau ymlaen a chynnal gigs bach mewn tafarnau fel yr Albert yn Gaernarfon, a mynd â’r Gymraeg i wledydd eraill a phrofi nad oedd raid canu yn Saesneg. A wnes i wastad hoffi Y Cyrff am eu hagwedd a’u cerddoriaeth ddigyfaddawd.

Beth wyt ti’n fwynhau fwyaf am ganu a chyfansoddi?

Be dwi’n dal i fwynhau fwyaf ydi mynd i lefydd gwahanol o gwmpas Cymru a chwrdd â phobl wahanol a pherfformio iddyn nhw! Dwi’n deud o hyd mod i’n teimlo mor lwcus i fedru gwneud hyn fel hobi yn fwy na dim. Cyfieithydd ydwi wrth fy ngwaith bob dydd, yn gweithio o gartre.

Oes gen ti gyngor i gerddorion ifanc sy’n ceisio datblygu gyrfa ym maes cerddoriaeth?

Dim byd wir, dim ond bod yn driw ichi’ch hun a gwneud be ydach chi isio’i neud, nid be sy’n digwydd bod yn trendi neu’n cwl ar y pryd. Ond cyngor gan amatur ydi hyn, dwi erioed wedi meddwl am drio gwneud gyrfa mewn cerddoriaeth. Dwi ddim yn meddwl y byswn i’n mwynhau’r pwysau.

 Gobeithion cerddorol ar gyfer y dyfodol?

Mae gen i lawer o ganeuon y byswn i yn hoffi eu rhoi ar albwm rywbryd, ond dwi ddim yn dda iawn ar y busnes recordio ’ma. Does yna ddim ffordd ddi-boen o’i wneud o, hyd y gwela i. Felly mond gobeithio cadw fy iechyd er mwyn dal ati i gigio!

Soundcloud – 

Twitter – https://twitter.com/ddim_yn_sant

Advertisements

Y Banditos

Hawlfraint: Ochr 1

Hawlfraint: Ochr 1

Diolch i Rhys Dafis (Y Banditos) am adael i ni wybod mwy am yr hyn sydd ganddynt ar y gweill yn y misoedd nesaf.

Beth sydd gan Y Banditos ar y gweill ar hyn o bryd?
 Fyddwn ni’n chware yn Steddfod Rhyn-gol ar y 1af o Fawrth, ac yna gigs yn Tymbl ac Aberystwyth yn hwyrach yn y mis. Fyddwn ni hefyd yn chware cwpwl o gigs amser Steddfod Llanelli. Ni’n recordio demo fel three-piece am y tro cyntaf ar ddiwedd Chwefror ac yn gobeithio recordio yn iawn yn yr haf.
Pwy yw eich dylanwadau cerddorol yng Nghymru?
Ma gyda ni lawer o ddylanwadau, er falle nad yw pob un yn dod drosodd yn amlwg yn y gerddoriaeth.
Fi’n hoff iawn o gerddoriaeth 70au/80au fel Meic Stevens, Edward H, Ail Symudiad a Geraint Jarman, a stwff fel Cowbois, Candelas, Yr Ods, Plu, a Sen Segur-mae cymaint o artistiaid da o gwmpas allen i byth enwi nhw i gyd.
Yn ddiweddar fi wedi bod yn gwrando mwy ar fandie fel Datblygu, Ffa Coffi a Y Cyrff.
Tasa chi’n cael canu gydag unrhyw gerddor yn y byd – pwy fyddai’r cerddor a pam?
Mae’n ddewis anodd! Ond fi’n credu bydde rhaid i fi ddweud Meic Stevens-mae’n gallu cyfleu pob emosiwn drwy ei eiriau mewn ffordd sy’n aml yn dorcalonnus, ac mae ganddo lais gwych.
Mae ei gariad at ei ardal hefyd yn rhywbeth rwy’n medru uniaethu ag ef. Allen i ddysgu llawer wrtho fe!
Fel band fi’n credu y byse ni gyda yn mwynhau gweithio gyda’ Arctic Monkeys. Ein hoff fand ni sy’n canu tu allan i Gymru heb os.
Barn am y sin roc yng Nghymru …
 
Fi’n falch i allu dweud bod yr SRG yn fyw ac yn iach. Mae na lawer o amrywiaeth, ac mae na lawer o fandie ifanc yn ymddangos (yn enwedig yn y de). Y broblem yw fod pobl anwybodus yn edrych i lawr eu trwyne gan ddweud nad y’n nhw’n hoffi “Cerddoriaeth Gymraeg”.
Cyfrwng yw’r iaith, nid genre.
Mae digon o amrywiaeth o gerddoriaeth Gymraeg i blesio bron pawb, felly ma ishe i’r bobl yna godi oddi ar eu tine a mynd allan i drio rhywbeth newydd.
Eich gobeithion ar gyfer y dyfodol …
 
Fel ddwedes i, ni yn gobeithio recordio rhywbeth yn yr haf a gwneud cymaint o gigs a phosib. Fydda i a Tristan yn mynd i’r brifysgol a Gwaredd yn cymryd blwyddyn allan y flwyddyn nesa, ond ni yn gobeithio cario mlaen i gigio, mewn cymaint o gigs a sy’n bosib!

GWYLLT – Amlyn Parry

GWYLLT

GWYLLT

Diolch i Amlyn Parry am y cyfweliad isod  – mae’n son am albym gynta GWYLLT , am eu blaenoriaethau a’u gobeithion. Mae gen i deimlad bod ‘na bethau cyffrous ar y gorwel i GWYLLT.

Ar y gweill …

Wel, ma’r albym gyntaf allan ers tua mis rwan felly ma’n braf cael hynny allan o’r ffordd a chael cyfle i roi ymdrech i mewn i chwarae’n fyw.

Dim ond ers tua mis mae GWYLLT wedi bod yn chwarae’n fyw felly mae sawl gig ar y gweill. Mi fyddwn ni’n chaware un neu ddau o gigs yng Nghaerdydd yn yr wythnosau nesa. Hefyd, rydan ni’n chwarae ym Maes B ar y nos Wener ola ac yn gig Cymdeithas ar y nos Sadwrn ola.

Does dim cynlluniau i recordio mwy ar hyn o bryd – ond dwi wastad yn trio cyfansoddi ar y gitar ac yn trio cael synidau am eiriau. Mae angen dal i fynd, felly shwr o fod mi fydd na fwy o recordio a mwy o ganeuon newydd i’w clywed yn y dyfodol agos – jyst cael petha at ei gilydd yn gyntaf. Dwi’n meddwl mai ymarfer, ehangu’r set a gigio ydy’r flaenoriaeth ar hyn o bryd.

Sut wyt ti’n mynd ati i gyfansoddi caneuon?

Fel arfer, mae’r gerddoriaeth yn dod yn gyntaf, ac yna mi fydda i yn trio sgwennu rhywbeth sy’n ffitio hynny. Efo’r geiriau, unwaith dwi’n teimlo bod gen i bennill gryf, allai orffen y gan. Os yw’r bennill gyntaf yn wan, wnai sgrapio’r gan a meddwl am destun arall.

Hap a damwain ydi’r testun fel arfer. Be’ bynnag syn dod i mhen i ar y pryd a beth bynnag syn odli!  Digon posib  i un gan ddechra a gorffen mewn rhywle hollol annisgwyl.

Y SRG …

Dwi’n teimlo bod ‘na lwyth o fandiau a phrosiectau cerddorol gwych yn Ngymru. ‘Dw i hefyd yn teimlo bod ‘na lot o gefnogaeth allan yna a bod pobol yn barod i roi sylw i fandiau. Dwi’n mwynhau y SRG.

Ma’r sin yn ganolbwynt cymdeithasol i mi ers dros ddegawd rwan ac mae gen i lwyth o ffrindia ledled Cymru oherwydd y sin. Er mai cerddoriaeth ydi’r canolbwynt, mae lot beth da eraill yn dod allan o’r SRG.  Mae’n lot o hwyl a dw i’n tybio bod y sin yn eitha iach.

Amlyn Parry

Amlyn Parry

Tasa ti’n cael perfformio efo unrhyw gerddor o dy ddewis di, pwy fyddai’r cerddor hwnnw a pham? 

Chwarae bas neu lais cefndir i rywun fel Bob Marley dwi’n meddwl. Pam ddim!

Mae o wedi sgwennu caneuon gwych, hollol wych, a ma’r gerddoriaeth, y bas a’r lleisiau yn lot o’i ganeuon o yn briliant. Caneuon fel ‘Zimbabwe’ neu ‘Ride Natty Ride’.

Dwi’n shwr fyswn i’n  mwynhau chwara bas i Bob!

Pwy sy’n dy ysbrydoli di yng Nghymru ar hyn o bryd? 

Ma’ na lot o ffrindia, cerddorion, trefnwyr, blogwyr, a phobol syn sgwennu ac ymdrin â’r sin yng Nhgymru sy’n fy ysbrydoli i wneud cerddoriaeth ar hyn o bryd, a mae’n gret bod yn rhan o’r sin. Mae’r  rhan fwyaf o bobol yn ei wneud o fel mwynhad.

Mae na bobol sy’n rhoi lot o amser a ymdrech i mewn i’r sin gerddoriaeth yng Nghymru – am ddim llawer mwy na phleser. Rheina efo’r ymroddiad sy’n fy ysbrydoli, rheina sy’n dal i fynd a rheina sy’n neud o er mwyn neud o (er gwaetha’r gerddoriaeth ar adegau!)

Vibe GWYLLT …

Cerddoriaeth sy’n hawdd ar y glust

Dy obeithion ar gyfer dyfodol GWYLLT

Ehangu a datblygu. Dal i fynd. Arbrofi a chymysgu. Newid petha o gwmpas. Bod yn hyblyg efo’r gerddoriaeth. Chwara o gwmpas efo steils cerddoriaeth. Mwynhau. Cynhyrchu cerddoriaeth dda.

gwyllt.co.uk

Iwan Huws

Iwan Huws

Iwan Huws

Diolch o galon i Iwan Huws, Cowbois Rhos Botwnog am y cyfweliad isod. Mae’n trafod y sin gerddoriaeth yng Nghymru, record nesaf Cowbois, mae’n son am yr iaith ac yn ateb ambell gwestiwn fwy cyffredinol. Darllen difyr iawn.

Deunydd Newydd

Ar hyn o bryd, rydan ni’n gigio ac yn gweithio ar ddeunydd newydd. Mae’r geiriau’n dod yn ara deg, a’r rhan fwyaf o’r gerddoriaeth wedi’i sgwennu’n barod.

Sut byddi di’n mynd ati i ysgrifennu cerddoriaeth?

Ma’n well gen i wneud y ffordd arall fel arfer, geiriau’n gyntaf ac yna cyfansoddi’r gerddoriaeth i ddilyn. Ond, gan ‘mod i’n ailysgrifennu geiriau’n aml mae gen i stoc o ganeuon sydd angen llwyth o waith ar y geirau. Hyn sydd yn tueddu i ddigwydd pan byddai’n sgwennu.

Am nad ydw i’n gynhyrchiol iawn fel cyfansoddwr mae’n rhaid i mi ailgylchu hen syniadau trwy’r amser, proses sy’n gallu cymeryd tipyn yn hirach na sgwennu can o’r newydd, a mi all fod yn flynyddoedd cyn y byddai’n teimlo fy mod wedi gorffen can. Efallai mai balchder o fath yw hynny, ac efallai y byddai’n well taswn i’n rhoi’r gorau i feddwl mor ddwys am y gwaith, ond mae’n un o’r ychydig bethau mewn bywyd y galla’i reoli.

Trwy’r caneuon y mae’r rhan fwyaf o bobl yn fy ngweld i, a mi ‘dwi’n hoff o gael rheolaeth dros hynny. Vanity, yn sicr, ond pwy sydd ddim yn dioddef o’r clwy hwnnw?

Mi all fod yn anodd weithiau. Fel y dywedais, tydw i ddim yn sgwennwr cynhyrchiol iawn, dim ond rhyw un neu ddwy gan y flwyddyn yn ddiweddar, ac mae hynny’n gallu bod yn straen wrth geisio rhyddhau pethau’n eitha cyson. Mae yna ddigon o rai dwi’n hoff ohonynt ar y funud i wneud albym. Mae hynny’n beth braf. Tydw i ddim yn meddwl ein bod ni, hyd yma, wedi gorfod rhoi can nad sydd yn haeddu ei lle ar un o’n albymau. Dwi’n falch o bob record ‘da ni wedi’i rhyddhau.

Sut record fydd y nesa?

Mi ‘dwi’n meddwl y bydd y nesa yn eitha gwahanol i’r recordiau blaenorol.

Roedd y ddwy ddiwethaf (Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn a Draw Dros y Mynydd) yn greaduriaid tebyg i’w gilydd rhywsut- mi gafodd  caneuon y ddwy albym eu hysgrifennu o gwmpas yr un cyfnod, a’u recordio yn yr un stiwdio gyda’r un cynhyrchydd (Dave Wrench ym Mryn Derwen, Bethesda). Mae’r ddwy honno’n perthyn yn agos i’w gilydd. Ond ar gyfer y nesa dwi’n meddwl y bydd rhaid newid o’r drefn honno- er mwyn cadw pethau’n ddifyr, i ni fel band ac hefyd i’n gwrandawyr.

Cowbois

Cowbois

Dwi’n rhyw feddwl hefyd fod y caneuon newydd yn galw am fwy o amser ar gyfer trefniannau na’r recordiau cynt, mwy o amser nac y gallwn ni fforddio mewn stiwdio broffiesynol, felly dwi’n tybio bydd rhannau helaeth ohoni yn cael ei recordio yn ein stiwdio fechan ni.

Mae safon offer recordio “amatur” wedi codi yn aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae modd cael canlyniadau rhyfeddol gyda offer modern eitha rhad y dyddiau yma. Ac er bod rhaid aberthu ychydig, dwi’n gobeithio y bydd y diffyg cyfyngiadau amser yn fantais i ni.

Tydw i ddim am fynd ati i ddisgrifio’r deunydd newydd, mae ‘na syniadau pendant gennym ond mae ‘na gymaint o bethau yn newid yn y broses o ysgrifennu a recordio fel ei bod hi’n anodd dyfalu sut y bydd rhywbeth yn swnio mor bell a hyn o flaen llaw. Gyda lwc mi fydda ni’n mwynhau ei recordio hi.

Unrhyw beth yn peri pryder i ti am y sin gerddoriaeth yng Nghymru ar hyn o bryd? 

Heb fynd i son am ambell i broblem strwythurol a gweinyddol does gen i ddim llawer o le i gwyno. Mae ‘na lawer o bobl yng Nghymru sydd yn creu cerddoriaeth sydd werth ei glywed, sawl band dwi’n hoff ohonynt ac mae’r cyfryngau a threfnwyr yma yn Nghyrmu yn gefnogol iawn.

Mae modd i fand newydd Cymraeg gael eu chwarae ar y radio cenedlaethol a pherformio o flaen cynulleidfeydd mewn amser byr iawn yma yng Nghymru.

Mi ydw i wedi sylwi ers dechrau perfformio y tu hwnt i ffiniau Cymru ei bod yn haws i fand gael tal call am eu gwaith yma – does yna fawr ddim o’r diwylliant o orfod dibrisio gwaith called trwy chwarae yn ddi dal am rhyw “fraint ac anrhydedd” annelwig, rhywbeth sydd yn gyffredin yng ngweddill y DU. Mi synnwn i weld unrhyw le arall yn Ewrop lle mae cyn gymaint o gefnogaeth i fandiau yn eu dyddiau cynnar.

O ran y problemau arall sy’n cael eu crybwyll yn aml – dim digon o gigs, dim digon o fandiau, dim cynulleidfeydd – does yna ddim byd y gallwn ni wneud am hynny.

Does dim modd gorfodi pobl i ffurfio bandiau, dim modd eu gorfodi i drefnu gigs, nac ychwaith modd i’w gorfodi i fynychu. Mi welais Sen Segur wedi dweud yn ddiweddar ar wefan brythonicana mai diffyg bandiau “tanddaearol” yw’r broblem yng Nghymru. Gan anwybyddu’r ffaith eu bod yn dweud, wrth ddilyn y ddadl honno’n rhesymegol, y dylid cael mwy o gerddoriaeth a llai o bobl i wrando, mae’r ddadl “dwisho mwy o be dwi’n licio” yma yn un od iawn. Does dim y gall rhywun wneud am hynny ond disgwyl yn obeithiol i fand o’r fath ymddangos.

Yn yr un modd mi dwi’n clywed llawer yn cwyno fod pobl ifanc Cymru yn parhau i fod yn hoff o fandiau “hen ffasiwn” fel Dafydd Iwan a Bryn Fon. Beth ddiawl ydi’r otsh? Os ydi Dafydd Iwan, Bryn Fon a’r gynulleidfa’n mwynhau, pa le sydd gan unrhyw un i warafun hynny iddynt? Mae dadleuon o’r fath yn anwybyddu chwaeth pawb arall, a thrwy hynny’n dryllio’r ddadl.

Gall agweddau rhai sydd yn ymwneud a’r sîn beri pryder i mi hefyd. Mae yna rhyw bwyslais annaturiol ar y dyletswydd i gefnogi y sîn Gymraeg am ei bod hi’n Gymraeg, yr honiad mai’r Gymraeg ydi hanfod y gerddoriaeth yn hytrach na’r caneuon. Dim ond cyfrwng ydi’r iaith- tydi hi ddim yn gosod dyletswydd ar bobl i gefnogi.

Mi faswn i’n bersonol yn hoff o weld mwy o integreiddiad rhwng bandiau Cymraeg a di-Gymraeg yng Nghymru, rhywbeth sydd yn brin iawn o’m profiad i. Y mae wastad yn braf gweld trefnwr gig yn seilio noson ar sut y mae bandiau’n gweithio a’u gilydd yn hytrach na’r iaith y maent yn ddefnyddio. Gwaetha’r modd, y mae hynny yn beth prin iawn, mae pobl yn hoff o osod ffiniau lle nad oes eu hangen.

Beth yw dy farn am y ‘language barrier?’ 

Y mae’n bodoli, wrth gwrs, ond ddim i’r ffasiwn raddau y mae pobl yn gredu. Y mae’n bodoli yn syml am y rheswm nad yw pobl yn deall pob iaith, ond tydi o ddim mwy na dim llai na hynny. Tydi’r rhan fwyaf o bobl, o’m profiad i p’run bynnag, ddim yn wrthun i wrando ar gerddoriaeth mewn iaith ddieithr.

Mae’r ffaith fod cerddoriaeth “byd” yn boblogaidd, yn farchnad enfawr, yn tystio i hynny. Tyda ni ddim yn newid ein set wrth groesi clawdd offa,  mi ‘da wedi canu’n caneuon Cymraeg o flaen cynulleidfa gwbl ddi-gymraeg sawl tro, wnaeth na neb ddechrau riot.

Gellir dadlau ei bod hi’n synhwyrol i gyflwyno’r caneuon yn y modd y bydd y rhan fwyaf o’r gynulleidfa yn ddeall, wrth gwrs, ond mae’n bwysig sylweddoli nad ydy hynny yn rhywbeth hanfodol. Dewis personol i’r band ydi hynny, a ni ddylid barnu unrhyw un am wneud.

Does dim byd yn bod ar fandiau Cymraeg yn defnyddio’r Saesneg wrth ysgrifennu, er fod rhyw stigma yn parhau i fodoli, dim ond cyfrwng ydi’r iaith. Mae sgwennu’n Gymraeg a sgwennu’n Saesneg yn ddau ddull gwahanol o wneud yr un peth, fel dau offeryn gwahanol. Mi da ni’n byw bywydau dwy-ieithog, mae’n naturiol i ni ddefnyddio’r ddwy iaith ym mhob agwedd o fywyd.

Mi dwi wedi sgwennu ambell gan Saesneg, am y rheswm syml nad oeddwn wedi gwneud o’r blaen. ‘Dwi, yn bersonnol, yn ffafrio’r Gymraeg, yn yr un modd fy mod yn ffafrio un offeryn dros un arall, ond dim ond am fy mod yn fwy profiadol gyda un na’r llall.

Petai ti’n cael un dymuniad (am unrhyw beth yn y byd) beth fyddai’r dymuniad hwnnw?

Mi fyddai’n pendroni hynny’n aml, a wedi dod i’r casgliad sawl tro mai’r dymuniadau bychan, gwrthrychol, yw’r rhai saffaf i’w dewis. Tydwi ddim a’m bryd ar newid natur y byd, nid fy lle i yw sbwylio’r gêm honno. Felly mi gynigiaf ddymuniad hunanol a gwrthychol- dymunaf am locsyn da.

Pa offerynnau wyt ti’n chwarae? Oes gen ti ffefryn? 

Sawl offeryn, dim un ohonynt i safon uchel iawn. Tydw i ddim yn ofnadwy o gerddorol a dweud y gwir, does gen i ddim clust dda na rhythm da iawn ychwaith. Trwy ddiddordeb a gwaith caled y des i at gerddoriaeth yn hytrach nac unrhyw allu cynhenid. Ar biano neu gitar byddai’n cyfansoddi, rheini di’r ffefrynnau am wn i, offerynnau i gyfeilio. Ond mi dwi’n potsian hefo’r organ, yr organ geg, ac, yn llai llwyddianus o lawer, y sacsoffôn, mandolin, banjo a drymiau….

Taswni’n cael dewis offeryn arall i ganu’n rhugl, mi faswni’n dewis y ffidil. Mae gen i un rad, ond does gen i ddim o’r glust.

Pa gerddorion/ bandiau sy’n dy ysbrydoli yng Nghymru ar hyn o bryd? 

Sawl band, mi ‘dwi wrth fy modd hefo deunydd Yr Ods, mae’n braf cael sgwennwyr pop da yng Nghymru, heb son am rai sydd hefyd yn gwybod sut i adnabod testun da ar gyfer cân o’r fath. Mae “Cofio Chdi o’r Ysgol” ymysg y caneuon gorau i’w rhyddhau yng Nghymru yn y degawdau diwethaf.

Fel arall, dwi’n hoff iawn o Trwbador, Jen Jeniro (roedd yn gnoc i mi glywed eu bod wedi chwalu y llynedd), 9bach, Lleuwen…  Mae Bob Delyn a’r Ebillion yn parhau i fynd hefyd, y dylanwad pennaf ar fy ysgrifennu i o bosibl, a mae ‘na ambell i gân newydd wych yn ymddangos yn eu setiau byw y dyddiau yma.

Mi fyddai’n tueddu i wrando mwy ar gerddoriaeth Saesneg, am y rheswm fod mwy ohono i’w gael ac o ganlyniad fod mwy o sdwff da i’w gael, ond o gysidro pa mor fychan yw’r sîn Gymraeg y mae safon cerddoriaeth yn uchel iawn y dyddiau yma.

Cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol?  

Mi da ni’n brysur yn perfformio trwy’r flwyddyn, Cymru’n bennaf gyda ambell un yn ngweddill y DU bob hyn a hyn, a mi ‘da ni’n brysur hefo Georgia Ruth wrth iddi deithio i gefnogi ei albym gyntaf Week Of Pines hefyd. Gyda hynny, ynghyd â’r cyfansoddi, mi da ni’n cadw’n ddigon prysur.

Iwan Huws – @LlanwMawrHallt

Y Rhacs

YRHACS‘Dw i’n siwr y byddan ni’n clywed llawer mwy am Y Rhacs yn y dyfodol. Er eu bod nhw’n fand eitha’ ifanc ar hyn o bryd, maen nhw’n llawn addewid – eu halawon yn gofiadwy a’u Cymraeg yn hyfryd o naturiol.  Edrych ‘mlaen i weld i ba gyfeiriad y byddan nhw’n mynd gyda’u cerddoriaeth!

Hefyd, braf gweld band ifanc gydag aelodau brwdfrydig sy’n  ymdrechu i ryngweithio a sicrhau cyfleoedd perfformio. Dadl ddiflas yw’r ddadl honno am ‘bobl ifanc a bandiau diog’ sy’n disgwyl i hyrwyddwyr a threfnwyr ddod atyn nhw!

Mae wedi bod yn ddifyr deall ychydig am yr heriau maen nhw’n ei wynebu fel band ifanc a dod i wybod mwy am eu gobeithion ar gyfer y dyfodol. Diolch i Eben a gweddill aelodau’r band am y cyfweliad.

Pwy di pwy?

Eben Myrddin Muse: Gitâr a phrif leisydd

Owain Pritchard: Dryms/bongos

Mabon Jones: Gitâr a lleisiau cefndirol

Gwyn Jones: Gitâr fas a lleisiau cefndirol, pan mae o’n cofio!

Ffaith ddifyr amdanoch  

  • Gwyn: Tan yn ddiweddar iawn, credai Gwyn y bod dau sill yn ei enw; Gw-yn.
  • Mabon: Ar un cyfnod, ychydig flynyddoedd yn ol, mi roedd gan Mabon fwstas bendigedig. Gwell nag un Gwilym Bowen, hyd yn oed. Go iawn.
  • Owain: Mae gan Owain uchelgais o “Fflio plêns”, am fywoliaeth, ryw ddydd.
  • Eben: Mi fedr Eben yfed 6 potel o Actimel mewn 20 eiliad.

Ar y gweill …

Sgwennu sdwff newydd, gweithio ar harmoneiddio Mabon a Gwyn… Does’na ddim gymaint a hynny ar y gweill ar y funud, yn anffodus, dim ond gig efo criw 4a6 ar y 5ed o Orffennaf. Un rheswm am hyn ydi fod 2 aelod o’r band yn mynd  i Affrica  am fis yn ystod yr haf… Ddim yn ideal ar gyfer gigio, ond dyna fo! Os oes ‘na unrhyw un sy’n trefnu gigs yn darllen y blog yma… Peidiwch ag oedi; Cysylltwch!

Eich hoff le yn y byd …

Mabon: Chwilog.
Gwyn: Rhyl.
Owain: Sir Fon (pan yn heulog, felly bron byth).
Eben: Copa mynydd foel, wrth yml Rhosgadfan.

Dylanwadau cerddorol …

Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, y Bandana, Hud, Sen Segur, a Swnami, Gruff Rhys, a’r Niwl,  o ran y SRG ar y funud…

Ond o ran dylanwadau ehangach, mae pobl fel Ray Charles, Cab Calloway, Ap Ted, Muse (no pun intended), The Jimi Hendrix Experience, The Beatles, Anweledig, Frizbee a Three Dog Night yn ddylanwadau ar unigolion o fewn y band, hefyd.

'Mwstas bendigedig Mabon'

‘Mwstas bendigedig Mabon’

Cynlluniau dros y misoedd nesaf …

Ysgrifennu lot o ganeuon newydd dros y misoedd nesa, gobeithio cael set go lew i’w pherfformio fel nad yda ni’n gorfod chwarae rhai o’n hen ganeuon gwael ni mewn gigs drwy’r amser.

Mi fuasai’n hwyl edrych mewn i rai o genres cerddorol eraill yn y dyfodol.. Jazz, ‘falla? Mae Mabon yn hoffi ‘chydig o thrash metal nawr ac yn y man, ‘fyd…

Mi fuasa cael un o’n traciau ni wedi’w ddewis fel trac yr wythnos Dafydd a Caryl yn uchelgais arbennig i ni, hefyd. Wel, fasa just bod ar y radio’n eitha cyson yn oreit, i ddeud y gwir, haha.

Oes na ddigon o gyfleoedd i fandiau ifanc yng Nghymru heddiw?

Mae grwpiau fel criw 4a6, trefnwyr Neuadd Hendre, a Chymdeithas yr Iaith, Pethe Coll, ymysg eraill, yn gwneud gwaith pwysig iawn iawn, yn y gogledd i gynnal digwyddiadau cyson efo bandiau Cymraeg. Ond, mae’na ryw deimlad fod ‘na ddiffyg ymwybyddiaeth ymysg pobl leol am y digwyddiadau yma ac felly yr un un criw o bobl sy’n tueddu i fynd iddyn nhw.

O safbwynt band eitha newydd, anodd ydi cael troed i fewn yn y digwyddiadau i gychwyn, ond mi yda’ni wedi bod mewn cysylltiad efo 4a6 yn ddiweddar, gyda mwy i ddilyn, gobeithio.

Yn lleol iawn, sef o fewn y Dyffryn, does na ddim llawer o nunlle fedrwn ni fynd i berfformio, bendant ddim yn gyson, yn anffodus. Does’na ddim llawer iawn o dafarndai yn dal i fod yn agored, a does’na ddim gwyl roc, fel sessiwn Dolgellau, neu Pesda Roc yma i ni chwaith.

Mae hefyd yn bechod nad ydi digwyddiadau fel gwyl 50 yn digwydd yn amlach yn Nghymru. Mi fasa wedi bod yn anhygoel i chwarae’n fanno!

Iaith …

Mi ryda ni’n dewis canu’n y Gymraeg oherwydd ein bod ni’n teimlo mai Cymraeg yw ein hiaith ni, a’n llais ni.

I fi (Eben), mae sgwennu can yn ymwneud â mynegi syniad, barn, neu farddoniaeth o fath a does genai’m syniade i’w mynegi yn y Saesneg, neu fedra i ddim eu mynegi nhw cystal.

Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig i ni fel unigolion hefyd, a mi ryda ni’n dod o ardaloedd eithriadol o Gymreig, felly nagoes, does na ddim ysfa i gyfansoddi caneuon saesneg, o gwbl, yn y dyfodol agos.

Nia Medi

Nia Medi

Nia Medi

‘Cymanfaoedd canu’

Dechreuodd fy niddordeb mewn cerddoriaeth yn ifanc iawn yng Nghapel Bethania, Y Tymbl mewn cymanfaoedd canu a chanu yn yr Ysgol Sul. Des i ddeall cerddoriaeth a harmoni yn gynnar iawn yn fy mywyd sydd wedi aros gyda fi fyth ers hynny. Wedyn nes i ddarganfod Caryl, Tiffany a Kylie ac yn sydyn iawn cerddoriaeth pop oedd popeth!

Erbyn y 90’au ro’n i’n ffan mawr o indie ac fe ddes i’n gyfarwydd â cherddoriaeth Gymraeg. Dwi’n cofio mynd i gig Catatonia yn yr hen ‘Hospital Club’ yng Nghaerfyrddin a syrthio mewn cariad â Cerys, yna darganfod ‘Jess’ a llogi tap albym ‘Mae’n Hyfryd i Fod yn Fyw’ o lyfrgell Caerfyrddin a’i chware ar repeat.

Yn  hwyrach yn y ddegawd honno nes i ddarganfod cerddoriaeth Ddawns mewn clybiau nos ac wrth gwrs, Llwybr Llaethog ac yna Diffiniad.

Ma’ cerddoriaeth bop a dawns dal yn bwysig iawn i mi ac felly roedd e’n gam naturiol i ymuno â Clinigol. Hefyd, ma’ dylanwad harmonis emynau’r capel wedi aros gyda fi a ‘dw i’n  gweld hi’n hawdd iawn i weithio’r harmonis allan yn y stiwdio pan yn recordio gyda Clinigol.

Beth sgen ti ar y gweill  ar hyn o bryd?

Ar ôl recordio a rhyddhau albym anferth gyda Clinigol llynedd (Discopolis) ma’ pethau chydig yn dawelach erbyn hyn. Ni wedi bod yn trafod y posibilrwydd o recordio mwy, ond ma pawb yn y band mor brysur!

Dwi’n gweithio ar gyfres newydd @ebion ar gyfer BBC Radio Cymru, ma’n chwaer sydd hefyd yn y band yn actores ac yn symud i Lundain cyn hir, a Rufus Mufasa yn cystadlu mewn ‘Battle Raps’ hyd a lled y wlad ynghyd a bod yn weithwraig Cymdeithasol gyda’r dydd!

Wedi dweud hynny, os i ni’n galw’r ‘cyfarfod’ yn ‘barti’ a chynnwys gwin – ma’n hawdd cael pawb yna!

O’m rhan i yn bersonol, ‘dw i newydd ddechrau gweithio ar dracs newydd a dwi yn y lefelau cynnar iawn o’u datblygu a’u cynhyrchu. Dwi’n dueddol o fynd ‘mlaen fel ton gron fod na ddim digon o ferched yn cynhyrchu cerddoriaeth dawns yng Nghymru ac yn sylweddoli fy mod i hefyd yn euog o beidio gwneud.

O’r diwedd ma’r stafell gefn wedi setio fyny i recordio a dw i wedi dechrau cau’n hun fewn yna.

Byw ‘double-life’ 

Rhwng fy arddegau hwyr a’m hugeiniau cynnar  ro’n i’n byw ‘double-life’. O’n i’n treulio lot o amser ar y SRG, yn mynd i gigs Cymraeg, mewn band o’r enw ‘Y Panics’ ac yn caru cerddoriaeth indie y 90’au.

Ar y llaw arall, o’n i hefyd yn dod i dermau mod i’n hoyw ac felly fydden i yn mynd i glwb Nos ‘The Palace’ yn Abertawe bob penwythnos pan nad oedd gig neu’r SRG yn galw. Roedd Y Palace yn hen theatr anferth yn llawn Drag Queens a phobl o bob lliw a llun!

Yno, roedd gen i grwp hollol wahanol o ffrindiau lle oedd neb yn fy nabod i o’r ysgol neu’r SRG. Cerddoriaeth Ddawns oedd yr unig gerddoriaeth oedd yn cael ei chware yn y clwb ac roedd y genre yma yn rhan mawr o’r sin hoyw ar y pryd ac yn dal i fod.

Dwi’n cofio clywed Faithless am y tro cyntaf mewn parti a chael fy llorio gan y swn. Yna, dod yn fwy cyfarwydd â DJ’s gwhanol a syrthio mewn cariad â’r genre. Roedd y cyfnod hwnnw yn fy mywyd chydig bach yn wallgo ond hefyd, wrth edrych nol, mor ddiffiniol a phwysig.

Roeddwn i’n rhan o 2 sin ac roedd gen i ddwy hunaniaeth – y Gymraes oedd yn rhan o’r diwylliant Cymreig, a’r ferch hoyw oedd yn clybio mewn clybiau hoyw dirgel.

Erbyn hyn, dw i’n meddwl mod i wedi plethu’r cyfan ac yn gyfforddus iawn yn fy hun! Hoffwn i weld mwy o bobl ac artistiaid yng Nghymru yn cynhyrchu stwff dawns – ma’ artistiaid fel Plyci a Cyrion yn cynnig swn dawns caled ac yn neud hynny’n wych, a byse’n gret i weld mwy o bobl yn neud hyn.

Clinigol

Ryw 8 mlynedd yn ôl, dechreues i weithio ar rhaglen deledu ‘Wedi 7′ . Ro’ ni’n gyfrifol am lot o’r eitemau cerddoriaeth.

Roedd ‘na fands gwych yn dechrau ymddangos fel Brigyn, Genod Droog, Cofi Bach a Tew Shady a Fflur dafydd a’r Barf (I enwi ond rhai) ond nes i sylwi yn gyflym iawn nad oedd dim cerddoriaeth pop/dawns newydd yn yr iaith Gymraeg yn cyrraedd fy nesg.

Un diwrnod, glaniodd CD sgleiniog  gyda band oedd yn disgrifio’i hun fel band pop dawns o Gaerdydd, ac ar ôl gwrando, deallais yn syth beth oedd y band yma yn trio neud. Roedd Geraint wedi clywed fi’n canu gyda’r Panics ac yn hoff iawn o’n llais a gofynodd i fi ganu ar un o tracs Clinigol yn y dyfodol. A dyna sut ddechreuodd y berthynas. Dw i nawr yn aelod parhaol o’r band a Geraint a fi yn disgrifio’n hunain fel ‘Gwr a Gwraig mewn Pop’!

O ran fy nghyfraniad i, Geraint sydd fel arfer yn sgwennu demo o’r gan yna rhoi mp3 i fi. Dwi’n gwrando ar y demo, yn chware gyda’r melodi ac yna’n cynnig harmonis yn y stiwdio. Dwi hefyd yn rhan o’r trafodaethau a’r penderfyniadau o ran pa artistiaid eraill i weithio â nhw ar dracs gwhanol.

Mae lleisiau merched yn fwy addas i gerddoriaeth dawns na bechgyn a dyna pam ma’r holl artistiaid sydd wedi gweithio ar ‘Discopolis’ a ‘Melys’ yn ferched.

Ar ol clywed y demo ar gyfer ‘Dim ond ti sydd ar ol’, o’n i’n gwbod yn syth mai llais Heather Jones fydde’n gweddu – roedd angen llais pur a diffuant ac roedd e’n hyfryd i gael rhywun mor eiconig ac mor adnabyddus am ganu caneuon gwerin yn rhoi ei llais i gan electronig newydd. Dw i nabod llais fy chwaer , Carys Eleri, yn dda iawn ac felly o’n i’n gwbod yn syth pa gan fyse’n gweddu iddi hi.

Mae Rufus Mufasa wedi ymuno â ni yn barhanol erbyn hyn hefyd. Fe ddechreuodd y berthynas honno flynyddoedd yn ol. Roedd Rufus yn westai ar fy hen sioe radio ar C2 BBC Radio Cymru ar ol i fi glywed chydig o’i thracie ar Myspace. Roedd hi’n ferch mor benderfynol, annibynol a thalentog ac o’n i’n gwbod mod i am weithio gyda hi mewn rhyw fodd yn y dyfodol.

Roedd Geraint a fi yn dechrau chwilio am ferched newydd i gydweithio â nhw ar stwff Clinigol felly dyma  gyflwyno Rufus i Geraint. Doedd Geraint ddim yn siwr be oedd e am wneud gyda’i llais a’i steil unigryw  i ddechrau, ond yr ateb i hynny oedd chware ‘beats’ iddi yn y stiwdio gan adael iddi wneud bach o free style. Drwy hynny, ganed caneuon fel ‘Gypsy Queen’ a ‘Perygl’.

Ynghyd â Carys a Rufus, fi sy’n canu’r caneuon mewn gigs byw. Ma’ Clinigol wedi cydweithio gyda dros 12 o ferched talentog ac eiconig iawn fel Caryl Parry Jones, Elin Fflur, Heather Jones, Margaret Williams ac Amy Wadge – felly byddai’n anodd (heb son am ddrud!) iawn i gael y merched yma i gyd i ganu mewn un gig.

Dydi canu pop/dawns ddim yn hawdd – ma’r pwysau i ganu caneuon sydd a llais Elin Fflur neu Caryl ar y record yn ddigon (Pressure’s ON!) ond hefyd ma’r genre yma mor fanwl gywir o ran y gerddoriaeth; Dyw’r beats na’r trac ddim yn stopio os wyt ti’n colli dy le neu anghofio’r geiriau. Mewn band, neu os fydde’n i’n canu yn acwstig a colli’n lle, ma’n bosib byrfyfyrio neu ‘masgio’r’ camgymeriad, ond mewn pop, all y cyfan fynd ar chwal.

‘Bod yn fanwl gywir’

clinigol

clinigol

Ma steil canu pop yn un sydd yn dy orfodi i  fod yn fanwl gywir o ran llais a rhythm. Hefyd, mae’n rhaid i ti wylio fod dim gormod o vibrato yn y llais a dy fod di’n spot-on gyda’r rhythmau. Ma’ geraint yn ‘perfectionist’ ac ma’ recordio ambell gan yn gallu cymryd lot o amser. Dw i wedi bod am orie yn y stiwdio yn canu un cytgan jest er mwyn cael y peth mor agos at berffeithrwydd ag y gall e fod!

Fi sydd fel arfer yn trefnu’r gigs hefyd a ni fel arfer yn neud siwr fod y nosweithiau hynny yn un parti mawr. Mewn ambell gig mawr fydd y wigs a’r ‘fake eyelashes’ allan, a ni hefyd yn defnyddio fideos gweledol fel cefndir i’r set i neud pethe’n fwy diddorol. Does fawr ddim offerynau ar y llwyfan ac felly dwi meddwl fod e’n bwysig ein bod ni yn gwneud y llwyfan a’r perfformiad yn ddiddorol i’r gynulleidfa.

Merched a’r SRG 

Ma merched gwych ar yr SRG yn cael llwyddiant mawr tu allan i Gymru ac yn rhyngwladol. Ma’ Georgia Ruth newydd ddychwelyd o daith yn India gyda Gwyneth Glyn, yn ogystal â chware yng Ngwyl Werin Canada gyda Lisa Jen a 9Bach.  Ma’ Cate Le Bon newydd symud i LA ar ol creu tipyn o gynnwrf yno wedi neud taith o UDA. Mae’n braf iawn i weld y merched yma’n gwthio’r ffiniau, yn gweld tu hwnt i Gymru a sylweddoli fod hi’n bosib i neidio dros ben Lloegr a mewn i’r byd.

Wedi dweud hynny, byse’n braf gweld mwy o ferched yn cynnig mwy o amrywiaeth o ran cerddoriaeth yng Nghymru. Ma’ cerddoriaeth werin ac acwstig yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd a bron pob merch (heblaw ambell eithriad fel Gwenno, Rufus a Cofi Bach) yn mynd am y steil yma.

Dwi’n colli’r cynnwrf a’r egni oedd rhywun fel Swci yn ei gynnig – swn pop edgy a chymaint o bersonoliaeth, agwedd a rwbeth i ddweud,  a dw i’n meddwl fod y sin yn gweiddi am hynny erbyn hyn.

Dwi’n ffan mawr o’r band HAIM o America ar hyn o bryd – bysen i wrth fy modd tase na grwp o ferched yn mynd ati i neud rwbeth tebyg yng Nghyrmu.

Ma’ na ddiffyg merched yn gyffredinol ar y sin hefyd o ran labeli, cynhyrchwyr, trefnwyr, DJ’s a hyrwyddwyr. Ma’r mwyafrif yn ddynion ond nid bai’r dynion yw hynny – does dim byd yn stopio merched rhag bod yn pro-active!

Y SRG dros y 10 mlynedd diwethaf …

O ran y SRG yn newid a chyflwr y sin ar hyn o bryd, wrth gwrs ma pethe wedi newid lot fawr dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Ma’ cerddroiaeth werin ac acwstig  yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd a phobl ifanc iawn yn dewis y steil yma o berfformio. Ma’ gen i barch mawr at hyn ond dw i yn gweld ishe bands mawr sy’n cyffroi, yn rhoi perfformiad enfawr  â’r gallu i danio stafell.

Dw i wir ddim yn cofio bod mewn gig lle dw i wedi teimlo fel ‘na ers dyddiau Pep Le Pew. Dw i’n  gweld ishe’r agwedd oedd ar y sin a dim ots pa mor feddw a swnllyd oedd y gynulleidfa, roedd band fel Pep Le Pew (A Genod Drwg wedi hynny) yn gallu hawlio sylw.

Heblaw am ambell fand fel Yr Ods a Bandana, ma’ na ddiffyg enfawr o ‘headliners’. Ma’r gerddoriaeth yn dawel iawn erbyn hyn ac felly o bosib fod y sin yn gyffredinol yn dawelach a llai cyffrous. Ond ‘Swings and Roundabouts’ yw pob dim, a dwi’n dechre teimlo fod na bethau cyffrous iawn rownd y gornel…

‘Garage Pop Rock’ 

Dw i’n hoff iawn o’r band newydd ‘I Fight Lions’ sef proseict newydd y cerddor Hywel Pitts. Ma’r band yn disgrifio’r swn fel ‘Garage Pop Rock’ a ma’n hen bryd cael swn fel hyn allan yna eto. Does dim llawer o gerddoriaeth roc wedi bod o amgylch y lle dros y blynyddoedd ac ma’r band yma’n cynnig hynny ac yn ei wneud e’n dda iawn.

Pan glywes i sesiwn Y Reu ar rhaglen Huw Stephens ar C2 wythnos diwethaf o’n i mor, mor hapus.  Dw i’n edrych ‘mlaen yn fawr i weld y band yma’n datblygu ac yn gobeithio cael y cyfle i’w gweld nhw yn fyw yn fuan iawn. Hefyd, nes i weld Kizzy Crawford yn perfformio mewn rownd o Brwydr Y Bandiau C2 yn ddiweddar. Roedd hi’n canu yn acwstig, yn medru’r gitar yn afreal o dda am ei hoed ac yn meddu ar lais hollol, hollol wych. Ond yn dawel fach, dwi’n gobeithio neith hi ddatblygu i fod chydig mwy amgen a chynnig rwbeth hollol newydd…

Barn Nia Medi yn unig sydd yma