DnA Delyth & Angharad Jenkins

DnA

Fe ges i fy hudo gan ‘Adnabod’ – Delyth & Angharad Jenkins. Mae gwead y seiniau gwerinol cynnes yn hyfryd. O’r darnau egniol i gerddoriaeth arddull sy’n fwy myfyriol, mae cryn amrywiaeth yma. Ond, sut mae mynd ati  i gynhyrchu’r math yma o sain? Dw i’n siwr  bod sicrhau meistrolaeth dechnegol o’r amrywiol offerynnau yn allweddol wrth geisio cyflawni hyn – ond dw i’n  tybio bod hud ychwanegol  i ‘Adnabod’. Dyma bartneriaeth gerddorol aeddfed rhwng mam a merch. Yn sicr, daw aeddfedrwydd y berthynas hon yn glir wrth wrando ar y gerddoriaeth. Mae yma ddealltwriaeth rhyngddynt sydd tu hwnt geiriau. Fe yrrais i’r cwestiynau ar gyfer y cyfweliad hwn i Delyth ac Angharad ar wahân – ro’ ni’n  gwenu pan dderbyniais i’r atebion yn ôl gan fod sawl un yn debyg iawn. Efallai mai’r tebygrwydd hwn, eu dealltwriaeth o’i gilydd  a’r berthynas glos rhyngddynt sy’n gwneud ‘Adnabod’ mor arbennig. Nid casgliad o ganeuon amrywiol ar gryno ddisg yn unig yw’r cyfanwaith, dw i’n teimlo bod ‘Adnabod’ yn dweud rhywbeth amgenach;  arbennig – am berthnasau a pherthyn. Diolch yn fawr iawn i Delyth ac Angharad am eu hatebion difyr.

Beth oedd sbardun creu ‘Adnabod’?

Angharad: Sawl blwyddyn yn ol gaethon ni wahoddiad i berfformio yng Nghŵyl Gwerin Gŵyr gan ffrind sy’n trefnu’r ŵyl. Ar y pryd, roedd y ddwy ohonom yn perfformio naill ai’n unigol (mam) neu gyda fandiau eraill (fi gyda Calan a’r Joe Allen Band yn Rhydychen). Doedden ni erioed wedi meddwl am berfformio gyda’n gilydd o ddifri. Ond, gan bod y cynnig wedi codi, wnaethon ni roi rhyw fath o set at ei gilydd ar gyfer yr ŵyl. Roedd yr ymateb yn bositif iawn, ac roedd pobl wrth eu bodd gyda’r perthynas mam a merch. Tua 5 mlynedd yn ddiweddarach, dyma ni’n rhyddhau ein halbym cyntaf gyda’n gilydd. Rhaid i ni ddiolch felly i Joy Toole am syniad gwreiddiol wnaeth ein dechrau ar daith gyda’n gilydd.

Delyth: Gaethon ni wahoddiad i berfformio yng Ngwyl Werin Gŵyr gwpl o flynyddoedd yn ôl. Roedd yr ymateb yn galonogol iawn, ac ro’n ni’n meddwl, ‘Wel falle mae rhywbeth ‘da ni fan hyn ac dylen ni ddatblygu fe.’ A dyna beth naethon ni!

Beth sy’n arbennig am weithio gyda’ch gilydd fel mam a merch? 

A: Dwi’n gwbod dyw hwn ddim yn beth cŵl iawn i ddweud, ond dwi wrth fy modd yn chwarae cerddoriaeth gyda mam! Yn ddiweddar dwi wedi sylweddoli cymaint o ddylanwad mae hi wedi bod arna i yn gerddorol. Mae fy niddordeb mewn cerddoriaeth werin yn amlwg wedi dod ganddi, a thrwy ei gwaith yn adolygu cryno ddisgiau i’r cylchgrawn werin Taplas, mae hi wedi  fy nghyflwyno i sawl band a cherddor anhygoel sydd wedi fy ysbrydoli ar y ffordd. Ryn ni’n hoffi’r un math o gerddoriaeth, felly mae hynny’n gwneud pethau’n haws wrth ddod at gyfansoddi a threfnu cerddoriaeth ein hun.

Ryn ni’n ymarfer adref yn Caswell ym Mhenryn Gŵyr, ac felly ryn ni gallu cymryd pethau yn hamddenol gan weitho ar bethau dros gyfnod hir o amser. Mae e’n gallu bod yn anodd weithiau i ganolbwyntio a ffocysu’r meddwl ar y gerddoriaeth, gan bod wastad pethe eraill i neud yn y tŷ. Ond pan roeddwn ni’n gweithio ar y deunydd ar gyfer yr albym gyntaf, roeddwn ni’n ceisio penodi diwrnod cyfan gyda’n gilydd. Byddwn ni wastad yn gwneud yn siwr bod digon o fwyd yn y tŷ, ac ein bod ni’n trefnu digon o brêcs ar gyfer coffi, cinio, dro bach lawr i’r traeth efallai, dishgled o de ac un o fflap-jacs enwog mam. Ac yn y nos, dros botel o win coch byddwn ni’n trafod Y Dyfodol! (Galle hynny cynnwys ein cerddoriaeth, ein gyrfaoedd, ein bywydau personol – unrhyw beth!)

Byddwn ni’n galw’r diwrnodau yma yn DnA Days, ac on i wrth fy modd yn gallu treulio’r amser arbennig yma gyda mam!

D: Mae ‘na rywbeth cyfforddus iawn am weithio gyda’n gilydd. Dyn ni’n deall ein gilydd yn dda, ac dyn ni’n mwynhau’r un pethau.

O droi dro, dyn ni’n cael ‘DnA day’ sy’n golygu lot o de, flapjacks, ymarfer, trio pethau newydd mas, ac yn hwyrach yn y dydd pryd o fwyd ac ambell wydraid o win, ac wedyn mwy o chwarae.

Y sialensiau? Cadw lan gyda merch sy’n digon ifanc i fod yn ferch i mi!

Y boddhad? Cael perfformio gyda fy merch.

Delyth & Angharad Jenkins

Delyth & Angharad Jenkins

Hon yw eich cryno ddisg cyntaf fel mam a merch. A hoffech chi barhau i gynhyrchu gwaith a chryno ddisgiau gyda’ch gilydd? 

A: Bendant! Mae gennym gwerth hanner albym arall yn barod ar gyfer y CD nesa. Gwnaethon ni recordio llawer o’r deunydd yma cyn sylweddoli bod gormod o gerddoriaeth gyda ni ar gyfer un gryno ddisg! Yn bersonol, dwi’n awyddus i gydweithio ac arbrofio gyda cherddorion eraill er mwyn dod ag elfennau eraill i’r gerddoriaeth.

Er enghraifft, dwi’n meddwl bydde elfennau ysgafn a chynnil o electronica yn gweithio’n dda gyda’n cerddoriaeth fwy atmosfferig, ffilmaidd fel Nyth, Glyn Tawe a dechrau Cassie en Lorient. Dwi’n hoffi’r fath o driniaeth mae bandiau fel Fitkinwall a Solarference yn rhoi ar gerddoriaeth werin a thraddodiadol trwy ddefnyddio electronica mewn ffordd sensitif a chreadigol.

D: Yn bendant! Dw i eisiau cario ymlaen cyhyd ag mae Angharad yn fodlon a chyhyd ag y galla i!

Pwy sy’n eich ysbrydoli yng Nghymru ar hyn o bryd a pham? 

A: Y sîn werin? Petaet ti’n gofyn y cwestiwn yma i mi 10 mlynedd yn ol, bydden i wedi ffindio fe’n anodd i enwi unrhyw un. Roedd rhaid i mi edrych at y gwledydd Celtaidd eraill, Scandanfia neu America am ysbrydoliaeth. Ond erbyn hyn mae cymaint o fanidau gwerinol gwych ar y sîn.

Dwi wrth fy modd gyda cherddoriaerth Lleuwen Steffan, Georgia Ruth, Cowbois Rhos Botwnnog, Fernhill, Y Plu, Olion Byw, Alaw… Mae’r rhestr yn ddiddiwedd!

D: Georgia Ruth – am bod hi’n defnyddio’r delyn mewn ffordd ffresh, modern a theimladwy.     Y grwp Alaw – am eu trefniadau hyfryd o alawon o Gymru a thu hwnt.

Wnaeth athro / athrawes greu argraff arbennig arnoch a pham? 

A: Fy athro ffidil oedd Andrew Griffiths o Abertawe. Es i trwy’r hyfforddiant clasurol gyda fe. Er nad yw e’n ddylanwad uniongyrchol ar fy llais personol, gwnaeth e sicrhau mod i’n mwynhau a dyfalbarhau gyda’r gwersi tan i mi gyrraedd safon da. Ers hynny, dwi wedi bod yn hynod o lwcus i gael fy mentora gan un o fy arwyr ar y ffidil, Chris Stout o’r Fair Isle yn Shetland. Does neb yn cyfuno’r dull clasurol a’r gwerinol mewn ffordd mor hyderus a chreadigol a fe!

D: Do. Athro o’r enw Kek (Frank McEachran). Ro’n ni’n arfer dysgu llwyth o bytiau bach o farddoniaeth ar gof, ac maen nhw’n dal gyda fi ar ol yr holl flynyddoedd sy wedi mynd heibio, fel tresordy dw i’n gallu mynd mewn iddo pan fydd angen.

Delyth & Angharad Jenkins

Delyth & Angharad Jenkins

Taswn i’n gofyn i chi ddisgrifio’r sin gerddoriaeth werin yng Nghymru ar hyn o bryd, sut fyddech chi’n gwneud hynny? 

A: Mae’n syndod i mi cymaint mae’r sîn wedi datblygu o fewn y tair mlynedd diwethaf. Mae yna gymorth mawr yn dod o’r cyrff ariannu, a mudiadau gwerin cenedlaethol gwahanol, ac oherwydd WOMEX mae pwyslais enfawr ar y diwydiant cerddoriaeth. Mae hynny i gyd yn wych yn fy marn i, ond mae dal llawer o waith i’w wneud mewn addysgu’r Cymry am ein traddodiadau gwerin. Mae’n grêt bod pobl yn creu o’r newydd ac yn arbrofi, ond mae angen gwbod y rheolau cyn eu torri. Rhaid cyflwyno mwy o gerddoriaerth werin yn yr ysgolion fel ein bod ni’n tyfu’n genedl hyderus wrth son am ein traddodiadau. Mae dal llawer o anwybodaeth mas yna, ac mae’r arbennigedd i gyd yn y genhedlaeth hŷn.Rhaid achub y wybodaeth yma cyn iddi gael ei golli, fel bod modd i ni trasglwyddo’r gwybodaeth ymlaen i’r cenedlaethau nesaf.

D: Dw i’n credu bod y sin gerddoriaeth werin yng Nghymru yn eitha iachus. Mae’r cerddorion yn fwy proffesiynol nag o’n nhw arfer bod, felly o ganlyniad mae’r cyhoedd yn cymryd mwy o sylw. Mae’r ffaith bod WOMEX yn dod i Gymru eleni wedi rhoi hwb i lot o’r cerddorion ac dw i’n siwr y bydd e’n codi ymwybyddiaeth am gerddoriaeth werin Gymreig.

Eich hoff le yn y byd … 

A: Adref.

D: Arfordir sir Benfro

Cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol? 

A: Yn syml, y bwriad yw i barhau i greu a mwynhau yng nghwmni ein gilydd. Hoffwn gwneud hynny trwy deithio i wledydd Ewrop gyda’r gerddoriaeth, a hefyd Siapan (gan bod diddordeb mewn mewn cerddoriaeth Celtaidd yna). Hoffwn hefyd gwneud prosiect mam a merch, gyda deuawdau cerddorol eraill sydd mas yna! Ac un diwrnod, pan dwi’n cael plant, byddwn gallu teithio a gigio fel un teulu mawr, a bydd y genhedlaeth nesaf yn cydio yn y traddodiad!

D: Parhau creu pethau newydd, cyffrous gyda DnA, ac hefyd cyfuniadau eraill. Ac uchelgais ar hyn o bryd yw ysgrifennu llyfr am daith gerdded nes i llynedd ar hyd llwybr arfordir sir Benfro yng nghwmni fy nhelyn fach – profiad anhygoel a bythgofiadwy hoffwn i rannu gyda phobl eraill.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s