Aled Hall

Aled Hall

Aled Hall

‘Capel’

Dechreuodd fy niddordeb mewn cerddoriaeth yn gynnar iawn yn fy mywyd a gweud y gwir, ar yr aelwyd gartref. Roedd mam, dad a fy nhadcu yn gantorion da ac wrth reswm roedd caerddoriaeth i’w glywed trwy’r amser naill ai ar y radio neu’r teledu ac yn y capel wrth gwrs.

Yn y capel ges i berfformio ar lwyfan am y tro cyntaf. Ma ‘na recordiad da’n fam ohonai yn canu yn eisteddfod y capel pan o’ ni ond yn bedwar oed, felly mae fy  nyled i’r capel yn fawr iawn yn hynny o beth. Ymlaen wedyn i gystadlu yn yr Urdd a’r Genedlaethol.

Fues i’n ffodus iawn hefyd o gael athrawes arbennig yn yr ysgol uwchradd yn ysgol Ramadeg Llandysul sef Mrs.June Lloyd Jones, rhywun wnaeth meithrin fi’n arbennig drwy fy addysg gerddorol, mae fy nyled yn enfawr iddi.

O fan hyny wedyn, ‘mlaen i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cerdd ac yna i Lundain a’r Academi Frenhinol i astudio Opera cyn troi’n broffesiynol rhyw 16 mlynedd yn ol.

Tri Tenor Cymru

Fi wedi bod mor ffodus gyda’n ngwaith ac wedi cael cyfle i drafaelio’r byd ac ymweld â glewdydd megis Ffrainc, Almaen, Awstria, Bermuda, America a Japan. Ond, rhaid gweud bod hi wastad yn neis dod adre i Gymru fach.

Ers rhyw dair mlynedd nawr, dw i wedi bod yn aelod o Tri Tenor Cymru sy’ wedi bod yn lot lot lot o hwyl a sbri. Ni wedi bod yn brysur tu hwnt dros y dair mlynedd ddiwethaf gyda’r albwm cyntaf (sydd wedi gwerthu’n arbennig o dda!) cyngherddau a nifer o ymddangosiadau teledu, y diweddara ‘Noson yng nghwmni’.

Fe wnaetho ni gael shwt gymaint o hwyl yn recordio’r rhaglen, credwch chi fi! Gwaith caled cofiwch achos roedd lot o ganu i’w recordio mewn un  dydd. Ond ‘well worth it’ a S4C yn bles iawn â’r ffigurau gwylio – felly gobeithio newch chi’n gweld ni ar y sgrin yn fuan eto! Croesi popeth  achos dwi’m yn meddwl bod digon o’r math yna o beth ar teledu dyddie yma. Mae pobol wrth eu bodd da’r math yna o raglen – bach o ‘light ent.’ Canu da a lot o sbort a sbri – rhywbeth sy’n bwysig iawn i fi.

Tri Tenor Cymru – Ail albwm

O ran gweddill y flwyddyn, mae’n edrych yn gyffrous iawn rhwng popeth.

Ni’n brysur iawn ar hyn o bryd, Tri Tenor yn recordio’n hail albwm gyda cwmni Sain gyda’r gobaith o gael e allan erbyn y Nadolig. Hefyd, ma’ na lot o gynherddau ar y gweill – yn eu plith ymweliad â Chanada ddiwedd Awst ac agor y North American Welsh Festival yn Toronto yn ogystal â nifer o gynherddau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

Yn unigol wedyn, mi fydda i’n mynd allan i weithio gyda chwmni Opera Wexford diwedd y flwyddyn a wedyn bant i Lundain i recordio cryno ddisg Opera gyda OperaRara felly blwyddyn brysur rhwng popeth.

Ryan Davies

Bydd pobol wastad yn gofyn i fi pwy sy’ wedi dylanwadu arnai ac mae’n rhwydd iawn ateb a gweud y gwir. Heb os – adeg fy mhlentyndod cynnar, Ryan Davies. Fi’n cofio ei wylio fe ar y teledu a rhyfeddu at ei ddawn i wneud popeth,canu cyfansoddi,whare telyn a piano ac wrth gwrs y ddawn gomedi anhygoel oedd ganddo.

Nes ymlaen wedyn, pobol fel Pavarotti, Alfredo Kraus, Nicolai Gedda a Syr Geraint Evans i enwi dim ond rhai.

Aled Hall

Aled Hall

@AledHall

Dw i newydd ddarganfod trydar a dwi wrth fy modd gyda fe rhaid i fi ddweud.

Ma fe’n handi iawn i gadw bobol ‘yn y loop’ ynglyn â beth sy’ mlaen ‘da fi fel canwr. Mae’n gyfrwng da iawn i hysbysu pobl am ddigwyddiade pwysig ac mae’n hyfryd cael ymateb pobol arno ar ôl rhaglen deledu neu gyfweliad radio.

Ond, fi’n hoffi ei ddefnyddio hefyd i weud ambell i joke fach neu rhyw ddywediad bach i ddod a gwen i’r wyneb hefyd.

Mae’n bwysig iawn gwenu a pheidio cymryd bywyd yn rhy serious.

Advertisements

Sion Goronwy

Beth yw dy atgof cerddorol cyntaf? 
Sion Goronwy

Sion Goronwy

Dechrau yn yr eisteddfod fach leol yn y capel wnes i fel pawb arall o blant yr ardal.  Eisteddfod Talybont ar Llun y Pasg yma yn Rhyduchaf y Bala. Ac mae’r eisteddfod yma yn dal i gael ei chynnal ac yn agored i bawb. Canu dan 6 yn canu rhywbeth tebyg i ‘Fuoch chi rioed yn morio’ neu un o’r hwiangerddi tebyg.  Anodd credu erbyn hyn fod  rhaid i mi sefyll ar ben y set fawr i gael y nghweld tros ben y piano!

Roedden ni yn hynod o lwcus o gael person fel Anti Bet (Bet Puw Richards) i chwarae i ni oherwydd doedd dim bwys ym mha gyweirnod fydde ni yn cychwyn, neu yn newid iddo yn ystod y gân, fyddai Anti Bet hefo ni dim bwys be!

Dy hoff brosiect yn 2012? 
 

Er fy mod wedi gweithio cyfnod go hir gyda Chwmni Opera Glyndebourne yn teithio gyda Phriodas Figaro yn canu rhan Antonio y garddwr, mi wnes i fwynhau gweithio yn ystod yr haf gyda chwmni bach o’r enw Opera Project yn Lloegr.

Cwmni sydd yn rhoi operau ymlaen gydag ychydig iawn o gyllid ac allan i wahanol rannau o’r gymuned yw Opera Project , tebyg iawn i gwmni OPRA Cymru sydd yn perfformio trwy gyfrwng y gymraeg. Eleni i Opera Project roeddwn yn perfformio mewn tair o’u operau, rhan yr athro cerdd Basilio yn Barbwr Seville, y bwli o ewythr Dikoy yn yr opera Katya Kabanova, a’r henwr Simone yn Gianni Schicchi.  Tri chymeriad hollol wahanol, o’r digri i’r brawychus a’r dwys ddoniol.
Oherwydd cyfyngiadau amser i lwyfannu y tair opera, 3 diwrnod i lwyfannu Schicchi, rhaid oedd ymarfer un cymeriad yn y bore ac yna ymlaen i opera a chymeriad arall yn y prynhawn, digon i achosi cur pen ar adegau, ond yn brofiad reit wahanol ceisio newid cymeriad o un i’r llall.  Ond dyne sydd mor bleserus yn y byd canu mynd o un prosiect gwahanol i’r llall, digon o amrywiaeth!
Dy hoff gyfansoddwr? 

Verdi – hoffi cymeriadau sydd ganddo ar gyfer y bas fel Banquo yn Macbeth, Y brenin Phillip a’r Grand Inquisitor yn Don Carlos a dwi yn hoff o’r cymeriad Falstaff ei hun hefyd.  Cymeriad y byddwn i yn hoffi ei berfformio fyddai y cymeriad Boris Godunov gan Mussorgsky rhyw ddydd.

Uchafbwynt dy yrfa hyd yma… 

Un or uchafbwyntiau hyd yn hyn oedd perfformio yn Ngwyl Aix en Proveance yn Ffrainc.  Perfformio yn un o Operau Shostakovich yr oeddwn i.  Opera o’r enw  Y Trwyn! Ermai opera gymharol fer ydi hi o oddeutu awr a hanner, ond mae yne tua 68 o gymeriadau wedi eu henwi ynddi sydd yn canu rhywfaint ynddi.  Felly gyda cast o 22ain rhaid oedd i’r rhan fwyaf ohonom, ar wahan i’r ddau brif gymeriad ganu mwy nag un rhan, roeddwn i yn yrrwr tacsi, clerc swyddfa bapur newydd, plismon rhif 1, gwr parchus rhif 5, a mab i wraig barchus rhif 2!

Digon o waith newid gwisgoedd, y tacsi dreifar yn mynd i ffwrdd ar un ochor y llwyfan, newid gwig a syth nol i’r llwyfan fel un o’r clerciaid papur newydd.  Cyfarwyddwr o Dde Affrica oedd yn cyfarwyddo yr opera, artist ardderchog or enw William Kentridge ac yn rhan o’r cynhyrchiad yr oedd llawer o animeiddio yn rhan o’r cynhyrchiad a rhaid oedd i ni greu siapiau oedd yn cyd fynd ar animeiddio.  Gellir gweld peth o’r gwaith yma o’r un cynhyrchiad pan y cafodd ei lwyfannu yn y Met ar you tube wrth chwilio am The Nose, Shostakovich, Met a William Kentridge.  Mae yn werth cael golwg ar waith William Kentridge ar YouTube.
Y ffactor arall oedd yn gwneud y perfformiad yma yn fwy arbennig oedd cael gweithio yn ardal hardd Aix en Proveance a’r cyfle i gael cerdded yn ardal mor hardd ardal yr artist Cezanne a cherdded am fynydd Saint Victoire oedd yn gymaint ran o waith Cezanne a lle y claddwyd Picasso hefyd.  Braf oedd mynd i gerdded am tua pum awr, llawer o help ar y pryd tuag at golli y pwysau yma!
 
Oes ‘na ormod o bwyslais ar Eisteddfodau a chystadlu yng Nghymru? 

Mae cystadlu yn bwysig ydi ond tydw i ddim yn credu y dylai unrhyw un rhoi gormod o bwysau ar blentyn i gystadlu.  Os ydi plentyn yn awyddus i gystadlu yna cefnogwch y plentyn, ond os nad, yna gadewch lonydd.  Roeddwn i yn cystadlu yn yr eisteddfod fach leol yma tan yr es i’r ysgol uwchradd.  Ond wnes i ddim cystadlu yn unigol yn Eisteddfod yr Urdd yn ystod y cyfnod yma achos doeddwn i ddim eisiau!

Pan oeddwn i yn 16 wnes i gystadlu yn yr Urdd am y tro cyntaf a hynny o’m dewis fy hunan.  Bryd hynny wnes i ddechrau mynd o amgylch mwy o’r Eisteddfodau bychain lleol hefyd ac yma yr oedd rhywun yn cael y cyfle i berfformio o flaen cynulleidfa.
Mae rhywun yn dod yn fwy ymwybodol o gystadleuwyr y dyddiau yma sydd ond yn cystadlu yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol heb fynd ar gyfyl rhai o’r Eisteddfodau lleol, camgymeriad yw hyn yn fy nhyb i, mae angen profiad o feirniadeth a bod o flaen cynulleidfa yn yr eisteddfodau yma cyn mentro ar y llwyfannau cenedlaethol!
 
Sion Goronwy

Sion Goronwy

 

Wnaeth un o dy athrawon canu greu argraff arbennig arnat ti? 

 

Mae rhinweddau ardderchog i bawb sydd wedi’n hyfforddi tros y blynyddoedd.

Bet Puw Richards – dysgu i mi mor bwysig yw dehongli geiriau a cherddoriaeth, dehongli cerdd dant ac alawon gwerin ac unawdau cymraeg.
Ken a Christine Reynolds –  tra yn y brifysgol yn Aberystwyth yn astudio Hanes, yma y gwnes  ddisgyn mewn cariad a chanu a chysidro bod modd i mi fod yn ganwr opera proffesiynol!
Ian Kennedy – yn Ngholeg Cerdd y Guildhall, yma dysgais beth oedd dealltwriaeth ddyfnach o gerddoriaeth.
Graeme Broadbent – Coleg Cerdd Brenhinol, y tro cynta i mi gael gwir Faswr fel athro. Dwi yn dal i gael gwersi gan Graeme ac yn y cyfnod yma mae’r llais wedi newid yn fawr iawn, mae’r gefnogaeth ganddo yn anghygoel am dealltwriaeth o repertoire a llais y bas wedi newid yn fawr iawn. Mae canwr yn dysgu trwy’r amser a’r llais yn newid o hyd!
Dy hoff ganwr?

Dwi yn hoff iawn o Matti Salminen a Martti Talvella, dau for anghygoel o leisiau

 
Sgen ti gynlluniau cerddorol cyffrous ar gyfer 2013?

Dwi yn edrych ymlaen yn fawr i ddychwelyd yn ol i gwmni Opera North i berfformio y cymeriad Snug yn Midsummer Nights Dream, Britten.  Bu i ni berfformio y cynhyrchiad yma cwpwl o flynyddoedd yn ol a chawsom andros o hwyl n ei llwyfannu.  Dwi yn mawr obeithio y cawn yr un hwyl y tro yma!

Un o’r prif newidiadau y tro yma ydi fy mod 11 stôn yn ysgafnach na’r  tro diwethaf i mi berfformio.  Bydd yn rhaid wrth wisg newydd ac fe fydd y cymeriad yn hollol wahanol y tro yma yn ei symudiadau a’r ffordd y bydd yn bihafio!

 
Beth  yw dy ddiddordebau?

Hoff iawn o fynd i gerdded ac erbyn hyn reidio beic.  Mi brynais feic newydd cyn y dolig ac rwy’n mynd ar daith o tua thri deg milltir yn amal iawn.  Cofiwch fodurwyr, os y gwelwch fi o gwmpas Meirionydd ar gefn fy meic yn fy nghot felen lachar, rhowch ddigon o le i mi wrth basio!!

 

Opera – ‘Chwalu’r ddelwedd sy’n cadw pobl draw’

Cyfweliad gyda Sioned Young – OPRA Cymru

Llongyfarchiadau i OPRA Cymru ar  3 enwebiad yng ngwobrau Theatre Critics of Wales am eu cynhyrchiad o Macbeth gan Verdi. Dyw Opera ddim yn gyfrwng newydd, ond rwy’n teimlo bod diffyg trafodaeth a sylw yn y wasg a’r cyfryngau yng Nghymru yn ei gwneud hi’n anodd  datblygu cynulleidfa newydd ar gyfer y cyfrwng. Roedd sgwrsio gyda Sioned am waith a gweledigaeth OPRA Cymru yn ysbrydoledig. Mae’n son am  y dalent cerddorol sydd yng Nghymru, am y  ffordd y mae opra’n cael ei ‘weld’  ac am yr her o ddatblygu cynulleidfa newydd wrth baratoi at y dyfodol.

Opra Cymru

Pam sefydlu OPRA Cymru? 

Sefydlwyd OPRA Cymru gan Patrick a finnau ‘nôl yn 2008 a gwelwyd ein perfformiad cyhoeddus cyntaf ym Mehefin 2009 pan ddaeth y cwmni a dros hanner cant o gerddorion ifanc at ei gilydd i ffurfio cerddorfa. Perfformiwyd rhai o glasuron byd opra oedd wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg mewn cyngerdd ym Mhontrhydfendigaid, gyda chantorion opra proffesiynol ( yn ogystal ag enwau newydd ar y pryd) yn perfformio gyda’r gerddorfa ifanc.

Troad y Rhod ddewison ni fel enw i’r digwyddiad. Addas iawn, gan ein bod yn perfformio ar ddydd Gwyl Ifan. Ond hefyd, ac yn bwysicach i ni, fe ddewison ni’r enw yma i adlewyrchu un o’r prif resymau dros sefydlu’r cwmni, sef i drawsnewid – i droi ar ei ben- y syniad o beth yw opra ac i newid y ffordd mae opra’n cael ei weld yng Nghymru. Ein bwriad o’r cychwyn yw i ddangos ei fod yn gelfyddyd i bawb.

Fe’n hysbrydolwyd ni ymhellach oherwydd y cyfoeth o dalent cerddorol sydd yma yng Nghymru a’r ffaith bod gwerthfawrogi cerddoriaeth dda yn dod yn naturiol i ni’r Cymry, diolch i raddau helaeth i’r traddodiad eisteddfodol a chorawl.

Mae opra wedi tueddu i fod yn gyfrwng diarth yma yng Nghymru ac efallai yn cael ei weld fel rhywbeth elitaidd. Roedden ni’n meddwl buasai’n her i ni geisio cyflwyno’r cyfrwng i gynulleidfaoedd na fyddai fel arfer yn dod i weld opra. Roedden ni’n hyderus byddai’n gwaith yn cael ei werthfawrogi mond i ni chwalu’r ddelwedd sydd yn cadw nifer o bobl draw.

Welson ni gyfle i greu diwylliant newydd mewn ffordd. Diwylliant operatig hollol Gymreig! Mae cymaint o dalent yng Nghymru ac mae gweld perfformwyr yn mynd tu allan i Gymru i chwilio am waith yn eitha trist. Ein gobaith yw i gyfrannu mewn rhyw ffordd tuag at gynnig cyfleoedd i berfformwyr talentog er mwyn iddyn nhw allu gweithio yng Nghymru ac yn y Gymraeg.

MacbethRydych chi newydd deithio Macbeth gan Verdi. Beth oedd uchafbwyntiau/ isafbwyntiau’r daith? 

Sefydlu cynulleidfa yw’n her fwyaf.

Yn dilyn ein cyngerdd agoriadol fe ddysgon ni bod rhaid i ni fynd i bob rhan o Gymru i ddenu cynulleidfaoedd newydd. Mynd a’n gwaith at y bobl.

Ein bwriad yw i wneud opra yn brofiad uniongyrchol ac hygyrch i’n cynulleidfaoedd. Dyna pam mae teithio i neuaddau a theatrau bach yn bwysig i ni a dyma hefyd y rheswm ein bod yn perfformio yng nghanol cynulleidfa (ar ffurf arena) . Mae’r gynulleidfa yn agos iawn at y perfformwyr yn ein sioeau, yn gorfforol yn ogystal a’n ieithyddol ac felly yn gerddorol a’n theatrig hefyd.

‘Dim rhwystrau ieithyddol’

Mae OPRA Cymru yn perfformio yn Gymraeg, ac felly mae’r gynulleidfa yn cael ei thynnu fewn i ddrama’r opera heb unrhyw rwystrau ieithyddol. Pan ddaw’r geiriau’n fyw, daw’r gerddoriaeth yn fyw hefyd. Mae hyn, dwi’n credu yn agosach at y profiad gwreiddiol o fynd i weld opera.

Dyma sut oedd Verdi’n cyfatherbu a’i gynulleidfa yn yr Eidal, yn iaith y gynulleidfa, a dyma sut i ni’n cyfathrebu gyda’n cynulleidfa ni.

Fel rhan o’r nod o ledaenu’n cynulleidfa mae’r cwmni’n gweithio gydag ysgolion. Bob tro fyddwn ni’n teithio ( a hon oedd ein trydydd taith) y’n ni’n cynnal gweithdai mewn ysgolion ac yn cyflwyno iaith a drama opra i ddisgyblion yn y gweithdai yma cyn cyflwyno perfformiadau llawn iddyn nhw. Disgyblion heddiw yw cynulleidfa yfory.

Creu diddordeb, awch a brwdfrydedd ymhlith plant a phobl ifainc a rhoi profiad theatrig cofiadwy iddynt yw’r nod ac mae’n beth braf iawn gweld rhyw 250 o ddisgyblion ysgol uwchradd ar flaen eu seddi wrth wylio a gwrando ar waith Verdi. Roedd hyn yn sicr yn uchafbwynt wrth i ni deithio. Mae gweld neuaddau llawn a’r cynulleidfaoedd ar eu traed yn cymeradwyo wrth gwrs yn wefr hefyd!

Faint o sylw mae Opera yn ei gael yng Nghymru? 

Mae’n wir ein bod yn cario’r baich o gael ein cysylltu a chyfrwng artistig a ystyrir yn elitaidd. Ond mae’r bobl sydd yn medru goresgyn y rhwystr cyntaf yma ac yn mentro dod i weld ein perfformiadau wrth eu bodd. Mae talent yn goresgyn snobyddiaeth ac elitiaeth.

 Beth mae OPRA Cymru yn gobeithio ei gyflawni yn y 10 mlynedd nesaf? 

Mae’r cwmni yn mynd i ddal ati i berfformio mewn neuaddau pentref ar raddfa fach ac yn awyddus i gynyddu’r gwaith a’r partneriaethau gydag ysgolion ar draws Cymru. Byddwn yn parhau i gyfieithu operau clasurol ac enwog i’r Gymraeg ond ein gobaith yw y byddwn hefyd yn medru annog cyfansoddwyr i greu operau newydd yn Gymraeg. Ni’n dysgu gymaint wrth ddatblygu’r cwmni ac mae hyn yn ein gyrru ni ymlaen wrth i ni dyfu.

Mae’n fwriad gennym i sefydlu rhyw fath o ŵyl haf er mwyn datblygu’r hyn wanethon ni yn ein cyngerdd cychwynol, sef cynnig cyfle i gerddorion ifanc berfformio mewn opera llawn ac felly i gyfannu’r rhod.