Rhai ffefrynau cerddorol diweddar …

Dyma rai o’r cerddorion ‘dw i ‘di mwynhau yn ddiweddar. Mae ‘na ambell i ddarganfyddiad newydd yma – hynny wastad yn deimlad cyffrous gan bod cerddoriaeth yn medru dod yn rhan o’n ‘profiad’ ni fel unigolion – yn arbennig os yw’r gwaith yn taro tant ac yn creu argraff.

Alys Williams

Fe swynodd Alys Williams holl feirniaid The Voice UK yn ei chlyweliad diweddar ar y gyfres deledu BBC. Gwych oedd gweld Cymru a gweddill gwledydd Prydain yn cael mwynhau ei thalent! Mae ganddi lais arbennig ac mae canu’n angerddol yn ymddangos mor rhwydd iddi! Fel ‘na ma’ hi gyda’r cantorion a’r offerynwyr gorau,  mae’n debyg –  dim ond nhw sy’n llwyddo gwneud i wyrthiau cerddorol edrych yn hollol rhwydd. Hefyd, dw i’n caru clywed ei hacen lyfli! Pob hwyl i Alys – ‘dw i’n gwybod mae iddi hi y bydda i yn bwrw fy mhleidlais! Mi fydd ‘na gynhyrchydd lwcus iawn yn rhywle ar ddiwedd cyfres The Voice!

Pan o’n i’n fach  – Blodau Gwylltion

Ges i’r fraint yn ddiweddar o gyfweld Manon Steffan Ros am Blodau Gwylltion a mwynhau yn fawr!  Mae’n son  yn y cyfweliad am yr hyn sy’n ei hysbrydoli i greu cerddoriaeth, ei dylanwadau cerddorol ac hefyd am gefndir ‘Pan o’n i’n fach’ .

Mae’r alawon telynegol yn hyfryd a naws y sain yn unigryw. Falch iawn i mi ddarganfod ei cherddoriaeth a deall bod cynlluniau ar y gweill i recordio sesiwn C2 yn y dyfodol agos. Edrych ‘mlaen i ddilyn hynt a datblygiad Blodau Gwylltion.

Hide behind you – Huw M

Datganiad cerddorol bendigedig gan Huw M. Alawon syml wedi’u priodi’n urddasol gyda harmoniau hyfryd a’r arddull yn hamddenol a naturiolaidd. Mae gwirionedd i’r hen ddweud fod symylrwydd yn effeithiol! Hefyd, does dim rhaid i gân fod yn hir i ddweud rhywbeth o bwys, i wneud datganiad  ac i aros yn y cof – mae’r gân hon yn enghraifft berffaith o hynny.

Week of Pines – Georgia Ruth

Mae gwrando ar Week of Pines gan Georgia Ruth yn brofiad cerddorol atmosfferig hyfryd a’r  gwaith fideo yn drawiadol. Mae’r sain yn gynnes ac mae synnwyr tawelwch i’r gerddoriaeth. ‘Dw i’n teimlo mod i’n profi pytiau  o daith arbennig wrth wrando arni. Ar 20 Mai bydd Georgia Ruth yn rhyddhau ei halbwm gyntaf, Week of Pines ar label Gwymon. Mae’n debyg i’r casgliad gael ei recordio dros gyfnod o chwe diwrnod ym mis Awst y llynedd gyda’r cynhyrchydd David Wrench. ‘Dw i’n edrych mlaen i wrando ar yr albwm!

Dawel Ddisgyn – Gareth Bonello

Mae rhywbeth hudolus o werinol am y gân hon gan Gareth Bonello. Mae Sian James wedi recordio trefniant hyfryd ohoni hefyd ar ei chryno ddisg diweddaraf ‘Cymun’. Dw i’n meddwl bod yr  offerynnau yn gweithio’n arbennig o dda gyda’i gilydd yma ac yn creu naws llawn awyrgylch. Dw i’n edrych ‘mlaen i gyhoeddi cyfweliad gyda Gareth Bonello ar y blog yn fuan.

Advertisements

Adolygiad (Rhaglen Dewi Llwyd) Cyngerdd Llyr Williams – GALERI

18.01.2013 – cyngerdd wedi’i ohirio. Cynhalwyd y cyngerdd 01.02.2013

Beethoven: Sonata i’r piano yn C llonnod leiaf (Op 27/2) – Moonlight

Scriabin: Sonata i’r piano Rhif 2 Op. 19

Bartok: Sonata i’r piano (1926)

Bridge: Sonata i’r piano

Scriabin: Sonata i’r Piano Op30/4

Rhaglen - Llyr Williams

Rhaglen – Llyr Williams

http://www.bbc.co.uk/radio/player/b01qys2p

Kempf a Horowitz

Cyhoeddwyd ar www.golwg360.com  Tachwedd 24, 2010 gan Malan Wilkinson

Fe ddechreuodd cyfres cyngherddau clasurol  Venue Cymru ddydd Sul gyda rhaglen gyffrous gan un o brif gerddorfeydd Awstria, Cerddorfa Mozarteum Salzburg dan arweiniad Ivor Bolton a’r pianydd rhyngwladol, Freddy Kempf.

Roedd yna hefyd gyfweliad gyda’r pianydd cyn y perfformiad. Roedd o’n gyfle gwych i ddysgu mwy am Kempf – un o bianyddion amlycaf Ewrop heddiw. Ac er mor ddifyr y sesiwn a’i sylwadau, gresyn oedd gweld cyn lleied yno – criw o thua 50 yn un o ystafelloedd darlith theatr Venue Cymru – a llawer llai o Gymry ymhlith y criw hwnnw.

Dewis a dalodd

Roedd Symffoni rhif 2 opus 61  gan Robert Schumann yn C fwyaf yn ddewis dewr i ddechrau’r rhaglen – ond yn ddewis a dalodd ar ei ganfed. Mae Schumann yn un o gyfansoddwyr mawr y 19eg ganrif ac mae’r symffoni hon yn un o’m hoff ddarnau gan y cyfansoddwr – er nad yw’n ffefryn traddodiadol. Fe gafodd y symffoni ei hysgrifennu gan Schumann pan oedd yn isel ei ysbryd. Mae’n ddarn sy’n tynnu ar amrywiaeth helaeth o emosiynau tywyll ac yn darlunio anrhefn feddyliol Schumann yn ystod y cyfnod iddo’i hysgrifennu.

O’r bar cyntaf – roedd perfformiad y gerddorfa yn un gafaelgar a’u harddull perfformio yn ddwys, egnïol a sionc yng nghymalau ysgafnach y darn. Doedd dim byd statig am ymarweddiad y gerddorfa  ar y llwyfan. Nid sefyll fel delwau  llonydd, diserch yn perfformio darn yr oeddent wedi’i ddysgu eisoes oeddent (fel y gwelwch mewn ambell gerddorfa!). Ond, roedd pwyslais amlwg yma ar weithio gyda’i gilydd a chyd-symud.

Mae symudiad cyntaf y symffoni – Sostenuto Assai – allegro ma non troppo yn dechrau’n ddwys ei naws ac roedd ing y cyfansoddwr i’w glywed yn glir yng nghymalau cyfoethog y gerddorfa. Cafwyd dechrau tywyll i’r chorale pres araf yn y dechreuad cyn i’r symudiad cyntaf ddatblygu’n Sonata-Allegro aflonydd. Rwy’n teimlo fod y gerddorfa hon ar ei gorau wrth chwarae cymalau egnïol a bywiog fel y cafwyd yn y symudiad cyntaf a’r ail symudiad Scherzo Allegro Vivace sy’n fwy chwareus ei naws.

Ond i mi, fe ddaeth y brif  her nid ym mwrlwm yr Allegro ond yng ngwrthbwynt symudiad tri – Adagio Espressivo yn C leiaf.  Un o’r sialensiau mwyaf yma yw cynnal y cymalau galarus. Fe lwyddodd y llinynnau, oboau a chlarinetau wneud i hyn ymddangos yn gwbl rwydd. Camp yn wir! Dyma ddarn a hoeliodd sylw’r gynulleidfa ac a ddangosodd Schumann yn ei holl ddyfnder.

Aeddfed a gostyngedig

Yn ail ac yn ganolbwynt annisgwyl i’r gyngerdd  oedd Concerto Piano Rhif 23 yn A fwyaf K488 (1786) gan Wolfgang Amadeus Mozart gyda Kempf yn unawdydd piano.

Fe chwaraeodd Freddy Kempf y darn hwn am y tro cyntaf  pan yn ddim ond yn naw oed – ac mae wedi parhau i’w berfformio i gynulleidfaoedd ledled y byd dros y ddau ddegawd diwethaf . Mae’r concerto hwn yn un o ddarnau mwyaf poblogaidd Mozart  – felly mae gofyn peth dychymyg i wneud cyfiawnder ag o, gan fod cymaint o ddehongliadau tebyg eisoes yn bodoli sy’n efelychiadau gwael o waith pianyddion enwog y gorffennol.

Roedd dehongliad Kempf o’r gwaith yn aeddfed  a’i ymarweddiad yn ostyngedig. Roedd yn meddu  ar arddull berfformio Ewropeaidd; arddull y daeth yn gyfarwydd â hi yn yr Almaen – lle mae’n  cadw perthynas glos ag arweinydd yr ensemble wrth ddehongli’r gerddoriaeth. Yn hytrach na phennu ei ddehongliad ei hun gan adael i’r gerddorfa chwarae ar wahân yn y cefndir. Fe wnaeth y berthynas glos hon rhwng Kempf a’r arweinydd o Loegr sicrhau perfformiad ffres a digymell, llawn cyffro o hen ffefryn. Roedd yr amrywiaeth yn nhôn ei chwarae yn drawiadol ac ar brydiau roedd nodau  uchaf y piano’n meddalu’n unsain gyda gweddill y gerddorfa.

Ar y gorau, mae cerddoriaeth piano  Mozart yn noeth ac agored yn erbyn sain cerddorfa – ond fe ddefnyddiodd kempf y noethni hwn i’w fantais gan roi perfformiad sensitif o glasur. Braint o’r mwyaf oedd cael mwynhau’r dehongliad arbennig hwn gan Freddy Kempf a’r ensemble o Salzburg – lle ganwyd Mozart ei hun.

I gloi’r cyngerdd – cafwyd Symffoni rhif 41 gan Mozart neu’r Jupiter fel y caiff ei hadnabod. Dyma ddarn ysblennydd sy’n dangos y cyfansoddwr a’i allu ar ei orau – er na lwyddodd y perfformiad heno i fy nghyffroi gymaint â’r concerto blaenorol. Er hyn, roedd gallu  Bolton i weu’r  themâu cymhleth tua’r diwedd yn gelfydd a’r coda ffiwgaidd nodedig yn dod â’r gwaith i uchafbwynt cadarn.

‘Cawr’

Fe ddywedodd Kempf yn y sesiwn holi ar ddechrau’r noson mai un o’i brif ddylanwadau ar y piano oedd y cawr o bianydd virtuoso Rwsiaidd, Vladimir Horowitz.

Ond, nid adlais o ddehongliad Horowitz  o Goncerto piano rhif 23 gan Mozart oedd yn llenwi theatr Llandudno nos Sul – ond mwynder teimladwy dehonglwr anturus sy’n prysur dorri ei gŵys ei hun.

Does dim yn sicrach yn fy meddwl – bydd  Kempf, fel Horowitz  – rhyw ddydd – yn siŵr o ddatblygu’n gawr ei hun.

Clod i’r dewin Llŷr Williams

Cyhoeddwyd ar http://www.Golwg360.com/ Ebrill 18, 2010 gan Malan Wilkinson

Malan Wilkinson sy’n adolygu cyngerdd Llŷr Williams, Cyfres Sonatâu Beethoven, yng Ngaleri Caernarfon…

Cafwyd rhaglen amrywiol i drydydd cyngerdd y pianydd Llŷr Williams. Roedd y cyngerdd Sonatâu “ar ffurf brechdan” yng ngeiriau’r pianydd. Roedd Sonata gyntaf y rhaglen yn E feddalnod fwyaf Op. 7 a’r olaf yn B feddalnod fwyaf Op. 22 yn Sonatâu mawreddog, gwych a’r ddwy sonata ganol yn fwy chwareus.

Daeth Llŷr Williams i mewn i’r neuadd gyngerdd olau, oedd dan ei sang, wedi gwisgo mewn du o’i gorun i’w sawdl.  Roedd yn wên o glust i glust ac roedd ei ymarweddiad urddasol a’i hyder tawel yn dwysau disgwyliad a chyffro’r gynulleidfa – ar ddechrau’r hyn ro’ ni’n gwybod, a fyddai’n daith.

‘Syrpreis’

Dyw Sonata gynnar rhif 4 E feddalnod fwyaf Op. 7 (‘Grand Sonata’) Beethoven ddim yn un o’m ffefrynnau, mae’n rhaid i mi gyfaddef.  Ond, wrth wrando ar y Sonata hon y cefais syrpreis fwyaf y gyngerdd.

Daw un o’r cyfleoedd mwyaf trawiadol i ddal sylw’r gynulleidfa a chreu argraff yn yr ail symudiad  – Largo, con gran espressione. Yn y symudiad hwn, fe lwyddodd Llŷr Williams nid yn unig i liwio’r alaw yn hyfryd ond i drin seibiau cerddorol y cyfansoddwr yn gelfydd. I mi, mae’r seibiau hyn yn rhan annatod o’r alaw. Fe lwyddodd Llŷr Williams i ddal y gynulleidfa yng nghledr ei law heb ildio i ddehongliad gôr sentimental – rhywbeth fyddai wedi bod yn hawdd ei wneud! Fe ddywedodd un ddynes wrtha’i yn yr egwyl ei bod wedi dod yn agos at ‘golli deigryn’ yn ystod y symudiad. Tystiolaeth amlwg – ynghyd â thawelwch llethol y gynulleidfa yn ystod ei chwarae, o allu arbennig Llŷr Williams i gyffwrdd pobl, wrth lwyddo cadw’n hollol driw i ofynion technegol y cyfansoddwr.

‘Byrfyfyriol’

Er bod Sonata, rhif 9 yn E fwyaf  Op 14/1 yn dipyn fyrrach na hyd anghyffredin o hir y Sonata gyntaf , roedd ei ymdriniaeth o’r alawon yr un mor gelfydd a ffres. Roedd yn llwyddo perfformio’r  troeon annisgwyl yn y gerddoriaeth mewn ffordd  oedd yn ymddangos yn fyrfyfyriol ambell dro – gan gadw dychymyg y gynulleidfa’n fyw – a’u cadw hwythau ar flaenau eu seddi, camp yn wir!

Doedd ei ddehongliad o’r drydedd Sonata yn ddim llai gwyrthiol. Mae strwythur Sonata rhif 10 yn G fwyaf yn anghyffredin yn y ffaith mai Scherzo yw’r trydydd symudiad. A’r symudiad hwn oedd uchafbwynt ei berfformiad o’r Sonata i mi. Fe wnaeth Llŷr Williams chwarae thema gyntaf y finale yn hollol ddidwyll a disglair gan lwyddo i wneud i’r newidiadau cynnil yn y gerddoriaeth yn ddiweddarach ymddangos yn gwbl syml a diymdrech. Doedd dim amheuaeth gen i fy mod i’n mwynhau dehongliad perffeithydd o waith Sonatâu Beethoven!

‘Egni’ a ‘gwrthgyferbyniad’

Roedd egni Llŷr Williams yn Sonata rhif 11, B feddalnod fwyaf, Op. 22 yn amlwg o gychwyn cyntaf yr Allegro con brio. Nid perfformiad llawdrwm a gafwyd yma ond perfformiad sensitif, rhythmig a chwim o fotifau a themâu amrywiol y cyfansoddwr. Roedd y gwrthgyferbyniad hollol a gafwyd yn niwedd y symudiad cyntaf a’r ail (Adagio con molto esspressione) yn ysgytwol ac fe ddaeth yr holl gynnwrf i uchafbwynt ym mwrlwm beiddgar y coda sy’n cloi’r gwaith.

Mae Llŷr Williams yn ddehonglwr cywrain, glân a chynnil. Roedd y ddynes oedd yn eistedd wrth fy ymyl eisoes yn berchen ar recordiadau Beethoven y pianydd enwog Alfred Brendel a minnau’n berchen ar gasgliad Daniel Barenboim. Roedd y ddwy ohonon ni’n gegrwth ddiwedd y gyngerdd, dan gyfaredd lwyr – yn gwybod ein bod ni wedi profi rhywbeth hynod ac arbennig – ar ein stepen drws. Mae Llŷr Williams yn llwyddo i ennyn chwilfrydedd cynulleidfaoedd hyd a lled Prydain – cynulleidfaoedd sy’n dod yn ôl o hyd ac o hyd i wrando arno. O gymalau cyffrous, acennog ac egnïol Beethoven i’w alawon mwy breuddwydiol, roedd hud yn nehongliadau Llŷr Williams ohonynt heno. Ac wrtho iddo gerdded yn ôl i dywyllwch ochr y llwyfan, fe sylwais innau fy mod i eisiau ailddirwyn i ddechrau’r daith. Dyma ddewin o bianydd sy’n gaffaeliad i Gymru.