Fflur Dafydd

FFLYR DAFYDD

Fflur Dafydd

You Found Me Out – Beth oedd sbardun rhyddhau’r caneuon yn Saesneg?

Daeth y sbardun i ryddhau’r caneuon eto yn Saesneg yn sgil cael ymateb mor ffafriol a chynnes wedi perfformio’n ddwyieithog ar Radio Wales. Am y tro cyntaf, nes i ystyried efallai fod yna gynulleidfa i fy nghaneuon yn Saesneg. Mae’r EP yn rhyw ffenest fach i mewn i’r albym i’r di-Gymraeg.

Wrth gyfieithu ac addasu, buan iawn wyt ti’n sylweddoli bod yr iaith Gymraeg yn rhagori o ran ei rhythmau – doedd ‘Rhoces’ ddim yn hawdd i’w chyfieithu am nad oes ‘na air Saesneg cyfatebol, ac roedd rhaid ffeindio ymadroddion, geiriau, ac odlau newydd i greu’r un ystyron ac emosiynau, a oedd yn dipyn o sialens. Ond wedyn roedd ambell i gân yn llifo’n rhwydd yn Saesneg – dwi’n meddwl am gân fel ‘Lammas St.’ (addasiad o’r Ferch sy’n licio’r gaeaf) ac efallai am mai stori garu yw hi bod modd iddi gyfathrebu’n rhwydd mewn dwy iaith. Ac mae’r gân sy’n deyrnged i Ray Gravell – bron roedd hi’n bwysig bod hon yn bodoli yn Saesneg am bod Ray yn ffigwr mor bwysig ac yn rhywun a oedd yn llwyddo i uno’r Cymry, pa bynnag iaith oedden nhw’n siarad.

Dwi wedi dewis unwaith eto y caneuon sy’n deyrngedau i bobl – i fy merch, (Beca), Ray Gravell, fy ngŵr, (Iwan – sydd yn y band hefyd) a fy mrawd bach (Meilyr Ceredig).

Mae’r profiad o ddod yn fam wedi newid pob dim yn fy mywyd, wedi fy ngwneud yn fwy dwl, yn gryfach, yn fwy goddefgar. On i eisiau rhoi’r teimladau hynny ar gân ar gyfer y dyfodol, a dyfodol fy merched. On i’n feichiog iawn yn ystod recordio’r EP yma ac mae hynny i’w glywed yn fy llais – mae fy llais wastad wedi newid pan dwi’n feichiog. Er nad oes ‘na deyrnged uniongyrchol i fy ail ferch (Luned) dwi’n licio meddwl ei bod hi’n rhan o’r EP gan ei bod hi yno’n cicio trwy gydol y broses!  A nawr dwi’n clywed y gytgan yn wahanol – nid ‘Fy rhoces i’ ond ‘Fy rhocesi…’

Rwyt ti wedi son fod artistiaid fel John Martyn, James Taylor a Nanci Griffith wedi dylanwadu arnat. Fedri di son mwy am hyn/beth sy’n arbennig amdanyn nhw? 

Dyma’r artistiaid sy’n cyffwrdd yn fy enaid i – nid o reidrwydd yn gwneud i mi ddawnsio na ffrwydro’n llawn egni – ond y cyfansoddwyr sydd wedi darganfod rhywbeth real ac amrwd a phwerus a wedi llwyddo ei rannu ag eraill, a dwi’n ddigon ffodus i fod wedi gweld y tri ohonyn nhw yn fyw – gwefr hynod iawn oedd pob un profiad. Ges i fy magu ar Nanci Griffith i weud y gwir – roedd y casetiau yma wastad yn y car gyda ni fel teulu – felly mae dylanwad canu gwlad yn mynd nôl yn bell. Un o’m gitaryddion (Elwyn Williams – sydd hefyd yn chwarae gyda Steve Eaves) wnaeth gyflwyno John Martyn i mi – a wna i byth anghofio’r wefr o glywed ei lais am y tro cyntaf, a teimlo’r angerdd a’r tywyllwch a’r boen sydd yn y tiwnings gitar amrywiol mae e’n eu defnyddio. Mae James Taylor yn storiwr hynod a’i lais fel mêl ac mae e’n gwella gydag oedran yn sicr.

Lawnsio “You Found Me Out” yng Ngwyl y Gelli …

Dwi wedi cael cyfleoedd anhygoel gan yr ŵyl hon. Wnaeth y cyfan ddechrau nôl yn 2005 pan ges i fy newis i fod yn rhan o gynllun rhyngwladol ar gyfer awduron newydd – y Scritture Giovani – a chael fy nanfon i 4 gŵyl rhyngwladol i ddarllen fy ngwaith, gan ddechrau yn y Gelli. Do’n i ddim wedi sgwennu llawer bryd hynny, ond wrth gwrdd ag awduron gwahanol a chael fy ysbrydoli ganddyn nhw– fe wnes i ddod nôl i GYmru yn sylweddoli mai sgwennu on i am wneud, a dwi wedi sgwennu fel ffwl ers hynny. Wedyn ges i wahoddiad da Owen Sheers i berfformio yn y Gelli ar y cyd gydag e – sioe arall aeth wedyn ar daith yng Nghymru ac i’r Iseldiroedd. Dwi wedi bod digon ffodus i allu gwneud rhywbeth yno bron bob blwyddyn ers hynny – ac eleni dwi’n mynd i fod yn Gymrawd Rhyngwladol i’r Gelli ac yn mynd i ymweld â gwyliau’r Gelli yn Sbaen, Mexico, India, Colombia a Budapest.

Er bod nifer o Gymry yn dueddol o ystyried y Gelli fel gŵyl Seisnig efallai – dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysicach i ni ei gweld hi fel gŵyl rhyngwladol sy’n digwydd bod yng Nghymru – a’n bod ni yn gallu elwa ohoni a bod yn rhan o leisiau’r byd. Dwi’n sicr yn cael gwefr fawr o fod yno ac o berfformio yno – ac o ennill darllenwyr a gwrandawyr newydd. Roedd perfformio i ryw 500 o bobl wrth gefnogi Cerys yn anhygoel.

‘All I see’

Mae’r gân olaf oddi ar yr EP – ‘All I see’ yn mynd nôl blynyddoedd maith – i 2004, pan nes i gyfarfod a chyfansoddwr o Iwerddon, Anthony Mulcahy. Roedd Rhys (Barf) bant ar weithdy cyfansoddi i Iwerddon gyda Mattoidz, ac fe dynnodd rhywun mas, felly fe gynigiodd y lle i mi. Newidiodd y daith hon pob dim i mi.

Prin on i’n gallu chwarae gitâr, ond fe’m taflwyd mewn i sefyllfa lle bu’n rhaid i mi gydweithio gyda’r cyfansoddwr ma do’n i erioed wedi cwrdd ag e – ac fe ddigwyddodd bethau rhyfeddol. Sgwennodd Anthony a fi 5 cân mewn 2 ddiwrnod, a dod yn ffrindiau agos iawn. Wnaeth y berthynas barhau a sgwennon ni sawl cân gyda’n gilydd wedi hynny, a dwi wedi ymweld ag e yn Efrog Newydd ers hynny i sgwennu ambell gân – gan mai dyna lle mae’n byw ac yn perfformio nawr. Ond hon oddi ar yr EP – “All I See” – yw’r orau, ac fe gafodd hi ei sgwennu mewn 5 munud fflat mewn stafell westy yn Waterford gyda hangovers difrifol!

Fedri di son mymryn am ba gerddorion sy’n dy gyffroi di yng Nghymru ar hyn o bryd a pham? 

Yr un band sy’n fy nghyffroi bob tro dwi’n clywed nhw ar y radio ydy HUD – ma’r riffs mor anfarwol a dwi’n dwlu ar eu steil nhw.

Dwi wedi clywed Kizzy Crawford hefyd ac mae hi i weld yn hynod unigryw a ffres, a chanddi lais cyfareddol. Dwi’n ffan mawr iawn o Gildas ac yn dwlu ar unrhywbeth mae Arwel yn neud. On i’n ffodus iawn iddo gytuno i ganu gyda fi ar yr albym ddiwethaf. Mae ansawdd ei lais yn wefreiddiol – mae e’n taflu ei hun gorff ac enaid mewn i bob can.

Fflur Dafydd

Fflur Dafydd

Unrhyw beth yn peri pryder i ti am y sin gerdd yng Nghymru? 

Mae’r sin fenywaidd yn gryf ac yn ddiddorol – Lleuwen, Gwyneth Glyn,  Lowri Evans, Einir Dafydd, Georgia Ruth ‘mond i enwi rhai – a dwi’n browd i fod yn rhan o’r chwaeroliaeth hynod yma, ond weithiau dwi’n meddwl bod prinder bandiau merched. Ddechreuon ni Y Panics (fi, Nia Medi a Betsan Haf Evans) achos ein bod yn gweld bwlch yno – ac i raddau mae e’n dal yno.

Bydde’n dda gweld mwy o ferched yn chwarae’r bas a chwarae’r dryms a rhedeg y sioe i gyd eu hunain (yn hynny o beth wnaethon ni fethu gyda Johnny Panic achos oedd rhaid cael dynion aton ni i gwblhau’r band, ond hei – o leiaf ‘nes i ffeindio gŵr wedyn…) Mae pobl fel Betsan Haf Evans (drymiwr Y Panics) a Heledd Watkins (basydd/cantores Bare Left/HMS Morris) yn arwain y ffordd beth bynnag.

Dy hoff le yn y byd …

Yr UN lle gwefreiddiol i mi o hyd yw Ynys Enlli. Wna i byth anghofio y cyfnod dreuliais i yno. Dwi’n cofio cerdded ar y llwybr fyny at y goleudy (lle ro’n i’n byw am gyfnod yn y bwthyn yn ystod Haf 2002) – a dyheu i amser sefyll yn ei unfan er mwyn i mi gael dal fy ngafael ar yr eiliad honno am byth. Dwi ddim yn credu ‘mod i erioed wedi teimlo mor gryf am un lle yn fy mywyd. Heidiwch yno Gymry! Mae’n rhan hynod o’n hetifeddiaeth. Sgwennais i fy nghan gyntaf ar y gitar yno – Ar Ol Heddi.

Advertisements

One thought on “Fflur Dafydd

  1. Pingback: Datganiadau difyr – O ‘ferched y SRG’ i’n ‘traddodiad gwerin ac eisteddfodau bach’ | Y Llwyfan

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s