Gyrru Drwy Storom (Gol. Alaw Griffiths) Y Lolfa

Fi a'r gyfrol newydd sbon!

Fi a’r gyfrol newydd sbon!

Dyma gyfrol newydd Gyrru Drwy Storom (Y Lolfa). Cafodd y gyfrol ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Yn y fideo isod, dw i’n son fymryn am fy nghyfraniad i’r gyfrol – dyddiadur o’r chwarter blwyddyn a mwy dreuliais i mewn sbyty meddwl. Er bod petha’ wedi gwella cryn dipyn pan mae’n dod i iechyd meddwl, mae na lot o ffordd i fynd eto gyda stigma yn parhau i fodoli!

 

Dw i’n grediniol y gwnaif petha wella i unigolion os ydyn ni’n rhannu profiadau a siarad yn agored am y sialensiau a ddaw yn sgil anhwylderau.

I brynu copi http://www.ylolfa.com/en/dangos.php?ISBN=9781784611439

 

Advertisements

Penwythnos INC, 2015

Galeri yn cyflwyno Inc 2015 (04.06.2015 – 07.06.2015) 

Swyddfa Docynnau Galeri – 01286 685 222 

4-diwrnod llawn o weithgareddau’n ymwneud mewn rhyw ffordd neu gilydd â byd newyddiadura, y wasg a’r byd cyhoeddi. Dyma linc i Papur newydd INC 2015 

Ymhlith rhai o uchafbwyntiau’r penwythnos eleni:

Gwobr Llyfr y Flwyddyn

04.06.2015 

18:30 (Derbyniad) 19:15 (Seremoni)

£10.00 / £8.00

Seremoni Llyfr y Flwyddyn credit Lleucu Meinir 

Ymunwch â Llenyddiaeth Cymru ar gyfer uchafbwynt gwobrau llenyddol mwyaf Cymru. Yn dilyn derbyniad gwin a canapés yng nghwmni beirniaid Gwobr 2015 ac awduron y Rhestr Fer, cewch ddarganfod pa lyfrau sydd wedi dod i’r brig yn y categorïau Barddoniaeth, Ffuglen, a Ffeithiol Greadigol, a pha lyfrau sy’n cipio’r teitlau Llyfr y Flwyddyn 2015 yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Arddangosfa Cloriau INC

04.06.2015 – 08.06.2015 (Safle Celf Galeri)

CLORIAU LOGO (Medium)

 

Arddangosfa arbennig i ddathlu’r Sîn Roc Gymraeg drwy gloriau albymau’r 40 mlynedd ddiwethaf. Trefnwyd yr arddangosfa gan yr Eisteddfod Genedlaethol yn wreiddiol, gyda Rhys Aneurin yn curadu. Dyma fydd y cyfle olaf i weld yr arddangosfa – a bydd yn Galeri tan ddydd Llun 08.06.15.

Yn dilyn yr agoriad swyddogol, bydd Yws Gwynedd yn perfformio set yn y bar o 21:30 [mynediad am ddim].

image001-4-1

INC Dylanwadau: Kate Crockett  

14:00 – 15:00 (Stiwdio 2)

£5.00 / £4.00

5.6.15 Dylanwadau Kate Crockett

Mae Dylanwadau’n gyfres newydd gyda Mari Emlyn yn holi personoliaethau o fyd y celfyddydau am y dylanwadau sydd wedi llywio eu gwaith. Bydd “Dylanwadau INC” yn croesawu Kate Crockett; newyddiadurwraig sy’n ymddiddori’n fawr yn y celfyddydau. Mae wedi cyhoeddi tri llyfr, un ar y sîn roc Gymraeg a dau ar Dylan Thomas, gan gynnwys Mwy Na Bardd: Bywyd a Gwaith Dylan Thomas (2014). Bu’n cyflwyno nifer o raglenni teledu a radio, ac ar hyn o bryd mae’n cyflwyno’r Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru yn y boreau.

Linc i Inc

10:00 – 16:00 / Bar

06.06.2015

Am ddim

rsz_6615_linc_i_inc

Awydd gyrfa mewn newyddiaduraeth? Cyfle i ‘Hacs’ y dyfodol fod yn newyddiadurwyr am ddiwrnod a hynny dan arweiniad y newyddiadurwr profiadol, Sali Collins. Cewch brofiad o ‘sgwennu, gohebu a chyhoeddi cynnwys yn ystod Gwyl Inc, 2015. Byddwch hefyd yn gwneud cyfweliadau, adolygiadau ac yn adrodd hanes yr wˆ yl gan fynegi barn am amrywiol ddigwyddiadau celfyddydol. Mae angen archebu eich lle drwy dderbynfa Galeri a thalu blaendal (a gaiff ei ad-dalu) o £5. Addas ar gyfer pobl ifanc 18 – 25 oed.

Dal Pen Rheswm

15:00 – 16:00 / Theatr

£8, £6 

rsz_dal_pen_rheswm

Dau sydd a’u gyrfaoedd, a’u cyfeillgarwch, yn ymestyn yn ol hanner canrif – cyn hyd yn oed i’r ddau gyd – weithio i gwmniau teledu yng Nghaerdydd yn 60au’r ganrif dd’wetha. Dau awdur, dau ddarlledwr. Gwyn Llewelyn yn cyflwyno rhaglenni fel “Y Dydd”, “Heddiw”, “Hel Straeon” a “Gwyn a’i Fyd”.

David Meredith yn trwytho’i hun yn y celfyddydau cain, yn dod yn gyfaill mynwesol ac awdur cyfrol am y diweddar Syr Kyffin Williams ond ar y ffordd yn cyfarfod hefyd a Bill Clinton, llu o actorion Hollywood yn ogystal a’r Pab. Cyffredin i’r ddau yw eu dawn dweud.

TIC TACS: Huw Llywelyn Davies (Cadeirydd: Nic Parry)

19:30 yn y Theatr

£10, £8, £7

rsz_1060615_tic_tacs_huw_llywelyn_davies

Noson hwyliog yng nghwmni’r cyn sylwebydd chwaraeon Huw Llywelyn Davies. Yn dilyn sefydlu S4C dechreuodd gyflwyno’r newyddion, ac yna i sylwebu ar chwaraeon: golf, snwcer, tenis, ond rygbi’n bennaf hyd at y llynedd. Sylwebodd ar 360 o gemau rhyngwladol y cyfnod, 5 taith gyda’r Llewod

a llawer mwy gyda Chymru a 5 Cwpan Byd. Treuliodd 5 tymor yn sylwebu yn Saesneg i BBC Wales a’r rhwydwaith tan i‘r BBC golli’r hawliau i roi’r gwasanaeth i S4C. Bydd yn cael ei holi gan y sylwebydd chwaraeon Nic Parry yn ein cyfres ar bersonoliaethau’r byd chwaraeon ‘Tic Tacs’. Dyma gyfle unigryw i glywed am hanesion dwys a digri Huw yn ystod ei yrfa lewyrchus fel sylwebydd rygbi.

Yn dilyn y digwyddiad, bydd cerddoriaeth yn y bar gyda Geraint Lövgreen. 

gernaint Lovgreen

Sgwrs: Triptych gyda Judith Roberts a Gwyneth Glyn

14:30 – 15:30 / Stiwdio 1

07.06.2015

£5.00 

rsz_1rsz_1triptych

Mae meddyliau miloedd o gyn – filwyr yn cael eu poenydio gan y pethau hynny a welwyd ac a wnaethpwyd yn enw dyletswydd. Mae colli aelod o’r corff yn weladwy ; nid yw poen meddwl ac felly mae’n cael ei ddiystyru’n hawdd. Ond mae miloedd o gyn – filwyr yn cael eu cystuddio â gofid meddwl o ganlyniad i’w profiad milwrol. Mae llawer yn trio cuddio hynny oherwydd eu bod yn teimlo cywilydd ac, o ganlyniad, mae eu sefyllfa’n gwaethygu. Mae eu teulu yn dioddef ac mae priodasau’n chwalu yn gyffredin. Mae cyfraddau hunanladdiad yn uchel. Yn y sesiwn hon, bydd Judith Roberts a Gwyneth Glyn yn siarad am y daith creadigol rhyfeddol sydd wedi arwain at TRIPTYCH – darn newydd ysgytwol i’r theatr fydd yn dod i Galeri fis Gorffennaf.

Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig

16:00 – 17:00 / Theatr

£8, £6 

Gwyddoniadur_1

Cyfle i glywed hanes llunio un o gyfrolau pwysicaf ein cenedl gyda Menna Baines a’r Athro Peredur Lynch, dau o olygyddion Gwyddoniadur Cymru. Byddant yn rhannu straeon am ddeng mlynedd o waith yn ymchwilio a pharatoi’r Gwyddoniadur a gyhoeddwyd yn 2008 gan gofio am eu cydolygyddion, y diweddar Athro John Davies a’r bardd Nigel Jenkins.

Y newyddiadurwr, y bardd a’r llenor Dylan Iorweth fydd yn cadeirio’ r sgwrs.

Dwyn Tysiolaeth / Bearing Witness (Digwyddiad Wales PEN Cymru)

19:30 / Theatr

£10 a £4 i aelodau Wales PEN Cymru

Welsh-Pen-800

Menna Elfyn, President of WalesPENCymru, talks about the work of PEN, the international organisation which celebrates literature and defends freedom of speech, and introduces: Ben Rawlence, former Human Rights Watch senior researcher on Africa in conversation with Abdiaziz Ibrahim, award-winning Somali journalist and human rights activist and Norbert Mbu-Mputu, journalist, writer and media commentator, who was born in the Congo, became an asylum seeker and now lives in Wales.

Cofio Gerallt …

Un o’r rhesymau y dechreuais i’r blog yma yn y lle cyntaf oedd i nodi cyfraniad unigolion arbennig a chofio pethau o werth diwylliannol. Yn ddiweddar, gwyliais raglen ddogfen Gerallt Lloyd Owen am yr eil dro. Rhaglen ddirdynnol a gonest, yn bortread iasol o arwr cenedl. Roedd rhaid i mi fynd ati i ‘sgrifennu rhywbeth am y rhaglen. Roedd gweld ‘Expires in 25 days’ ar dudalen Clic yn ddigon i godi arswyd arnai. Dyma fy ymdrech felly i nodi rhai sylwadau gan Gerallt a greodd argraff arnai.

 

‘Os na wyddon ni o ble ‘da ni’n dod, wyddon ni ddim pwy ydan ni nag i ble ‘da ni’n mynd…

 

‘Does arna i ddim ofn marw fel y cyfryw – y marw corfforol. Marw yn fy mhen ydy fy arswyd mawr i, hynny ydy, colli ‘nghof. Nid fy nghof fy hun yn unig sydd gen i, ond mae gen i hefyd gof fy nghenedl drwy ei phriod iaith sef y Gymraeg…

 

‘Dydw i ddim yn eisteddfodwr brwd. ‘Dw i ddim na fu mi erioed yn hoff o grwydro’r maes a gweld hwn a’r llall a siarad a’r math yna o beth…ond y pwynt ydy, mae’r ‘steddfod yn bwysig iawn i ni fel cenedl achos mae hi’n un o’r ychydig arwyddion o’n sofraniaeth ddiwylliannol ni – y collson ni sofraniaeth wleidyddol yn 1282 ac felly dyna pam mae’r eisteddfod yn bwysig i mi.

 

‘Dydio’n beth od, hyd yn oed o dristwch weithia, mae na rywbeth braf…

 

‘…Faswn i ddim yn dymuno cael fy nghofio fel hen ddyn bach piwis, blin ar ddiwedd fy oes, ond mi ydw i yn hen ddyn bach blin.

 

‘Dydw i erioed wedi meddwl amdanaf fy hun fel rhywun sydd yn cyflawni swyddogaeth arbennig. Deud yr hyn oedd yn agos at fy nghalon i nes i. Ond, mae na un peth y medra i falle ymffrostio ynddo fo, fedr neb gyfieithu Gerallt Lloyd Owen.’

Iselder – chwalu’r tawelwch byddarol

Iselder – Chwalu’r tawelwch byddarol
Cyhoeddwyd Mai 13, 2014 gan Malan Wilkinson. Dim sylw GOLWG360
Tagiau: Iselder: Un Cam ar y Tro, Malan Wilkinson, S4/C

Malan Wilkinson

Malan Wilkinson sy’n rhannu ei phrofiad am iselder…

Dydd Iau, i gyd-fynd ag wythnos Iechyd Meddwl S4C fe fydda i’n cyfrannu at raglen Iselder: Un Cam ar y Tro.

Roedd siarad ar y rhaglen yn gyfle i mi geisio chwalu stigma a rhannu fy mhrofiad. Bwgan hyll yw iselder. Mae’n effeithio un ym mhob pedwar o’r boblogaeth. Ac eto, mae yna ddirgelwch mawr amdano a’i effeithiau ar fywydau unigolion. Mae’r tawelwch sy’n amgylchynu iechyd meddwl yn dawelwch byddarol.

Fis Medi diwethaf, fe wnes i ddioddef episod dwys o iselder. Fe wyddwn i wrth fynd i’r gwaith un bore ddechrau Hydref bod rhaid i mi weld meddyg y diwrnod hwnnw neu golli’r frwydr i oroesi fyddwn i.

Y diwrnod hwnnw, yn dilyn sgwrs gyda fy therapydd gwybyddol yn y feddygfa leol, fe ges i’r gwely olaf yn uned iechyd meddwl Hergest, Ysbyty Gwynedd, Bangor. Roeddwn i yno yn derbyn gofal dwys am dri mis gan staff oedd yn ceisio f’atal rhag terfynu fy mywyd fy hun. Peth erchyll yw iselder pan fo’i grafangau yn gafael.

Deimlais i erioed ofn fel teimlais i’r noson gyntaf honno yn Hergest pan oeddwn i’n eistedd ar wely fy ystafell sengl. Roedd gen i lwyth o gwestiynau a dim atebion. Be’ oeddwn i’n dda yno? Pwy oedd fy nghyd-gleifion? Pa mor hir fyddwn i yno? Oedd y bennod hon yn nodi dechrau’r diwedd i mi ynteu ddechrau’r broses wella?

Brwydr

Roedd fy nghyfnod i yn Hergest yn gyfnod tu hwnt o anodd. Roedd yr awydd dwys oedd gen i derfynu fy mywyd fy hun yn gwneud pob diwrnod yn frwydr heb ei hail. Roeddwn i hefyd yn wynebu heriau ar ôl torri lawr yn emosiynol a seicolegol. Roeddwn i wedi dod i gredu pethau ddigon rhyfedd, fel bod sebon yr uned yn adweithio gyda meddyginiaethau gwahanol gleifion i gadw rhai yn gaeth i’r uned am gyfnodau hirach. Roedd meddyliau cyffredin wedi colli eu siâp a’r cyfan yn fy ngorfodi i gwffio brwydrau dyddiol dwys.

Fe dreuliais i dri mis gyda chleifion oedd yn dioddef pob math o anhwylderau meddyliol fel anhwylder meddwl y ddau begwn, iselder a Schizophrenia. Roeddwn i’n gweld yr unig seicolegydd Cymraeg i oedolion yng Ngogledd Cymru ac yn gweithio gyda seiciatrydd hefyd.

Chwalu’r stigma

Un o’r sialensiau mwyaf am anhwylderau meddyliol yw eu bod yn gallu effeithio ar fywydau cleifion am gyfnodau eithaf hir. Gall effeithio ar allu person i fyw bywyd cyffredin a gweithio. Roedd ambell glaf yn gleifion tymhorol oedd yn derbyn gofal am episodau o anhwylderau oedd yn eu heffeithio yn eithaf cyson. Roedd cleifion eraill, fel fi, yn newydd i’r system a heb brofiad blaenorol o iselder. Ond, sut oedd mynd ati i geisio dechrau chwalu’r stigma ynghylch iechyd meddwl?

Fe ddechreuais i geisio chwalu’r tawelwch drwy drydar pytiau achlysurol am fy mhrofiad yn yr uned a’r hyn yr oeddwn i yn ei wneud yn ddyddiol. Roedd yr ymateb a’r gefnogaeth gan y cyhoedd yn anhygoel. Cefais lawer un yn gyrru negeseuon o gefnogaeth ataf ac yn son ei bod yn braf darllen yn agored am brofiadau iechyd meddwl. Cefais negeseuon gan unigolion oedd wedi dioddef eu hunain hefyd, ond oedd wedi methu siarad am y peth yn agored. Roedd derbyn y fath ymateb ar gyfnod mor dywyll yn fy mywyd yn hynod galonnog.

Drwy gydol fy amser yn uned Hergest dysgais mor bwysig oedd siarad a rhannu straeon, nid yn unig drwy drydar – ond siarad gyda ffrindiau, teulu, cyd-gleifion a staff hefyd. Mae gan bobl a’u geiriau allu arbennig, i godi pobl eraill pan fo’r tywyllwch mawr yn eu trechu. Ond i hynny ddigwydd, mae’n rhaid i unigolion fod yn agored. Yn barod i siarad. Mae siarad yn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl mewn ffordd sydd nid yn unig yn llesol i gymdeithas ond i fywydau unigolion.

Braf gweld S4C yr wythnos hon yn mynd ati i chwalu’r tawelwch byddarol hwnnw.

Bydd Iselder: Un Cam ar y Tro yn cael ei darlledu nos Iau am 9.30yh ar S4C.

 

Llosgi Piano – Annea Lockwood

Mi ges i  brofiad celfyddydol unigryw dros y penwythnos – perfformiad o waith arloesol 1968 Annea Lockwood, artist sain o Seland Newydd / UDA  ‘Piano Burning’ (Llosgi Piano) yn Hen Iard Nwyddau Treborth, Bangor. Hen biano (wedi gweld dyddiau gwell) oedd y biano a ddefnyddiwyd, yn unol a gofynion y cyfansoddwr. Roedd y cynhyrchiad yn rhan o lansiad tymor newydd Dinas Sain Bangor.

Dyma  gyfle gwerthfawr  i weld Annea Lockwood yn perfformio ei gwaith yn fyw. Roedd  sawl unigolyn yn canu’r piano cyn iddo gael ei losgi. Drwy gydol y perfformiad, roedd y gynulleidfa’n sefyll o amgylch y piano yn  gwrando ar synau’r pren a’r llinynnau wrth i’r fflamau fwyta’r offeryn.  Dyma brofiad seiniol a chelfyddydol unigryw. Roedd criw technegol yn bresennol i  recordio’r sain a ffilmio’r profiad. Dyw’r syniad o losgi offeryn  a’i gynnig fel profiad celfyddydol byw ddim yn newydd. Ond, dyma’r tro cyntaf i mi brofi perfformiad o’r fath. Fe glywais i rai yn wfftio’r syniad  ‘Pam gwneud peth  fel hyn? Difetha piano dda’ neu ‘Nid cerddoriaeth ydy hyn siwr – ond llond ysgyfaint o fwg’. Rhydd i bawb ei farn, wrth gwrs – ond, wnes i fwynhau’r profiad. Mi gafodd pawb oedd yn sefyll o amgylch y piano brofiad celfyddydol unigryw, profiad ooedd yn apelio at nifer o’r synhwyrau. Roedd y cyhoedd wrthi’n tynnu lluniau o’r biano’n llosgi, rhai yn ymateb drwy Gelf,  eraill yn ffilmio ac yn ceisio dal y profiad drwy ddefnydd y cyfryngau digidol. Ai galaru diwedd hen biano wael oedden ni neu ddefnyddio hen offeryn i ddathlu seiniau cerddorol newydd a mwynhau diweddglo unigryw? Yr ail, o’ mhrofiad i.

 Mae sawl un yn gyfforddus iawn mewn neuadd gerdd fawreddog yn gwerthfawrogi dehongliad cerddorfa o waith poblogaidd. Ond, wnaeth y profiad anghonfensiynol ac unigryw hwn fy atgoffa i mor gyffrous ac annisgwyl y gall sain  a’r celfyddydau  fod – roedd rhywbeth arbennig am y perfformiad.

Fe benderfynodd rhai yn y gynulleidfa gerdded i ffwrdd ar ôl i brif ffram y piano ddisgyn, falle eu bod nhw’n credu bod y sioe drosodd, bod dim byd mwy i’w weld nac i’w glywed. Roedd eraill dal yn sefyll yno’n syllu ar yr hen biano wrth i weddill y darnau losgi. Pam oedd y perfformiad drosodd i rai ac eraill yn parhau i ryfeddu ar yr hyn oedd yn digwydd o’u blaenau? Pam bod rhai yn drist/ emosiynol ac eraill ar ben eu digon?

Mae rhai yn anghytuno â’r egwyddor o losgi hen bianos, ond allai ddim deall pam, mewn gwirionedd. Mae pianos gwael  i’w cael mewn sawl canolfan gymdeithasol ledled y wlad – llawer ohonynt yn ddim mwy na darn o ddodrefnyn yng nghornel stafell, offeryn sydd prin yn cael ei ddefnyddio ac sy’n llawn pry. Dyma pryd y bydda i’n galau diwedd offeryn, nid mewn perfformiad arbennig fel a gafwyd nos Sadwrn ym Mangor.

Dyma flas o’ mhrofiad i mewn lluniau:

Datganiadau difyr – O ‘ferched y SRG’ i’n ‘traddodiad gwerin ac eisteddfodau bach’

Rhai datganiadau difyr …

Dw i’n hoffi cerddoriaeth – o seiniau gwerin i seiniau  clasurol, gwlad ac offerynnol … fe allwn i barhau â’r rhestr am byth. Ond rhag i mi eich diflasu, mi adawai’r gweddill i’ch dychymyg! Mae wedi bod yn fraint cyfweld yr holl gerddorion sydd wedi cyfrannu at y blog hyd yma ac mae llawer iawn o’r ymatebion wedi bod yn ddifyr (yn fy marn i o leiaf!)  Rhai wedi fy synnu, eraill wedi gwneud i mi wenu neu feddwl mwy am bethau.

Ond, nid am mod i’n ‘hoffi’ cerddoriaeth yn unig y dechreuais i’r blog fis Ionawr eleni. Yn ogystal â bod eisiau nodi cyfraniad unigolion i’r byd cerddoriaeth yng Nghymru – roeddwn i hefyd  am i’r platfform ddweud rhywbeth  amgenach am yr hyn sy’n digwydd yn gerddorol yng Nghymru ar hyn o bryd. Ro’ ni hefyd eisiau bwrw goleuni ar farn  unigolion am y sin gerddoriaeth a’r prif heriau sy’n eu hwynebu nhw fel unigolion.

Dyma rai datganiadau difyr o gyfweliadau ar y blog. Maen nhw’i gyd yn dweud rhywbeth amgenach am y sin gerddoriaeth yng Nghymru. Rhybudd rhagblaen mai pytiau yn unig o’r cyfweliadau sydd isod – i ddarllen y  cyfweliadau’n llawn ac i ddeall y dyfyniadau yn eu cyd-destun (hynny wastad yn syniad da!) cliciwch ar linciau’r cyfweliadau .

Jazz, Rag a Gwerin – Dylan Cernyw 

Wrth deithio o gwmpas yn perfformio fel telynor yng Nghymru a dros y ffîn – un o’r pethau dw i’n glywed yn aml yw  “Doeddwn i ddim yn  gwybod fod y delyn yn gallu gwneud hynny – mae’n braf cael clywed hyn”, sef Jazz, Rag a Gwerin. Mi fyddai’n braf cael mwy o bethe fel hyn ar ein Radio Cenedlaethol a theledu. Yn aml iawn yr un peth sy’n cael ei chwarae dro ar ôl tro ar y rhaglenni hyn.  Mae angen dangos ein talent ifanc offerynnol, gwerin a’n cantorion ifanc i bawb.

Sion Goronwy  – Eisteddfodau bach/lleol

Mae rhywun yn dod yn fwy ymwybodol o gystadleuwyr y dyddiau yma sydd ond yn cystadlu yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol heb fynd ar gyfyl rhai o’r Eisteddfodau lleol, camgymeriad yw hyn yn fy nhyb i, mae angen profiad o feirniadeth a bod o flaen cynulleidfa yn yr eisteddfodau yma cyn mentro ar y llwyfannau cenedlaethol!

Sian James – Ein ‘traddodiad gwerin’

 Dwi’n teimlo’n gryf ein bod ni fel Cymry wedi teimlo braidd yn ddi-hyder ynglyn â’n traddodiad gwerin, yn sgil llwyddiant y diwydiant yn Iwerddon a’r Alban. Mae’n bryd i ni ysgwyd y rhagfarn hwnnw a sylweddoli bod cystal traddodiad gynnon ni yma yng Nghymru â gwledydd eraill, a lledu’r gair tu hwnt i Gymru! Mae’r potenshial i greu diwydiant iach yng Nghymru o fewn y genre yn bosib – rhaid marchnata’r cyfoeth yma dramor, a hynny er budd ein hunain!

Nia Medi  – Merched a’r SRG 

Ma’ na ddiffyg merched yn gyffredinol ar y sin hefyd o ran labeli, cynhyrchwyr, trefnwyr, DJ’s a hyrwyddwyr. Ma’r mwyafrif yn ddynion ond nid bai’r dynion yw hynny – does dim byd yn stopio merched rhag bod yn pro-active!

Fflur Dafydd – Gwyl y Gelli

Er bod nifer o Gymry yn dueddol o ystyried y Gelli fel gŵyl Seisnig efallai – dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysicach i ni ei gweld hi fel gŵyl rhyngwladol sy’n digwydd bod yng Nghymru – a’n bod ni yn gallu elwa ohoni a bod yn rhan o leisiau’r byd.

Fflur Dafydd

FFLYR DAFYDD

Fflur Dafydd

You Found Me Out – Beth oedd sbardun rhyddhau’r caneuon yn Saesneg?

Daeth y sbardun i ryddhau’r caneuon eto yn Saesneg yn sgil cael ymateb mor ffafriol a chynnes wedi perfformio’n ddwyieithog ar Radio Wales. Am y tro cyntaf, nes i ystyried efallai fod yna gynulleidfa i fy nghaneuon yn Saesneg. Mae’r EP yn rhyw ffenest fach i mewn i’r albym i’r di-Gymraeg.

Wrth gyfieithu ac addasu, buan iawn wyt ti’n sylweddoli bod yr iaith Gymraeg yn rhagori o ran ei rhythmau – doedd ‘Rhoces’ ddim yn hawdd i’w chyfieithu am nad oes ‘na air Saesneg cyfatebol, ac roedd rhaid ffeindio ymadroddion, geiriau, ac odlau newydd i greu’r un ystyron ac emosiynau, a oedd yn dipyn o sialens. Ond wedyn roedd ambell i gân yn llifo’n rhwydd yn Saesneg – dwi’n meddwl am gân fel ‘Lammas St.’ (addasiad o’r Ferch sy’n licio’r gaeaf) ac efallai am mai stori garu yw hi bod modd iddi gyfathrebu’n rhwydd mewn dwy iaith. Ac mae’r gân sy’n deyrnged i Ray Gravell – bron roedd hi’n bwysig bod hon yn bodoli yn Saesneg am bod Ray yn ffigwr mor bwysig ac yn rhywun a oedd yn llwyddo i uno’r Cymry, pa bynnag iaith oedden nhw’n siarad.

Dwi wedi dewis unwaith eto y caneuon sy’n deyrngedau i bobl – i fy merch, (Beca), Ray Gravell, fy ngŵr, (Iwan – sydd yn y band hefyd) a fy mrawd bach (Meilyr Ceredig).

Mae’r profiad o ddod yn fam wedi newid pob dim yn fy mywyd, wedi fy ngwneud yn fwy dwl, yn gryfach, yn fwy goddefgar. On i eisiau rhoi’r teimladau hynny ar gân ar gyfer y dyfodol, a dyfodol fy merched. On i’n feichiog iawn yn ystod recordio’r EP yma ac mae hynny i’w glywed yn fy llais – mae fy llais wastad wedi newid pan dwi’n feichiog. Er nad oes ‘na deyrnged uniongyrchol i fy ail ferch (Luned) dwi’n licio meddwl ei bod hi’n rhan o’r EP gan ei bod hi yno’n cicio trwy gydol y broses!  A nawr dwi’n clywed y gytgan yn wahanol – nid ‘Fy rhoces i’ ond ‘Fy rhocesi…’

Rwyt ti wedi son fod artistiaid fel John Martyn, James Taylor a Nanci Griffith wedi dylanwadu arnat. Fedri di son mwy am hyn/beth sy’n arbennig amdanyn nhw? 

Dyma’r artistiaid sy’n cyffwrdd yn fy enaid i – nid o reidrwydd yn gwneud i mi ddawnsio na ffrwydro’n llawn egni – ond y cyfansoddwyr sydd wedi darganfod rhywbeth real ac amrwd a phwerus a wedi llwyddo ei rannu ag eraill, a dwi’n ddigon ffodus i fod wedi gweld y tri ohonyn nhw yn fyw – gwefr hynod iawn oedd pob un profiad. Ges i fy magu ar Nanci Griffith i weud y gwir – roedd y casetiau yma wastad yn y car gyda ni fel teulu – felly mae dylanwad canu gwlad yn mynd nôl yn bell. Un o’m gitaryddion (Elwyn Williams – sydd hefyd yn chwarae gyda Steve Eaves) wnaeth gyflwyno John Martyn i mi – a wna i byth anghofio’r wefr o glywed ei lais am y tro cyntaf, a teimlo’r angerdd a’r tywyllwch a’r boen sydd yn y tiwnings gitar amrywiol mae e’n eu defnyddio. Mae James Taylor yn storiwr hynod a’i lais fel mêl ac mae e’n gwella gydag oedran yn sicr.

Lawnsio “You Found Me Out” yng Ngwyl y Gelli …

Dwi wedi cael cyfleoedd anhygoel gan yr ŵyl hon. Wnaeth y cyfan ddechrau nôl yn 2005 pan ges i fy newis i fod yn rhan o gynllun rhyngwladol ar gyfer awduron newydd – y Scritture Giovani – a chael fy nanfon i 4 gŵyl rhyngwladol i ddarllen fy ngwaith, gan ddechrau yn y Gelli. Do’n i ddim wedi sgwennu llawer bryd hynny, ond wrth gwrdd ag awduron gwahanol a chael fy ysbrydoli ganddyn nhw– fe wnes i ddod nôl i GYmru yn sylweddoli mai sgwennu on i am wneud, a dwi wedi sgwennu fel ffwl ers hynny. Wedyn ges i wahoddiad da Owen Sheers i berfformio yn y Gelli ar y cyd gydag e – sioe arall aeth wedyn ar daith yng Nghymru ac i’r Iseldiroedd. Dwi wedi bod digon ffodus i allu gwneud rhywbeth yno bron bob blwyddyn ers hynny – ac eleni dwi’n mynd i fod yn Gymrawd Rhyngwladol i’r Gelli ac yn mynd i ymweld â gwyliau’r Gelli yn Sbaen, Mexico, India, Colombia a Budapest.

Er bod nifer o Gymry yn dueddol o ystyried y Gelli fel gŵyl Seisnig efallai – dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysicach i ni ei gweld hi fel gŵyl rhyngwladol sy’n digwydd bod yng Nghymru – a’n bod ni yn gallu elwa ohoni a bod yn rhan o leisiau’r byd. Dwi’n sicr yn cael gwefr fawr o fod yno ac o berfformio yno – ac o ennill darllenwyr a gwrandawyr newydd. Roedd perfformio i ryw 500 o bobl wrth gefnogi Cerys yn anhygoel.

‘All I see’

Mae’r gân olaf oddi ar yr EP – ‘All I see’ yn mynd nôl blynyddoedd maith – i 2004, pan nes i gyfarfod a chyfansoddwr o Iwerddon, Anthony Mulcahy. Roedd Rhys (Barf) bant ar weithdy cyfansoddi i Iwerddon gyda Mattoidz, ac fe dynnodd rhywun mas, felly fe gynigiodd y lle i mi. Newidiodd y daith hon pob dim i mi.

Prin on i’n gallu chwarae gitâr, ond fe’m taflwyd mewn i sefyllfa lle bu’n rhaid i mi gydweithio gyda’r cyfansoddwr ma do’n i erioed wedi cwrdd ag e – ac fe ddigwyddodd bethau rhyfeddol. Sgwennodd Anthony a fi 5 cân mewn 2 ddiwrnod, a dod yn ffrindiau agos iawn. Wnaeth y berthynas barhau a sgwennon ni sawl cân gyda’n gilydd wedi hynny, a dwi wedi ymweld ag e yn Efrog Newydd ers hynny i sgwennu ambell gân – gan mai dyna lle mae’n byw ac yn perfformio nawr. Ond hon oddi ar yr EP – “All I See” – yw’r orau, ac fe gafodd hi ei sgwennu mewn 5 munud fflat mewn stafell westy yn Waterford gyda hangovers difrifol!

Fedri di son mymryn am ba gerddorion sy’n dy gyffroi di yng Nghymru ar hyn o bryd a pham? 

Yr un band sy’n fy nghyffroi bob tro dwi’n clywed nhw ar y radio ydy HUD – ma’r riffs mor anfarwol a dwi’n dwlu ar eu steil nhw.

Dwi wedi clywed Kizzy Crawford hefyd ac mae hi i weld yn hynod unigryw a ffres, a chanddi lais cyfareddol. Dwi’n ffan mawr iawn o Gildas ac yn dwlu ar unrhywbeth mae Arwel yn neud. On i’n ffodus iawn iddo gytuno i ganu gyda fi ar yr albym ddiwethaf. Mae ansawdd ei lais yn wefreiddiol – mae e’n taflu ei hun gorff ac enaid mewn i bob can.

Fflur Dafydd

Fflur Dafydd

Unrhyw beth yn peri pryder i ti am y sin gerdd yng Nghymru? 

Mae’r sin fenywaidd yn gryf ac yn ddiddorol – Lleuwen, Gwyneth Glyn,  Lowri Evans, Einir Dafydd, Georgia Ruth ‘mond i enwi rhai – a dwi’n browd i fod yn rhan o’r chwaeroliaeth hynod yma, ond weithiau dwi’n meddwl bod prinder bandiau merched. Ddechreuon ni Y Panics (fi, Nia Medi a Betsan Haf Evans) achos ein bod yn gweld bwlch yno – ac i raddau mae e’n dal yno.

Bydde’n dda gweld mwy o ferched yn chwarae’r bas a chwarae’r dryms a rhedeg y sioe i gyd eu hunain (yn hynny o beth wnaethon ni fethu gyda Johnny Panic achos oedd rhaid cael dynion aton ni i gwblhau’r band, ond hei – o leiaf ‘nes i ffeindio gŵr wedyn…) Mae pobl fel Betsan Haf Evans (drymiwr Y Panics) a Heledd Watkins (basydd/cantores Bare Left/HMS Morris) yn arwain y ffordd beth bynnag.

Dy hoff le yn y byd …

Yr UN lle gwefreiddiol i mi o hyd yw Ynys Enlli. Wna i byth anghofio y cyfnod dreuliais i yno. Dwi’n cofio cerdded ar y llwybr fyny at y goleudy (lle ro’n i’n byw am gyfnod yn y bwthyn yn ystod Haf 2002) – a dyheu i amser sefyll yn ei unfan er mwyn i mi gael dal fy ngafael ar yr eiliad honno am byth. Dwi ddim yn credu ‘mod i erioed wedi teimlo mor gryf am un lle yn fy mywyd. Heidiwch yno Gymry! Mae’n rhan hynod o’n hetifeddiaeth. Sgwennais i fy nghan gyntaf ar y gitar yno – Ar Ol Heddi.

Teimlo’n werinol?

Mewn oes ble mae cerddoriaeth werin (er nad ydw i’n hoffi bocsys a genres) yn boblogaidd ac yn cael cryn dipyn o sylw ar ein gorsafoedd cenedlaethol, dyma rannu fy meddyliau (i unrhyw un sydd â diddordeb!) am ganeuon sydd wedi mynd a’m bryd yn ddiweddar. Dyw creu a pherfformio cerddoriaeth ‘werin’ ddim digon dyddiau hyn, mae’n rhaid bod tro yn y gynffon, rhywbeth newydd, rhywbeth cyffrous ynghylch y gerddoriaeth. Dyma ddau grwp sydd wedi creu argraff arna i yn ddiweddar.

Olion Byw – Ar Lan y Môr – Dawns y Tonnau

OlionByw

Drwy ddefnydd Twitter, fel mae’n digwydd – glywais i gerddoriaeth Olion Byw am y tro cyntaf. I unrhyw un sydd heb glywed eu gwaith, mae’n wir werth gwrando! Mae Lucy Rivers a Dan Lawrence yn cyfuno ffidil, gitâr, mandolin a llais yn eu trefniannau byrlymus o ganeuon tradodiadol Cymraeg ac alawon gwreiddiol. Mae’r ddeuawd offerynnol yn tynnu ar ddylanwadau cerddorol amrywiol a rhyngwladol. Mae eu cryno ddisg ‘Hen Bethau Newydd’  yn wledd o seiniau byrlymus gwerinol. Er bod ymdeimlad eithaf traddodiadol i lawer o’r darnau, mae ‘twist’ cyfoes i sawl trac. Efallai bod hyn yn arbennig o wir am ‘Ar Lan y Môr – Dawns y Tonnau’ fy newis ar gyfer y blog hwn.

Ry’ ni’n hen gyfarwydd â chlywed alaw ‘Ar Lan Y Môr’ ond chlywais i mohoni fel hyn o’r blaen! Mae’r alaw fel petai’n cael ei gwarchod fel trysor yn haenau’r gyfeiliant a’r cymalau offerynol gwerinol sy’n agor ac yn cau’r darn. Dw i’n edrych ‘mlaen i gyhoeddi darn gyda Olion Byw ar y blog yn fuan.

Blodau Gwylltion

Blodau Gwylltion – Gadael Rhiwlas

Wnes i wirioni pan glywais i Blodau Gwylltion am y tro cyntaf. Parhau i wirioni ydw i ar ôl clywed y gan newydd hon – Gadael Rhiwlas. Ma’ angen gyts i fod yn syml – a ‘dw i’n gweld  fod llawer o gerddorion ofn hynny. Llawer haws ydy hi gan rai i or-gynhyrchu cerddoriaeth yn haenau cymhleth i guddio diffyg, ‘falla – pwy a wyr!

Mae elfen storiol, syml a gwerinol Gadael Rhiwlas wir yn hyfryd a’r harmoniau wedi’u gweu yn gelfydd . Ma’ gen i deimlad y bydd cerddoriaeth Manon Steffan Ros/Blodau Gwylltion yn datblygu’n fawr dros y misoedd a blynyddoedd nesaf. ‘Dw i’n edrych mlaen i ddilyn datblygiad Blodau Gwylltion ac yn gobeithio’n fawr y bydd y naws hudolus yma’n parhau yn y gerddoriaeth.  Dyma egin rhywbeth arbennig.

Rhai ffefrynau cerddorol diweddar …

Dyma rai o’r cerddorion ‘dw i ‘di mwynhau yn ddiweddar. Mae ‘na ambell i ddarganfyddiad newydd yma – hynny wastad yn deimlad cyffrous gan bod cerddoriaeth yn medru dod yn rhan o’n ‘profiad’ ni fel unigolion – yn arbennig os yw’r gwaith yn taro tant ac yn creu argraff.

Alys Williams

Fe swynodd Alys Williams holl feirniaid The Voice UK yn ei chlyweliad diweddar ar y gyfres deledu BBC. Gwych oedd gweld Cymru a gweddill gwledydd Prydain yn cael mwynhau ei thalent! Mae ganddi lais arbennig ac mae canu’n angerddol yn ymddangos mor rhwydd iddi! Fel ‘na ma’ hi gyda’r cantorion a’r offerynwyr gorau,  mae’n debyg –  dim ond nhw sy’n llwyddo gwneud i wyrthiau cerddorol edrych yn hollol rhwydd. Hefyd, dw i’n caru clywed ei hacen lyfli! Pob hwyl i Alys – ‘dw i’n gwybod mae iddi hi y bydda i yn bwrw fy mhleidlais! Mi fydd ‘na gynhyrchydd lwcus iawn yn rhywle ar ddiwedd cyfres The Voice!

Pan o’n i’n fach  – Blodau Gwylltion

Ges i’r fraint yn ddiweddar o gyfweld Manon Steffan Ros am Blodau Gwylltion a mwynhau yn fawr!  Mae’n son  yn y cyfweliad am yr hyn sy’n ei hysbrydoli i greu cerddoriaeth, ei dylanwadau cerddorol ac hefyd am gefndir ‘Pan o’n i’n fach’ .

Mae’r alawon telynegol yn hyfryd a naws y sain yn unigryw. Falch iawn i mi ddarganfod ei cherddoriaeth a deall bod cynlluniau ar y gweill i recordio sesiwn C2 yn y dyfodol agos. Edrych ‘mlaen i ddilyn hynt a datblygiad Blodau Gwylltion.

Hide behind you – Huw M

Datganiad cerddorol bendigedig gan Huw M. Alawon syml wedi’u priodi’n urddasol gyda harmoniau hyfryd a’r arddull yn hamddenol a naturiolaidd. Mae gwirionedd i’r hen ddweud fod symylrwydd yn effeithiol! Hefyd, does dim rhaid i gân fod yn hir i ddweud rhywbeth o bwys, i wneud datganiad  ac i aros yn y cof – mae’r gân hon yn enghraifft berffaith o hynny.

Week of Pines – Georgia Ruth

Mae gwrando ar Week of Pines gan Georgia Ruth yn brofiad cerddorol atmosfferig hyfryd a’r  gwaith fideo yn drawiadol. Mae’r sain yn gynnes ac mae synnwyr tawelwch i’r gerddoriaeth. ‘Dw i’n teimlo mod i’n profi pytiau  o daith arbennig wrth wrando arni. Ar 20 Mai bydd Georgia Ruth yn rhyddhau ei halbwm gyntaf, Week of Pines ar label Gwymon. Mae’n debyg i’r casgliad gael ei recordio dros gyfnod o chwe diwrnod ym mis Awst y llynedd gyda’r cynhyrchydd David Wrench. ‘Dw i’n edrych mlaen i wrando ar yr albwm!

Dawel Ddisgyn – Gareth Bonello

Mae rhywbeth hudolus o werinol am y gân hon gan Gareth Bonello. Mae Sian James wedi recordio trefniant hyfryd ohoni hefyd ar ei chryno ddisg diweddaraf ‘Cymun’. Dw i’n meddwl bod yr  offerynnau yn gweithio’n arbennig o dda gyda’i gilydd yma ac yn creu naws llawn awyrgylch. Dw i’n edrych ‘mlaen i gyhoeddi cyfweliad gyda Gareth Bonello ar y blog yn fuan.