DnA Delyth & Angharad Jenkins

DnA

Fe ges i fy hudo gan ‘Adnabod’ – Delyth & Angharad Jenkins. Mae gwead y seiniau gwerinol cynnes yn hyfryd. O’r darnau egniol i gerddoriaeth arddull sy’n fwy myfyriol, mae cryn amrywiaeth yma. Ond, sut mae mynd ati  i gynhyrchu’r math yma o sain? Dw i’n siwr  bod sicrhau meistrolaeth dechnegol o’r amrywiol offerynnau yn allweddol wrth geisio cyflawni hyn – ond dw i’n  tybio bod hud ychwanegol  i ‘Adnabod’. Dyma bartneriaeth gerddorol aeddfed rhwng mam a merch. Yn sicr, daw aeddfedrwydd y berthynas hon yn glir wrth wrando ar y gerddoriaeth. Mae yma ddealltwriaeth rhyngddynt sydd tu hwnt geiriau. Fe yrrais i’r cwestiynau ar gyfer y cyfweliad hwn i Delyth ac Angharad ar wahân – ro’ ni’n  gwenu pan dderbyniais i’r atebion yn ôl gan fod sawl un yn debyg iawn. Efallai mai’r tebygrwydd hwn, eu dealltwriaeth o’i gilydd  a’r berthynas glos rhyngddynt sy’n gwneud ‘Adnabod’ mor arbennig. Nid casgliad o ganeuon amrywiol ar gryno ddisg yn unig yw’r cyfanwaith, dw i’n teimlo bod ‘Adnabod’ yn dweud rhywbeth amgenach;  arbennig – am berthnasau a pherthyn. Diolch yn fawr iawn i Delyth ac Angharad am eu hatebion difyr.

Beth oedd sbardun creu ‘Adnabod’?

Angharad: Sawl blwyddyn yn ol gaethon ni wahoddiad i berfformio yng Nghŵyl Gwerin Gŵyr gan ffrind sy’n trefnu’r ŵyl. Ar y pryd, roedd y ddwy ohonom yn perfformio naill ai’n unigol (mam) neu gyda fandiau eraill (fi gyda Calan a’r Joe Allen Band yn Rhydychen). Doedden ni erioed wedi meddwl am berfformio gyda’n gilydd o ddifri. Ond, gan bod y cynnig wedi codi, wnaethon ni roi rhyw fath o set at ei gilydd ar gyfer yr ŵyl. Roedd yr ymateb yn bositif iawn, ac roedd pobl wrth eu bodd gyda’r perthynas mam a merch. Tua 5 mlynedd yn ddiweddarach, dyma ni’n rhyddhau ein halbym cyntaf gyda’n gilydd. Rhaid i ni ddiolch felly i Joy Toole am syniad gwreiddiol wnaeth ein dechrau ar daith gyda’n gilydd.

Delyth: Gaethon ni wahoddiad i berfformio yng Ngwyl Werin Gŵyr gwpl o flynyddoedd yn ôl. Roedd yr ymateb yn galonogol iawn, ac ro’n ni’n meddwl, ‘Wel falle mae rhywbeth ‘da ni fan hyn ac dylen ni ddatblygu fe.’ A dyna beth naethon ni!

Beth sy’n arbennig am weithio gyda’ch gilydd fel mam a merch? 

A: Dwi’n gwbod dyw hwn ddim yn beth cŵl iawn i ddweud, ond dwi wrth fy modd yn chwarae cerddoriaeth gyda mam! Yn ddiweddar dwi wedi sylweddoli cymaint o ddylanwad mae hi wedi bod arna i yn gerddorol. Mae fy niddordeb mewn cerddoriaeth werin yn amlwg wedi dod ganddi, a thrwy ei gwaith yn adolygu cryno ddisgiau i’r cylchgrawn werin Taplas, mae hi wedi  fy nghyflwyno i sawl band a cherddor anhygoel sydd wedi fy ysbrydoli ar y ffordd. Ryn ni’n hoffi’r un math o gerddoriaeth, felly mae hynny’n gwneud pethau’n haws wrth ddod at gyfansoddi a threfnu cerddoriaeth ein hun.

Ryn ni’n ymarfer adref yn Caswell ym Mhenryn Gŵyr, ac felly ryn ni gallu cymryd pethau yn hamddenol gan weitho ar bethau dros gyfnod hir o amser. Mae e’n gallu bod yn anodd weithiau i ganolbwyntio a ffocysu’r meddwl ar y gerddoriaeth, gan bod wastad pethe eraill i neud yn y tŷ. Ond pan roeddwn ni’n gweithio ar y deunydd ar gyfer yr albym gyntaf, roeddwn ni’n ceisio penodi diwrnod cyfan gyda’n gilydd. Byddwn ni wastad yn gwneud yn siwr bod digon o fwyd yn y tŷ, ac ein bod ni’n trefnu digon o brêcs ar gyfer coffi, cinio, dro bach lawr i’r traeth efallai, dishgled o de ac un o fflap-jacs enwog mam. Ac yn y nos, dros botel o win coch byddwn ni’n trafod Y Dyfodol! (Galle hynny cynnwys ein cerddoriaeth, ein gyrfaoedd, ein bywydau personol – unrhyw beth!)

Byddwn ni’n galw’r diwrnodau yma yn DnA Days, ac on i wrth fy modd yn gallu treulio’r amser arbennig yma gyda mam!

D: Mae ‘na rywbeth cyfforddus iawn am weithio gyda’n gilydd. Dyn ni’n deall ein gilydd yn dda, ac dyn ni’n mwynhau’r un pethau.

O droi dro, dyn ni’n cael ‘DnA day’ sy’n golygu lot o de, flapjacks, ymarfer, trio pethau newydd mas, ac yn hwyrach yn y dydd pryd o fwyd ac ambell wydraid o win, ac wedyn mwy o chwarae.

Y sialensiau? Cadw lan gyda merch sy’n digon ifanc i fod yn ferch i mi!

Y boddhad? Cael perfformio gyda fy merch.

Delyth & Angharad Jenkins

Delyth & Angharad Jenkins

Hon yw eich cryno ddisg cyntaf fel mam a merch. A hoffech chi barhau i gynhyrchu gwaith a chryno ddisgiau gyda’ch gilydd? 

A: Bendant! Mae gennym gwerth hanner albym arall yn barod ar gyfer y CD nesa. Gwnaethon ni recordio llawer o’r deunydd yma cyn sylweddoli bod gormod o gerddoriaeth gyda ni ar gyfer un gryno ddisg! Yn bersonol, dwi’n awyddus i gydweithio ac arbrofio gyda cherddorion eraill er mwyn dod ag elfennau eraill i’r gerddoriaeth.

Er enghraifft, dwi’n meddwl bydde elfennau ysgafn a chynnil o electronica yn gweithio’n dda gyda’n cerddoriaeth fwy atmosfferig, ffilmaidd fel Nyth, Glyn Tawe a dechrau Cassie en Lorient. Dwi’n hoffi’r fath o driniaeth mae bandiau fel Fitkinwall a Solarference yn rhoi ar gerddoriaeth werin a thraddodiadol trwy ddefnyddio electronica mewn ffordd sensitif a chreadigol.

D: Yn bendant! Dw i eisiau cario ymlaen cyhyd ag mae Angharad yn fodlon a chyhyd ag y galla i!

Pwy sy’n eich ysbrydoli yng Nghymru ar hyn o bryd a pham? 

A: Y sîn werin? Petaet ti’n gofyn y cwestiwn yma i mi 10 mlynedd yn ol, bydden i wedi ffindio fe’n anodd i enwi unrhyw un. Roedd rhaid i mi edrych at y gwledydd Celtaidd eraill, Scandanfia neu America am ysbrydoliaeth. Ond erbyn hyn mae cymaint o fanidau gwerinol gwych ar y sîn.

Dwi wrth fy modd gyda cherddoriaerth Lleuwen Steffan, Georgia Ruth, Cowbois Rhos Botwnnog, Fernhill, Y Plu, Olion Byw, Alaw… Mae’r rhestr yn ddiddiwedd!

D: Georgia Ruth – am bod hi’n defnyddio’r delyn mewn ffordd ffresh, modern a theimladwy.     Y grwp Alaw – am eu trefniadau hyfryd o alawon o Gymru a thu hwnt.

Wnaeth athro / athrawes greu argraff arbennig arnoch a pham? 

A: Fy athro ffidil oedd Andrew Griffiths o Abertawe. Es i trwy’r hyfforddiant clasurol gyda fe. Er nad yw e’n ddylanwad uniongyrchol ar fy llais personol, gwnaeth e sicrhau mod i’n mwynhau a dyfalbarhau gyda’r gwersi tan i mi gyrraedd safon da. Ers hynny, dwi wedi bod yn hynod o lwcus i gael fy mentora gan un o fy arwyr ar y ffidil, Chris Stout o’r Fair Isle yn Shetland. Does neb yn cyfuno’r dull clasurol a’r gwerinol mewn ffordd mor hyderus a chreadigol a fe!

D: Do. Athro o’r enw Kek (Frank McEachran). Ro’n ni’n arfer dysgu llwyth o bytiau bach o farddoniaeth ar gof, ac maen nhw’n dal gyda fi ar ol yr holl flynyddoedd sy wedi mynd heibio, fel tresordy dw i’n gallu mynd mewn iddo pan fydd angen.

Delyth & Angharad Jenkins

Delyth & Angharad Jenkins

Taswn i’n gofyn i chi ddisgrifio’r sin gerddoriaeth werin yng Nghymru ar hyn o bryd, sut fyddech chi’n gwneud hynny? 

A: Mae’n syndod i mi cymaint mae’r sîn wedi datblygu o fewn y tair mlynedd diwethaf. Mae yna gymorth mawr yn dod o’r cyrff ariannu, a mudiadau gwerin cenedlaethol gwahanol, ac oherwydd WOMEX mae pwyslais enfawr ar y diwydiant cerddoriaeth. Mae hynny i gyd yn wych yn fy marn i, ond mae dal llawer o waith i’w wneud mewn addysgu’r Cymry am ein traddodiadau gwerin. Mae’n grêt bod pobl yn creu o’r newydd ac yn arbrofi, ond mae angen gwbod y rheolau cyn eu torri. Rhaid cyflwyno mwy o gerddoriaerth werin yn yr ysgolion fel ein bod ni’n tyfu’n genedl hyderus wrth son am ein traddodiadau. Mae dal llawer o anwybodaeth mas yna, ac mae’r arbennigedd i gyd yn y genhedlaeth hŷn.Rhaid achub y wybodaeth yma cyn iddi gael ei golli, fel bod modd i ni trasglwyddo’r gwybodaeth ymlaen i’r cenedlaethau nesaf.

D: Dw i’n credu bod y sin gerddoriaeth werin yng Nghymru yn eitha iachus. Mae’r cerddorion yn fwy proffesiynol nag o’n nhw arfer bod, felly o ganlyniad mae’r cyhoedd yn cymryd mwy o sylw. Mae’r ffaith bod WOMEX yn dod i Gymru eleni wedi rhoi hwb i lot o’r cerddorion ac dw i’n siwr y bydd e’n codi ymwybyddiaeth am gerddoriaeth werin Gymreig.

Eich hoff le yn y byd … 

A: Adref.

D: Arfordir sir Benfro

Cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol? 

A: Yn syml, y bwriad yw i barhau i greu a mwynhau yng nghwmni ein gilydd. Hoffwn gwneud hynny trwy deithio i wledydd Ewrop gyda’r gerddoriaeth, a hefyd Siapan (gan bod diddordeb mewn mewn cerddoriaeth Celtaidd yna). Hoffwn hefyd gwneud prosiect mam a merch, gyda deuawdau cerddorol eraill sydd mas yna! Ac un diwrnod, pan dwi’n cael plant, byddwn gallu teithio a gigio fel un teulu mawr, a bydd y genhedlaeth nesaf yn cydio yn y traddodiad!

D: Parhau creu pethau newydd, cyffrous gyda DnA, ac hefyd cyfuniadau eraill. Ac uchelgais ar hyn o bryd yw ysgrifennu llyfr am daith gerdded nes i llynedd ar hyd llwybr arfordir sir Benfro yng nghwmni fy nhelyn fach – profiad anhygoel a bythgofiadwy hoffwn i rannu gyda phobl eraill.

Advertisements

Iwan Huws

Iwan Huws

Iwan Huws

Diolch o galon i Iwan Huws, Cowbois Rhos Botwnog am y cyfweliad isod. Mae’n trafod y sin gerddoriaeth yng Nghymru, record nesaf Cowbois, mae’n son am yr iaith ac yn ateb ambell gwestiwn fwy cyffredinol. Darllen difyr iawn.

Deunydd Newydd

Ar hyn o bryd, rydan ni’n gigio ac yn gweithio ar ddeunydd newydd. Mae’r geiriau’n dod yn ara deg, a’r rhan fwyaf o’r gerddoriaeth wedi’i sgwennu’n barod.

Sut byddi di’n mynd ati i ysgrifennu cerddoriaeth?

Ma’n well gen i wneud y ffordd arall fel arfer, geiriau’n gyntaf ac yna cyfansoddi’r gerddoriaeth i ddilyn. Ond, gan ‘mod i’n ailysgrifennu geiriau’n aml mae gen i stoc o ganeuon sydd angen llwyth o waith ar y geirau. Hyn sydd yn tueddu i ddigwydd pan byddai’n sgwennu.

Am nad ydw i’n gynhyrchiol iawn fel cyfansoddwr mae’n rhaid i mi ailgylchu hen syniadau trwy’r amser, proses sy’n gallu cymeryd tipyn yn hirach na sgwennu can o’r newydd, a mi all fod yn flynyddoedd cyn y byddai’n teimlo fy mod wedi gorffen can. Efallai mai balchder o fath yw hynny, ac efallai y byddai’n well taswn i’n rhoi’r gorau i feddwl mor ddwys am y gwaith, ond mae’n un o’r ychydig bethau mewn bywyd y galla’i reoli.

Trwy’r caneuon y mae’r rhan fwyaf o bobl yn fy ngweld i, a mi ‘dwi’n hoff o gael rheolaeth dros hynny. Vanity, yn sicr, ond pwy sydd ddim yn dioddef o’r clwy hwnnw?

Mi all fod yn anodd weithiau. Fel y dywedais, tydw i ddim yn sgwennwr cynhyrchiol iawn, dim ond rhyw un neu ddwy gan y flwyddyn yn ddiweddar, ac mae hynny’n gallu bod yn straen wrth geisio rhyddhau pethau’n eitha cyson. Mae yna ddigon o rai dwi’n hoff ohonynt ar y funud i wneud albym. Mae hynny’n beth braf. Tydw i ddim yn meddwl ein bod ni, hyd yma, wedi gorfod rhoi can nad sydd yn haeddu ei lle ar un o’n albymau. Dwi’n falch o bob record ‘da ni wedi’i rhyddhau.

Sut record fydd y nesa?

Mi ‘dwi’n meddwl y bydd y nesa yn eitha gwahanol i’r recordiau blaenorol.

Roedd y ddwy ddiwethaf (Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn a Draw Dros y Mynydd) yn greaduriaid tebyg i’w gilydd rhywsut- mi gafodd  caneuon y ddwy albym eu hysgrifennu o gwmpas yr un cyfnod, a’u recordio yn yr un stiwdio gyda’r un cynhyrchydd (Dave Wrench ym Mryn Derwen, Bethesda). Mae’r ddwy honno’n perthyn yn agos i’w gilydd. Ond ar gyfer y nesa dwi’n meddwl y bydd rhaid newid o’r drefn honno- er mwyn cadw pethau’n ddifyr, i ni fel band ac hefyd i’n gwrandawyr.

Cowbois

Cowbois

Dwi’n rhyw feddwl hefyd fod y caneuon newydd yn galw am fwy o amser ar gyfer trefniannau na’r recordiau cynt, mwy o amser nac y gallwn ni fforddio mewn stiwdio broffiesynol, felly dwi’n tybio bydd rhannau helaeth ohoni yn cael ei recordio yn ein stiwdio fechan ni.

Mae safon offer recordio “amatur” wedi codi yn aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae modd cael canlyniadau rhyfeddol gyda offer modern eitha rhad y dyddiau yma. Ac er bod rhaid aberthu ychydig, dwi’n gobeithio y bydd y diffyg cyfyngiadau amser yn fantais i ni.

Tydw i ddim am fynd ati i ddisgrifio’r deunydd newydd, mae ‘na syniadau pendant gennym ond mae ‘na gymaint o bethau yn newid yn y broses o ysgrifennu a recordio fel ei bod hi’n anodd dyfalu sut y bydd rhywbeth yn swnio mor bell a hyn o flaen llaw. Gyda lwc mi fydda ni’n mwynhau ei recordio hi.

Unrhyw beth yn peri pryder i ti am y sin gerddoriaeth yng Nghymru ar hyn o bryd? 

Heb fynd i son am ambell i broblem strwythurol a gweinyddol does gen i ddim llawer o le i gwyno. Mae ‘na lawer o bobl yng Nghymru sydd yn creu cerddoriaeth sydd werth ei glywed, sawl band dwi’n hoff ohonynt ac mae’r cyfryngau a threfnwyr yma yn Nghyrmu yn gefnogol iawn.

Mae modd i fand newydd Cymraeg gael eu chwarae ar y radio cenedlaethol a pherformio o flaen cynulleidfeydd mewn amser byr iawn yma yng Nghymru.

Mi ydw i wedi sylwi ers dechrau perfformio y tu hwnt i ffiniau Cymru ei bod yn haws i fand gael tal call am eu gwaith yma – does yna fawr ddim o’r diwylliant o orfod dibrisio gwaith called trwy chwarae yn ddi dal am rhyw “fraint ac anrhydedd” annelwig, rhywbeth sydd yn gyffredin yng ngweddill y DU. Mi synnwn i weld unrhyw le arall yn Ewrop lle mae cyn gymaint o gefnogaeth i fandiau yn eu dyddiau cynnar.

O ran y problemau arall sy’n cael eu crybwyll yn aml – dim digon o gigs, dim digon o fandiau, dim cynulleidfeydd – does yna ddim byd y gallwn ni wneud am hynny.

Does dim modd gorfodi pobl i ffurfio bandiau, dim modd eu gorfodi i drefnu gigs, nac ychwaith modd i’w gorfodi i fynychu. Mi welais Sen Segur wedi dweud yn ddiweddar ar wefan brythonicana mai diffyg bandiau “tanddaearol” yw’r broblem yng Nghymru. Gan anwybyddu’r ffaith eu bod yn dweud, wrth ddilyn y ddadl honno’n rhesymegol, y dylid cael mwy o gerddoriaeth a llai o bobl i wrando, mae’r ddadl “dwisho mwy o be dwi’n licio” yma yn un od iawn. Does dim y gall rhywun wneud am hynny ond disgwyl yn obeithiol i fand o’r fath ymddangos.

Yn yr un modd mi dwi’n clywed llawer yn cwyno fod pobl ifanc Cymru yn parhau i fod yn hoff o fandiau “hen ffasiwn” fel Dafydd Iwan a Bryn Fon. Beth ddiawl ydi’r otsh? Os ydi Dafydd Iwan, Bryn Fon a’r gynulleidfa’n mwynhau, pa le sydd gan unrhyw un i warafun hynny iddynt? Mae dadleuon o’r fath yn anwybyddu chwaeth pawb arall, a thrwy hynny’n dryllio’r ddadl.

Gall agweddau rhai sydd yn ymwneud a’r sîn beri pryder i mi hefyd. Mae yna rhyw bwyslais annaturiol ar y dyletswydd i gefnogi y sîn Gymraeg am ei bod hi’n Gymraeg, yr honiad mai’r Gymraeg ydi hanfod y gerddoriaeth yn hytrach na’r caneuon. Dim ond cyfrwng ydi’r iaith- tydi hi ddim yn gosod dyletswydd ar bobl i gefnogi.

Mi faswn i’n bersonol yn hoff o weld mwy o integreiddiad rhwng bandiau Cymraeg a di-Gymraeg yng Nghymru, rhywbeth sydd yn brin iawn o’m profiad i. Y mae wastad yn braf gweld trefnwr gig yn seilio noson ar sut y mae bandiau’n gweithio a’u gilydd yn hytrach na’r iaith y maent yn ddefnyddio. Gwaetha’r modd, y mae hynny yn beth prin iawn, mae pobl yn hoff o osod ffiniau lle nad oes eu hangen.

Beth yw dy farn am y ‘language barrier?’ 

Y mae’n bodoli, wrth gwrs, ond ddim i’r ffasiwn raddau y mae pobl yn gredu. Y mae’n bodoli yn syml am y rheswm nad yw pobl yn deall pob iaith, ond tydi o ddim mwy na dim llai na hynny. Tydi’r rhan fwyaf o bobl, o’m profiad i p’run bynnag, ddim yn wrthun i wrando ar gerddoriaeth mewn iaith ddieithr.

Mae’r ffaith fod cerddoriaeth “byd” yn boblogaidd, yn farchnad enfawr, yn tystio i hynny. Tyda ni ddim yn newid ein set wrth groesi clawdd offa,  mi ‘da wedi canu’n caneuon Cymraeg o flaen cynulleidfa gwbl ddi-gymraeg sawl tro, wnaeth na neb ddechrau riot.

Gellir dadlau ei bod hi’n synhwyrol i gyflwyno’r caneuon yn y modd y bydd y rhan fwyaf o’r gynulleidfa yn ddeall, wrth gwrs, ond mae’n bwysig sylweddoli nad ydy hynny yn rhywbeth hanfodol. Dewis personol i’r band ydi hynny, a ni ddylid barnu unrhyw un am wneud.

Does dim byd yn bod ar fandiau Cymraeg yn defnyddio’r Saesneg wrth ysgrifennu, er fod rhyw stigma yn parhau i fodoli, dim ond cyfrwng ydi’r iaith. Mae sgwennu’n Gymraeg a sgwennu’n Saesneg yn ddau ddull gwahanol o wneud yr un peth, fel dau offeryn gwahanol. Mi da ni’n byw bywydau dwy-ieithog, mae’n naturiol i ni ddefnyddio’r ddwy iaith ym mhob agwedd o fywyd.

Mi dwi wedi sgwennu ambell gan Saesneg, am y rheswm syml nad oeddwn wedi gwneud o’r blaen. ‘Dwi, yn bersonnol, yn ffafrio’r Gymraeg, yn yr un modd fy mod yn ffafrio un offeryn dros un arall, ond dim ond am fy mod yn fwy profiadol gyda un na’r llall.

Petai ti’n cael un dymuniad (am unrhyw beth yn y byd) beth fyddai’r dymuniad hwnnw?

Mi fyddai’n pendroni hynny’n aml, a wedi dod i’r casgliad sawl tro mai’r dymuniadau bychan, gwrthrychol, yw’r rhai saffaf i’w dewis. Tydwi ddim a’m bryd ar newid natur y byd, nid fy lle i yw sbwylio’r gêm honno. Felly mi gynigiaf ddymuniad hunanol a gwrthychol- dymunaf am locsyn da.

Pa offerynnau wyt ti’n chwarae? Oes gen ti ffefryn? 

Sawl offeryn, dim un ohonynt i safon uchel iawn. Tydw i ddim yn ofnadwy o gerddorol a dweud y gwir, does gen i ddim clust dda na rhythm da iawn ychwaith. Trwy ddiddordeb a gwaith caled y des i at gerddoriaeth yn hytrach nac unrhyw allu cynhenid. Ar biano neu gitar byddai’n cyfansoddi, rheini di’r ffefrynnau am wn i, offerynnau i gyfeilio. Ond mi dwi’n potsian hefo’r organ, yr organ geg, ac, yn llai llwyddianus o lawer, y sacsoffôn, mandolin, banjo a drymiau….

Taswni’n cael dewis offeryn arall i ganu’n rhugl, mi faswni’n dewis y ffidil. Mae gen i un rad, ond does gen i ddim o’r glust.

Pa gerddorion/ bandiau sy’n dy ysbrydoli yng Nghymru ar hyn o bryd? 

Sawl band, mi ‘dwi wrth fy modd hefo deunydd Yr Ods, mae’n braf cael sgwennwyr pop da yng Nghymru, heb son am rai sydd hefyd yn gwybod sut i adnabod testun da ar gyfer cân o’r fath. Mae “Cofio Chdi o’r Ysgol” ymysg y caneuon gorau i’w rhyddhau yng Nghymru yn y degawdau diwethaf.

Fel arall, dwi’n hoff iawn o Trwbador, Jen Jeniro (roedd yn gnoc i mi glywed eu bod wedi chwalu y llynedd), 9bach, Lleuwen…  Mae Bob Delyn a’r Ebillion yn parhau i fynd hefyd, y dylanwad pennaf ar fy ysgrifennu i o bosibl, a mae ‘na ambell i gân newydd wych yn ymddangos yn eu setiau byw y dyddiau yma.

Mi fyddai’n tueddu i wrando mwy ar gerddoriaeth Saesneg, am y rheswm fod mwy ohono i’w gael ac o ganlyniad fod mwy o sdwff da i’w gael, ond o gysidro pa mor fychan yw’r sîn Gymraeg y mae safon cerddoriaeth yn uchel iawn y dyddiau yma.

Cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol?  

Mi da ni’n brysur yn perfformio trwy’r flwyddyn, Cymru’n bennaf gyda ambell un yn ngweddill y DU bob hyn a hyn, a mi ‘da ni’n brysur hefo Georgia Ruth wrth iddi deithio i gefnogi ei albym gyntaf Week Of Pines hefyd. Gyda hynny, ynghyd â’r cyfansoddi, mi da ni’n cadw’n ddigon prysur.

Iwan Huws – @LlanwMawrHallt

Aled Hall

Aled Hall

Aled Hall

‘Capel’

Dechreuodd fy niddordeb mewn cerddoriaeth yn gynnar iawn yn fy mywyd a gweud y gwir, ar yr aelwyd gartref. Roedd mam, dad a fy nhadcu yn gantorion da ac wrth reswm roedd caerddoriaeth i’w glywed trwy’r amser naill ai ar y radio neu’r teledu ac yn y capel wrth gwrs.

Yn y capel ges i berfformio ar lwyfan am y tro cyntaf. Ma ‘na recordiad da’n fam ohonai yn canu yn eisteddfod y capel pan o’ ni ond yn bedwar oed, felly mae fy  nyled i’r capel yn fawr iawn yn hynny o beth. Ymlaen wedyn i gystadlu yn yr Urdd a’r Genedlaethol.

Fues i’n ffodus iawn hefyd o gael athrawes arbennig yn yr ysgol uwchradd yn ysgol Ramadeg Llandysul sef Mrs.June Lloyd Jones, rhywun wnaeth meithrin fi’n arbennig drwy fy addysg gerddorol, mae fy nyled yn enfawr iddi.

O fan hyny wedyn, ‘mlaen i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cerdd ac yna i Lundain a’r Academi Frenhinol i astudio Opera cyn troi’n broffesiynol rhyw 16 mlynedd yn ol.

Tri Tenor Cymru

Fi wedi bod mor ffodus gyda’n ngwaith ac wedi cael cyfle i drafaelio’r byd ac ymweld â glewdydd megis Ffrainc, Almaen, Awstria, Bermuda, America a Japan. Ond, rhaid gweud bod hi wastad yn neis dod adre i Gymru fach.

Ers rhyw dair mlynedd nawr, dw i wedi bod yn aelod o Tri Tenor Cymru sy’ wedi bod yn lot lot lot o hwyl a sbri. Ni wedi bod yn brysur tu hwnt dros y dair mlynedd ddiwethaf gyda’r albwm cyntaf (sydd wedi gwerthu’n arbennig o dda!) cyngherddau a nifer o ymddangosiadau teledu, y diweddara ‘Noson yng nghwmni’.

Fe wnaetho ni gael shwt gymaint o hwyl yn recordio’r rhaglen, credwch chi fi! Gwaith caled cofiwch achos roedd lot o ganu i’w recordio mewn un  dydd. Ond ‘well worth it’ a S4C yn bles iawn â’r ffigurau gwylio – felly gobeithio newch chi’n gweld ni ar y sgrin yn fuan eto! Croesi popeth  achos dwi’m yn meddwl bod digon o’r math yna o beth ar teledu dyddie yma. Mae pobol wrth eu bodd da’r math yna o raglen – bach o ‘light ent.’ Canu da a lot o sbort a sbri – rhywbeth sy’n bwysig iawn i fi.

Tri Tenor Cymru – Ail albwm

O ran gweddill y flwyddyn, mae’n edrych yn gyffrous iawn rhwng popeth.

Ni’n brysur iawn ar hyn o bryd, Tri Tenor yn recordio’n hail albwm gyda cwmni Sain gyda’r gobaith o gael e allan erbyn y Nadolig. Hefyd, ma’ na lot o gynherddau ar y gweill – yn eu plith ymweliad â Chanada ddiwedd Awst ac agor y North American Welsh Festival yn Toronto yn ogystal â nifer o gynherddau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

Yn unigol wedyn, mi fydda i’n mynd allan i weithio gyda chwmni Opera Wexford diwedd y flwyddyn a wedyn bant i Lundain i recordio cryno ddisg Opera gyda OperaRara felly blwyddyn brysur rhwng popeth.

Ryan Davies

Bydd pobol wastad yn gofyn i fi pwy sy’ wedi dylanwadu arnai ac mae’n rhwydd iawn ateb a gweud y gwir. Heb os – adeg fy mhlentyndod cynnar, Ryan Davies. Fi’n cofio ei wylio fe ar y teledu a rhyfeddu at ei ddawn i wneud popeth,canu cyfansoddi,whare telyn a piano ac wrth gwrs y ddawn gomedi anhygoel oedd ganddo.

Nes ymlaen wedyn, pobol fel Pavarotti, Alfredo Kraus, Nicolai Gedda a Syr Geraint Evans i enwi dim ond rhai.

Aled Hall

Aled Hall

@AledHall

Dw i newydd ddarganfod trydar a dwi wrth fy modd gyda fe rhaid i fi ddweud.

Ma fe’n handi iawn i gadw bobol ‘yn y loop’ ynglyn â beth sy’ mlaen ‘da fi fel canwr. Mae’n gyfrwng da iawn i hysbysu pobl am ddigwyddiade pwysig ac mae’n hyfryd cael ymateb pobol arno ar ôl rhaglen deledu neu gyfweliad radio.

Ond, fi’n hoffi ei ddefnyddio hefyd i weud ambell i joke fach neu rhyw ddywediad bach i ddod a gwen i’r wyneb hefyd.

Mae’n bwysig iawn gwenu a pheidio cymryd bywyd yn rhy serious.

Olion Byw

Olion Byw 2 cropped

Diolch yn fawr i Olion Byw am y cyfweliad diweddaraf . Dan Lawrence sy’n ateb rhan cyntaf y darn ac mae  Lucy Rivers yn mynd ymlaen i ateb ail ran y cyfweliad.

Beth oedd sbardun creu Olion Byw? 

Dan Lawrence – Roedden ni’n dau ar daith efo band o’r enw ‘Os Sambistas’ yn chwarae cerddoriaeth gwerin Brasil.  Ar ôl gorffen gigs, bydden ni’n ffeindio’n hunain mewn pyb efo offerynnau yn dechrau jamio.  Wnaeth Lucy a fi ddarganfod ein bod ni’n gwybod dipyn o alawon traddodiadol Cymraeg ac yn bwysicach , roedd gan y ddau ohonom ddiddordeb dysgu mwy a datblygu’r diddordeb hwnnw yn rhywbeth mwy na jysd jamio.

Fedri di son mymryn am eich albwm  ‘Hen Bethau Newydd’ – oes na ystyr  i deitl yr albwm?  

Dan Lawrence – Ma trefniannau o gerddoriaeth yn datblygu trwy broses o ymarfer gartref a chware’n fyw- arbrofi efo gwahanol arddulliau, harmoniau, tempos ag ati.  Ond ry chi, fel perfformiwr, wastad tu fewn y gerddoriaeth.  Pan ych chi wedyn yn dod i recordio be chi di ymarfer allwch chi eistedd tu allan i’r perfformiad fel gwrandawr a dadansoddi be chi newydd greu.  Dwi’n meddwl bod e’n ran pwysig iawn o ddatblygu’r cerddoriaeth chi’n creu.  Beth sy’n annodd weithiau yw dal ysbryd byw y perfformiad sydd yn dod gymaint yn haws mewn perfformiad byw.

OlionBywMae’r teitl yn addas o’r safbwynt bod ni’n chwarae hen alawon a chaneuon efo trefniannau newydd a hefyd alawon gwreiddiol newydd mewn hen arddull.  Mae’r enw Olion Byw yn dod o’r un syniad fod yr hen draddodiadau cerddorol yn goroesi a datblygu y gyson, dyna natur esblygiad.

Uchelgais gerddorol …

Dan Lawrence – Ry ni’n gweithio efo Trac ar y funud ar gynllun datblygu artistiad sydd yn rhoi hyfforddiant i ni ar ddatblygu proffil rhyngwladol i’r band.  Mae Womex (http://www.womex.com)  yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd eleni ac mae’n gyfle da i rwydweithio efo trefnwyr gwyliau a teithiau o bedwar ban y byd.

Bydden ni yn falch iawn o’r cyfle i fynd a cherddoriaeth draddodiadol Cymru allan i’r byd mawr.  Ni’n gobeithio gwneud ychydig mwy o recordio ym mis Gorffenaf tuag at ryddhau albwm arall dros yr haf.

Dan Lawrence –Unrhyw gyngor i gerddorion ifanc sydd eisiau datblygu’n offerynwyr gwerin? 

Mynd allan a chwarae gymaint ag sy’n bosib, bysen i’n dweud.  Mae gymaint i ddysgu mewn sesiwn anffurfiol o gerddoriaeth, hyd yn oed os ych chi dim ond yn eistedd a gwrando. Nes i bigo lan rhan fwyaf o’r  alawon dwi’n gwbod o’r glust mewn sesiynnau.

Mae’r glerorfa hefyd yn gyfle ffantastig  i bobl o bob oedran.  Mae safle Sesiwn dros Gymru (http://sesiwn.com/) yn un da efo adnodd o alawon a setiau poblogaidd ac mae nhw hefyd yn trefnu dyddiau o weithdai offerynnol ar draws Cymru.

Mae na ddipyn yn mynd mlaen yng Nghaerdydd ar y funud rhwng sesiwn yn y Cayo a noson Cwpwrdd Nansi, a sesiynau rheolaidd ym Mhontypridd, Llantrisant a Llanilltyd Fawr.  O’n ni ym Mangor yn ddiweddar ac roedd sesiwn gret yn y ‘Boatyard’.

Dyw cystadlu heb fod yn rhan fawr o fy natblygiad i’n bersonnol heblaw am ganu mewn corau ysgol.  Dw i’n meddwl bod cystadlu ar lwyfan yn dda o ran rhoi hyder llwyfan i unigolyn – er  fe allwch chi ddatblygu’r ‘sgil’ yna mewn ffyrdd eraill fel chwarae mewn band.

Dy hoff le  …

Dan Lawrence – Gwylio’r machlud efo peint ar y prom yn Aberystwyth ble ges i fy magu.  Ar noson dda allwch chi weld y bae yn gyfan o ynys Enlli hyd at sir Benfro.  Pan dwi’n pryderu am fywyd bob dydd ma gwylio’r mor yn fy atgoffa fi bod y byd yn le eang a phroblemau unigol yn fychan mewn cymhariaeth.

Sut mae’r profiad  recordio cerddoriaeth o ddydd i ddydd yn ychwanegu at dy brofiad gyda Olion Byw? 

Dan Lawrence – Mae recordio sain yn rhoi’r addysg i mi o sut mae cyfuno elfennau cerddorol efo’u gilydd yn llwyddianus (neu weithiau ddim!) pryd i gadw pethau’n syml a phryd  i gymhlethu pethau.  Hefyd ffordd mae creu awyrgylch fwy naturiol i chwarae ynddi achos mae stiwdio recordio yn aml yn bell o fod yn hynny.

Cerddorion yr wyt ti’n edmygu yng Nghymru …

Dan Lawrence – Dwi’n hoffi syt ma Bob Evans a Gareth Wetacott yn trin alaw ac mae Patrick Rimes yn gerddor arbennig ar ei sawl offeryn.

Dwi’n edmygu pobl sy’n llwyddo anadlu ychydig o fywyd ac emosiwn mewn i’r gerddoriaeth ma nhw’n chwarae.  Dwi’n cytuno efo Lucy bod y band Alaw yn hynod o gyffroes.

Cerddoriaeth Somalia

Dan Lawrence – Dwi’n gwrando ar ddipyn o gerddoriaeth o wahanol wledydd fel rhan o’ ngwaith i fel cyfansoddwr i theatrau.  Yn ddiweddar dwi di bod yn ymchwilio cerddoriaeth Somalia sy’n cyfuno arddulliau Affrica ac Arabia.

Does gen i ddim ddim ffefryn ond dwi’n hoffi cerddoriaeth sipsiwn dwyrain Ewrop, e.e. Taraf de Haidouks, band o’r enw Ojos de Brujo sy’n cyfuno flamenco a hip hop, cerddoriaeth klezmer ac wrth gwrs mae cerddoriaeth Cuba a Brasil yn annodd i beidio hoffi.

Olion Byw 3 cropped

Yng ngeiriau Lucy …

Favourite place … 

Well one of my favourite places is the pembrokeshire coast around St.David’s (ideally in the sun). And staying at the Druidstone Hotel right on the cliff is always amazing.

How does your experience working in theatre help you with Olion Byw

Lucy – Theatre and music/songs are all about telling stories and taking an audience on an emotional journey or experience; whether that’s being moved to get up and dance or being moved by the sad melody and lyrics.  So I think my work in drama and theatre  has really informed how I play and sing and vice-versa.

I’m also very clear about making the distinction between performing as an actor and performing as a musician – there should be no acting when playing or singing music – the music should be expressive enough and in some ways it’s more vulnerable and personal when I’m not hiding behind another character.

Who do you admire on the Welsh music /why? 

I have always admired Dylan Fowler and Oliver Wilson-Dickson and they have a lovely new trio with the incredible accordionist Jamie Smith called Alaw.  I believe they are also big fans of the wonderful Scottish Trio Lau, and Lau’s energy and arrangements are a big inspiration to me.  I also love Cass Meurig’s interpretations of trad welsh songs and tunes.

Do you enjoy world music?

I listen to a lot of ‘World Music’, and used to play in a samba band ‘Os Sambistas’.  So Samba, choro, Baiao and music from the north east of Brazil is a favourite.  As is music from Mali like Rokia Traore, and I love Kora (African Harp) music.  I have also been listening to a lot of American Blues and country music recently – the list goes on and on.

Cam yn Nes at Gyfartaledd

Cyhoeddwyd yng nghylchgrawn BARN fis Mawrth, 2013

http://www.cylchgrawnbarn.com

Priodasau Cyfartal: Cam yn Nes at Gyfartaledd PDF Argraffu Ebost
Malan Vaughan Wilkinson sy’n croesawu’r bleidlais ddiweddar yn Nhy’r Cyffredin dros fesur i ganiatáu i bobl o’r un rhyw briodi.Bwystfileiddiwch, gweithredu’n ‘annaturiol’, priodi mwy nag un wraig, camdrin plant ac israddio sefydliad priodas. Dyma rai o’r cysyniadau a chymariaethau eithafol sydd wedi’u defnyddio gan wrthwynebwyr yng Nghymru i gyfiawnhau gwrthod y Mesur ar Briodasau i Gyplau o’r un Rhyw yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er gwaethaf y dadleuon deinosoraidd hyn, roedd y bleidlais gyntaf ar y mesur yn Nhy’r Cyffredin yn ddiweddar yn llwyddiant ysgubol o safbwynt cyplau hoyw.Roedd canlyniad pleidlais yr Aelodau Seneddol ddechrau fis Chwefror yn gam hanesyddol pwysig tuag at sicrhau cyfartaledd i gyplau hoyw. Roedd y fuddugoliaeth yn un gyfforddus gyda’r mwyafrif yn pleidleisio o blaid y mesur (400 i 175). Fodd bynnag, mae disgwyl i’r craffu ar y mesur fod yn fanwl a thaer ac nid ar chwarae bach y caiff sêl bendith Ty’r Arglwyddi fis Mai.

Os daw’r mesur yn ddeddf, bydd yn caniatáu i gyplau o’r un rhyw briodi mewn seremonïau sifil a rhai crefyddol, gyda chaniatâd sefydliadau crefyddol. Bydd hefyd yn caniatáu i gyplau sydd eisoes wedi uno drwy bartneriaeth sifil briodi.

Yn dilyn y bleidlais yn Nhy’r Cyffredin, disgrifiodd y gwleidydd Tim Loughton amseru’r bleidlais fel ‘rhwystr anghyfleus’. Roedd o’r farn fod pethau pwysicach i’w cyflawni’n wleidyddol na mesur fel hwn. Siom oedd clywed y fath safbwynt. Efallai wir mai ‘rhwystr anghyfleus’ yw mesur o’r fath i wleidyddion fel Loughton, ond i gyplau hoyw ar hyd a lled y wlad byddai deddf o’r fath yn caniatáu iddyn nhw fyw eu bywydau gan fwynhau yr un hawliau â chyplau heterorywiol.

Trueni hefyd oedd deall bod yr wyth aelod Ceidwadol o Gymru wedi pleidleisio yn erbyn y mesur – prawf pellach fod y bleidlais wedi creu rhwyg ddofn a chwerw ym mhlaid Cameron. Mae rhywbeth gwrthun ynglyn â gwleidyddion sydd wedi priodi eu hunain yn gwadu’r hawl i gyplau eraill briodi a hynny ar sail eu rhywioldeb. Mae’r fath safonau dwbl yn amlygu diffyg cyfartaledd a statws israddol cyplau hoyw yn ein cymdeithas heddiw.

Yn sgil y trafodaethau diweddar, mae llawer un wedi disgrifio’r ddeddf arfaethedig fel mesur ‘dadleuol’. Wn i ddim beth sy’n ddadleuol mewn ceisio cyfartaledd. Nid pleidlais am freintiau arbennig yw’r bleidlais hon, ond pleidlais am gyfartaledd. Mesur yw hwn i sicrhau bod cyplau o’r un rhyw yn cael priodi gerbron Duw os ydyn nhw’n mynnu, fel y mae cyplau heterorywiol eisoes yn ei wneud heb feddwl ddwywaith.

Mae’r bleidlais yn Nhy’r Cyffredin wedi profi un peth – bod mwyafrif gwleidyddion yr oes oleuedig hon yn barod i symud ymlaen, i ddathlu amrywiaeth, i gynnig cyfleoedd cyfartal ac i beidio gwahaniaethu ar sail rhywioldeb. Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu ar sail hil – pam felly y mae rhai’n teimlo bod parhau i wahaniaethu ar sail rhywioldeb yn dderbyniol? Mae’n hen bryd i ni ffarwelio â’n deinosoriaid a’u gadael yn nhywyllwch eu hogofâu cyntefig i ymdrybaeddu yn eu theorïau homoffobaidd.