GWYLLT – Amlyn Parry

GWYLLT

GWYLLT

Diolch i Amlyn Parry am y cyfweliad isod  – mae’n son am albym gynta GWYLLT , am eu blaenoriaethau a’u gobeithion. Mae gen i deimlad bod ‘na bethau cyffrous ar y gorwel i GWYLLT.

Ar y gweill …

Wel, ma’r albym gyntaf allan ers tua mis rwan felly ma’n braf cael hynny allan o’r ffordd a chael cyfle i roi ymdrech i mewn i chwarae’n fyw.

Dim ond ers tua mis mae GWYLLT wedi bod yn chwarae’n fyw felly mae sawl gig ar y gweill. Mi fyddwn ni’n chaware un neu ddau o gigs yng Nghaerdydd yn yr wythnosau nesa. Hefyd, rydan ni’n chwarae ym Maes B ar y nos Wener ola ac yn gig Cymdeithas ar y nos Sadwrn ola.

Does dim cynlluniau i recordio mwy ar hyn o bryd – ond dwi wastad yn trio cyfansoddi ar y gitar ac yn trio cael synidau am eiriau. Mae angen dal i fynd, felly shwr o fod mi fydd na fwy o recordio a mwy o ganeuon newydd i’w clywed yn y dyfodol agos – jyst cael petha at ei gilydd yn gyntaf. Dwi’n meddwl mai ymarfer, ehangu’r set a gigio ydy’r flaenoriaeth ar hyn o bryd.

Sut wyt ti’n mynd ati i gyfansoddi caneuon?

Fel arfer, mae’r gerddoriaeth yn dod yn gyntaf, ac yna mi fydda i yn trio sgwennu rhywbeth sy’n ffitio hynny. Efo’r geiriau, unwaith dwi’n teimlo bod gen i bennill gryf, allai orffen y gan. Os yw’r bennill gyntaf yn wan, wnai sgrapio’r gan a meddwl am destun arall.

Hap a damwain ydi’r testun fel arfer. Be’ bynnag syn dod i mhen i ar y pryd a beth bynnag syn odli!  Digon posib  i un gan ddechra a gorffen mewn rhywle hollol annisgwyl.

Y SRG …

Dwi’n teimlo bod ‘na lwyth o fandiau a phrosiectau cerddorol gwych yn Ngymru. ‘Dw i hefyd yn teimlo bod ‘na lot o gefnogaeth allan yna a bod pobol yn barod i roi sylw i fandiau. Dwi’n mwynhau y SRG.

Ma’r sin yn ganolbwynt cymdeithasol i mi ers dros ddegawd rwan ac mae gen i lwyth o ffrindia ledled Cymru oherwydd y sin. Er mai cerddoriaeth ydi’r canolbwynt, mae lot beth da eraill yn dod allan o’r SRG.  Mae’n lot o hwyl a dw i’n tybio bod y sin yn eitha iach.

Amlyn Parry

Amlyn Parry

Tasa ti’n cael perfformio efo unrhyw gerddor o dy ddewis di, pwy fyddai’r cerddor hwnnw a pham? 

Chwarae bas neu lais cefndir i rywun fel Bob Marley dwi’n meddwl. Pam ddim!

Mae o wedi sgwennu caneuon gwych, hollol wych, a ma’r gerddoriaeth, y bas a’r lleisiau yn lot o’i ganeuon o yn briliant. Caneuon fel ‘Zimbabwe’ neu ‘Ride Natty Ride’.

Dwi’n shwr fyswn i’n  mwynhau chwara bas i Bob!

Pwy sy’n dy ysbrydoli di yng Nghymru ar hyn o bryd? 

Ma’ na lot o ffrindia, cerddorion, trefnwyr, blogwyr, a phobol syn sgwennu ac ymdrin â’r sin yng Nhgymru sy’n fy ysbrydoli i wneud cerddoriaeth ar hyn o bryd, a mae’n gret bod yn rhan o’r sin. Mae’r  rhan fwyaf o bobol yn ei wneud o fel mwynhad.

Mae na bobol sy’n rhoi lot o amser a ymdrech i mewn i’r sin gerddoriaeth yng Nghymru – am ddim llawer mwy na phleser. Rheina efo’r ymroddiad sy’n fy ysbrydoli, rheina sy’n dal i fynd a rheina sy’n neud o er mwyn neud o (er gwaetha’r gerddoriaeth ar adegau!)

Vibe GWYLLT …

Cerddoriaeth sy’n hawdd ar y glust

Dy obeithion ar gyfer dyfodol GWYLLT

Ehangu a datblygu. Dal i fynd. Arbrofi a chymysgu. Newid petha o gwmpas. Bod yn hyblyg efo’r gerddoriaeth. Chwara o gwmpas efo steils cerddoriaeth. Mwynhau. Cynhyrchu cerddoriaeth dda.

gwyllt.co.uk

Griff Lynch – Yr Ods

Yr Ods Chwith - Griff Lynch

Yr Ods
Chwith – Griff Lynch

Bydd Yr Ods yn rhyddhau eu hail albwm ‘Llithro’ ddiwedd y mis, diolch yn fawr i Griff  Lynch am y cyfweliad. Mae’n son am yr albwm newydd, am  grwpiau, unigolion a bandiau sy’n ei ysbrydoli fel cerddor ac am yr heriau sy’n wynebu cerddorion yng Nghymru heddiw.

Ar y gweill …

Fyddwn ni fel Yr Ods yn perfformio hyd a lled yr Eisteddfod eleni o ‘Caffi Maes B’, Maes B ei hun, gig i Gymdeithas Yr Iaith ac ar y Maes hefyd.

Mai’n Haf prysur iawn i ni gan ein bod ni’n rhyddhau ein hail albwm ddiwedd Gorffennaf sef ‘Llithro’. Byddwn ni’n hyrwyddo honno mewn gwyliau megis Gŵyl Rhuthun, Gŵyl Gardd Goll, Gŵyl Arall, Gŵyl Gwydir, Pesda Roc a Festival No 6, yn o gystal â thaith fach ddiwedd Medi. Main gyfnod cyffrous iawn i ni fel grŵp ar ôl bod yn dawel iawn ers blwyddyn bron.

Mi ryda ni wedi recordio’r albym efo’r cynhyrchydd Kris Jenkins, a chroesawu aelod newydd sef Gwion Llewelyn gynt o’r Race Horses. Hefyd fyddwn ni’n rhyddhau’r Albym ar ffurff Feinal, sydd yn rhywbeth yda ni gyd wedi bod yn awyddus i neud ers blynyddoedd. Bydd nifer cyfyngedig o rheiny ar gael yn yr holl gigs.

‘Amrwd’

Ma’n ail albym ni ‘ Llithro’ chydig yn fwy amrwd na’r stwff da ni wedi recordio o’r blaen. ‘Da ni wedi mynd ati jesd i roi caneuon lawr yn eu ffurf naturiol yn hytrach na plastro’r lleisiau a’r synths gyda bob math o effeithiau. ‘Da ni’n teimlo bod na deimlad fwy organig i’r swn yn gyffredinnol.

Ma’r geiriau ryda ni wedi eu cyfansoddi a’r pynciau ryda ni’n drafod chydig yn wahanol hefyd. ‘Da ni ddim yn son cymaint am ferched, mwynhau ein hunain a thestunau pop confensiynol. ‘Da ni’n myfyrio mwy am faterion sy’n ein poeni ac yn sylwebu mymryn ar sut ma’ hi i fod yn Gymry ohoedran ni, heddiw. Dydi hi ddim yn albym gwleidyddol, dydyn ni ddim chwaith yn trio gwneud ryw safiad o bell ffordd, dim ond ffordd i ni fynegi ambell i rwystredigaeth! Wrth fynd yn hyn, ti’n teimlo’n wahannol am betha’ a falla mai hynny sy’n amlwg yn rhai o’r caneuon.

Ond mewn gwirionedd albym pop ydi hi, efo’r prif fwriad o gael ti i bobio dy ben, symud dy draed, a mwynhau ychydig.

Sut ddechreuodd dy ddiddordeb di mewn cerddoriaeth?

Mi ddechreuodd fy niddordeb i mewn cerddoriaeth yn eithaf cynnar, tua 10 oed falla? Wedi dweud hynny, cael fy fforsho i fynd i wersi piano gan Mam nesi, yn fwy na bod ‘wrth fy modd’ yn mynd. Mi o ni hefyd yn aelod o fand pres Deiniolen o pan o ni’n tua tair ar ddeg ymlaen.

Ond fyswn ni’n deud fod fy niddordeb mewn cerddoriaeth boblogaidd wedi dod yn hwyrach. Dechrau gwrando ar stwff Anweledig, Gogz, Rage Againt the Machine, Nirvana, Radiohead, The Datsuns, Kentucky AFC Meic Stevens a Super Furry Animals pan o ni’n tua 14,15 ac wedyn datblygu chwaeth a tast gwahanol hyd heddiw.

Dy farn di am y SRG yng Nghymru ar hyn o bryd?

Dwi’n teimlo fod y byd cerddoriaeth Cymraeg yn iach iawn ar hyn o bryd. Dwi wrth fy modd efo lot o’r grwpiau ifanc sydd wedi dod i’r amlwg yn y flwyddyn ddwy ddiwethaf megis Candelas, Swnami a Sen Segur. A ma na do ‘fengach byth yn dynn ar eu sodlau megis Y Ffug, Kizzy Crawford, Castro a Yr Eira.

Ma grwpiau sydd ynghlwm a label Peski yn cynnig rwbath hollol ffresh ar hyn o bryd, Y Pencadlys, R-seiliog a Gwenno yn enghreifftiau da. Nid yn unig ma’r artistiaid sydd ar y label yn gallu creu synnau pop a churiadau digidol hollol wallgof, mae nosweithiau ‘Peski Nacht’ yn Jacobs Antiques, Caerdydd yn cynnig ffordd wahannol o fwynhau’r gerddoriaeth – drwy ei glymu a chelf a ffilmiau, mewn lleoliad anisgwyl. Mae nosweithiau megis rhai ‘Peski’ a ‘Nyth’ yn cynnig naws fwy Ewropeaidd i’r holl sin, ac yn cynnig rhywbeth gwahannol i’r gig arferol mewn tafarn.

Yn amlwg mae na ddiffygion yn y sin gerddorol Gymraeg, megis diffyg cynulleidfaoedd, a diffyg breindaliadau. Ond pe bae ti’n edrych ar micro-scenes eraill y byd ar hyn o bryd, dwi’n shwr fysa ti’n dod ar draws yr un problemau.

Mae’n annodd gwneud arian call drwy fod yn artist, neu yn y byd cerddorol yn gyffredinnol ar hyn o bryd, oherwydd argaeledd deunydd am ddim ar y we. Ond I fi, mae Maes B, a digwyddiadau fel Hanner Cant, yn dangos BOD y gynulleidfa yn bodoli o fewn y Gymry Gymraeg, jesd and ydyn nhw’n troi fynny i bob gig (a does dim disgwyl iddy nhw wrth gwrs!). Ond ia, sin iach ac amrywiol iawn ydi neges y gan.

Tasa ti’n cael byw mewn unrhyw gyfnod – pa gyfnod fydda hwnnw a pham?

Dwi’n eithaf hapus efo’r cyfnod dwi’n byw ynddo rwan! Ond o ran cerddoriaeth, fyswn i wedi bod wrth fy modd yn cael profi chwyldro cerddorol y 60au. Bandiau fel The Byrds, The Beatles, Bob Dylan The Doors a Sly and The Family Stone……a Y Blew wrth gwrs. Fysw ni hefyd yn licio bod yn ifanc yn yr 80au cynnar a dechrau band o’r enw Y Cyrff.

Yr anrheg gorau i ti gael erioed? 

Gesi Roller Blades reit smart pan o ni yn tua 10. Ond mi fysa’r ‘fi’ 4 oed yn gorfod dweud ‘Raffael’ sef tedi Teenage Mutant Hero Turtles. Oddo’n ffrind reit dda i fi.

Ti’n wyneb cyfarwydd ar y teledu ac yn llais cyfarwydd ar y radio … Oedd gen ti syniadau am yrfa chydig yn wahanol pan yn iau?

Ddim dyma o ni wedi meddwl fyswn i’n neud. Deud y gwir, dw i ‘rioed wedi rhoi lot o feddwl i mewn i be dwi isho ei neud, jesd neud be sy’n dod yn naturiol. Falla’ mod i wedi landio’n gwneud ‘chydig o gyflwyno achos na fi oedd yr unig un o’r Band oedd yn fodlon gwneud cyfweliadau, ti wasdad yn dod drosodd fel siaradwr gwell pan ma pawb arall o dy gwmpas di’n ddistaw.

@grifflynch

Llosgi Piano – Annea Lockwood

Mi ges i  brofiad celfyddydol unigryw dros y penwythnos – perfformiad o waith arloesol 1968 Annea Lockwood, artist sain o Seland Newydd / UDA  ‘Piano Burning’ (Llosgi Piano) yn Hen Iard Nwyddau Treborth, Bangor. Hen biano (wedi gweld dyddiau gwell) oedd y biano a ddefnyddiwyd, yn unol a gofynion y cyfansoddwr. Roedd y cynhyrchiad yn rhan o lansiad tymor newydd Dinas Sain Bangor.

Dyma  gyfle gwerthfawr  i weld Annea Lockwood yn perfformio ei gwaith yn fyw. Roedd  sawl unigolyn yn canu’r piano cyn iddo gael ei losgi. Drwy gydol y perfformiad, roedd y gynulleidfa’n sefyll o amgylch y piano yn  gwrando ar synau’r pren a’r llinynnau wrth i’r fflamau fwyta’r offeryn.  Dyma brofiad seiniol a chelfyddydol unigryw. Roedd criw technegol yn bresennol i  recordio’r sain a ffilmio’r profiad. Dyw’r syniad o losgi offeryn  a’i gynnig fel profiad celfyddydol byw ddim yn newydd. Ond, dyma’r tro cyntaf i mi brofi perfformiad o’r fath. Fe glywais i rai yn wfftio’r syniad  ‘Pam gwneud peth  fel hyn? Difetha piano dda’ neu ‘Nid cerddoriaeth ydy hyn siwr – ond llond ysgyfaint o fwg’. Rhydd i bawb ei farn, wrth gwrs – ond, wnes i fwynhau’r profiad. Mi gafodd pawb oedd yn sefyll o amgylch y piano brofiad celfyddydol unigryw, profiad ooedd yn apelio at nifer o’r synhwyrau. Roedd y cyhoedd wrthi’n tynnu lluniau o’r biano’n llosgi, rhai yn ymateb drwy Gelf,  eraill yn ffilmio ac yn ceisio dal y profiad drwy ddefnydd y cyfryngau digidol. Ai galaru diwedd hen biano wael oedden ni neu ddefnyddio hen offeryn i ddathlu seiniau cerddorol newydd a mwynhau diweddglo unigryw? Yr ail, o’ mhrofiad i.

 Mae sawl un yn gyfforddus iawn mewn neuadd gerdd fawreddog yn gwerthfawrogi dehongliad cerddorfa o waith poblogaidd. Ond, wnaeth y profiad anghonfensiynol ac unigryw hwn fy atgoffa i mor gyffrous ac annisgwyl y gall sain  a’r celfyddydau  fod – roedd rhywbeth arbennig am y perfformiad.

Fe benderfynodd rhai yn y gynulleidfa gerdded i ffwrdd ar ôl i brif ffram y piano ddisgyn, falle eu bod nhw’n credu bod y sioe drosodd, bod dim byd mwy i’w weld nac i’w glywed. Roedd eraill dal yn sefyll yno’n syllu ar yr hen biano wrth i weddill y darnau losgi. Pam oedd y perfformiad drosodd i rai ac eraill yn parhau i ryfeddu ar yr hyn oedd yn digwydd o’u blaenau? Pam bod rhai yn drist/ emosiynol ac eraill ar ben eu digon?

Mae rhai yn anghytuno â’r egwyddor o losgi hen bianos, ond allai ddim deall pam, mewn gwirionedd. Mae pianos gwael  i’w cael mewn sawl canolfan gymdeithasol ledled y wlad – llawer ohonynt yn ddim mwy na darn o ddodrefnyn yng nghornel stafell, offeryn sydd prin yn cael ei ddefnyddio ac sy’n llawn pry. Dyma pryd y bydda i’n galau diwedd offeryn, nid mewn perfformiad arbennig fel a gafwyd nos Sadwrn ym Mangor.

Dyma flas o’ mhrofiad i mewn lluniau: