Sgwrs gyda Georgia Ruth, C2 BBC Radio Cymru

Sgwrs hyfryd gyda Georgia Ruth am gerddoriaeth glasurol, blogio a chreu cerddoriaeth

Gwefan BBC Radio Cymru, C2 - Georgia Ruth

Gwefan BBC Radio Cymru, C2 – Georgia Ruth (Gwrando eto)

Wnes i fwynhau sgwrsio gyda Georgia Ruth yn ddiweddar (28.03.2013 – linc isod) am y blog hwn, fy nghyfweliadau diweddaraf, cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth yng Nghymru.

Hyfryd hefyd oedd deall ganddi ein bod wedi rhannu llwyfan yn ferched ifanc yng Ngwyl Ryngwladol Llangollen, dros 10 mlynedd yn ôl – Georgia ar y delyn a finna ar y piano (cystadleuaeth offerynol) Rhyfedd sut mae llwybrau unigolion yn croesi. Wyddwn i ddim ar y pryd i ba gyfeiriad y byddai bywyd yn fy arwain. Pwy feddylia y byddwn yn cael cyfle i siarad am gerddoriaeth gyda Georgia dros 10 mlynedd yn ddiweddarach ar C2! Roedd arddull cyfweld Georgia yn hyfryd, sgyrsiol a phersonol. Mi gododd bwyntiau difyr iawn gan lywio a datblygu sgwrs unigryw am gerddoriaeth, blogio a chreu cerddoriaeth.

Ges i hefyd gyfle  i ddewis traciau gan gerddorion a chyfansoddwyr sy’n fy ysbrydoli (dewisiadau isod). ‘Dw i’n egluro pam ddewisais i’r darnau hyn yn ystod y sgwrs.

Breuddwydio, Lleuwen 

Gweld Sêr, Siân James 

Prelude in G minor, Op. 23, No. 5 – Sergei Rachmaninoff

Dyma linc i’r rhaglen – gyda diolch i Georgia Ruth a chriw C2 -BBC Radio Cymru (Sgwrs yn cychwyn tua awr i mewn 1:10:00)

http://www.bbc.co.uk/programmes/b01rgjqs

 

Advertisements

Lucy Meadows a’i brwydr yn erbyn rhagfarn a gwahaniaethu (Munud i Feddwl) Radio Cymru

Slot Munud i Feddwl, Post Cyntaf, BBC Radio Cymru – 29 Mawrth, 2013 

Son am frwydr  Lucy Meadows yn erbyn rhagfarn a gwahaniaethu oeddwn i yn slot Munud i Feddwl, Post Cyntaf, BBC Radio Cymru fore heddiw.

Ystyried oeddwn i sut i symud ymlaen yn dilyn y drasiedi (linc i’r eitem isod)

http://www.bbc.co.uk/radio/player/b01rbmtx (Tua 48.30 i mewn)

 

Siân James

Siân James

Siân James

Pryd ddechreuais di ganu, chwarae’r delyn a chyfansoddi? Beth oedd yr apêl? 

Yn ôl yr hanes roeddwn i’n hoff o ganu o oedran ifanc iawn a chefais fy ‘ngosod’ ar lwyfan eisteddfod leol gan fy mam yn dair oed! Yn ôl yr hanes mi fues i’n mwydro fy mam am wersi piano yn bump oed – hen biano honci-tonc a chanhwyllau brass arni! O’r diwedd mi drefnodd mam i mi gael gwersi efo Mrs Price – gwraig hyfryd o’r Foel yn Nyffryn Banw a fu’n dysgu cenedlaethau o blant yr ardal. Roedd yr awydd i greu miwsig yn ddwfn ynof i, ac unwaith i mi ddeall y cysyniad o gyfansoddi doedd na’m stop arnai wedyn a dweud y gwir!! Mae gen i hen faniwscript wedi melynu gyda dechreuad alaw fach i’r piano o’r enw Llyn y Grinwydden – alaw fach melancolig braidd i blentyn mor ifanc!! Ddechreuais mo’r delyn tan o’n i’n unarddeg – dwi’n amau mai mam oedd isio i mi ganu’r delyn – ac ar ôl cryn dipyn o safio pres mi brynodd fy rhieni delyn bedal i mi.’Angelica’ oedd enw’r delyn honno gan y gwneuthurwyr Salvi ac mi syrthies i mewn cariad dros fy mhen a nghlustie!!

Dylanwadau…

Y cyfansoddwr cyntaf dwi’n cofio cael fy nylanwadu  ganddo oedd Rachmaninoff. Roedd L.P. o rai o’i Preliwdiau a’r Consierto i biano yn C sharp minor yng nghasgliad fy rhieni ac es i’n reit ‘obsessed’ efo’r harmonis lysh sydd mor nodweddiadol o’i waith. Ar ôl darganfod y blŵs mi fues i’n gwrando lot fawr ar ganu Nina Simone. Mi gefais fy hudo gan y ffordd y byddai’n mynegi cân mewn ffordd mor amrwd ag onest, a’r ffordd dihafal roedd hi’n cyfeilio iddi hi’i hun ar y piano. Drwy wrando ar ei chanu hi mi ges i fy mhrofiad cyntaf o glywed canntores yn agor ei chalon go iawn yn ei chanu – nid jest actio’r emosiwn oedd hi ond ei deimlo fo i’r byw. Dyna ysbrydoliaeth!

Cyflwr canu gwerin yng Nghymru heddiw…

Mae gen i deimlad da iawn ynglyn â chyflwr canu gwerin yng Nghymru ar y funud – does dim dwywaith bod proffeil cerddoriaeth gwerin wedi codi’n aruthrol yn ystod y pum mlynedd diwethaf diolch i fudiadau megis Trac ac agwedd mwy positif o fewn Cyngor y Celfyddydau. Mae ‘na deimlad reit gyffrous yn yr awyr ar y funud yn enwedig ymysg yr ifanc a mae hynny yn rhoi lot fawr o obaith i mi!

Wrth gwrs mae canu gwerin wedi bod yno erioed – dyma wir gerddoriaeth ‘y bobol’ yn fy marn i, yn delio gyda phob agwedd o’n bywydau cymhleth: o enedigaeth i farwolaeth ynghyd â’r holl ddigwyddiadau yn y canol! Dyma un o’r rhesymau pam mae cerddoriaeth gwerin yn golygu cymaint i mi – does dim pyncie ‘off limits’ fel petai – dim swildod ynglyn â thrin a thrafod y pynciau mawr megis cariad, casineb, anffyddlondeb, ofn, obsesiynau, bywyd tu hwnt i’r bedd, a hynny i gyd yn aml gyda ddôs go hegar o hiwmor. Dwi’n teimlo’n gryf ein bod ni fel Cymry wedi teimlo braidd yn ddi-hyder ynglyn â’n traddodiad gwerin, yn sgil llwyddiant y diwydiant yn Iwerddon a’r Alban. Mae’n bryd i ni ysgwyd y rhagfarn hwnnw a sylweddoli bod cystal traddodiad gynnon ni yma yng Nghymru â gwledydd eraill, a lledu’r gair tu hwnt i Gymru! Mae’r potenshial i greu diwydiant iach yng Nghymru o fewn y genre yn bosib – rhaid marchnata’r cyfoeth yma dramor, a hynny er budd ein hunain!

SianJames4

Wnaeth athro neu athrawes greu argraff arbennig arnat ti? 

Un o’r dylanwadau mwyaf arnaf yn fy ieuenctid oedd fy athrawes telyn Ffranses Môn Jones. Hi anogodd fi i ganu i gyfeiliant y delyn – rhywbeth y bu hithau’n gwneud gydol ei gyrfa. Drwyddi hi hefyd y cefais fy mhrofiadau cyntaf o ganu mewn cyngherddau yn hytrach na chystadlu mewn eisteddfodau. Roeddwn i’n rhan o driawd telyn gyda Ffranses ac un o nghyfoedion yn yr ysgol sef Ieuan Jones sydd bellach yn diwtor ar y delyn yn y Royal Academy yn Llundain. Fuon ni’n cynnal cyngherddau hyd a lled Cymru a Lloegr am sawl blwyddyn ac roedd cael fy annog i gyflwyno fy nghaneuon o flaen cynulleidfa yn brofiad amhrisiadwy i lodes ifanc swil pedair ar ddeg! Dipyn o fedydd tân ond waw!.. am brofiad!

Ar yr ochor cyfansoddi does dim dwywaith bod yr Athro William Mathias wedi cael cryn argraff arnai yn y coleg ym Mangor lle fues i’n astudio. Cymeriad annwyl ac ysbrydoledig iawn!

Beth wnaeth dy ysbrydoli i greu CD Cymun?

Ffrwyth llafur cerddorol dros gyfnod o bum mlynedd yw Cymun: ambell brosiect bach diddorol ar gyfer radio a theledu ynghyd a threfniannau newydd o ganeuon gwerin a chaneuon gwreiddiol y bum i’n gweithio arnyn nhw ar gyfer cyngherddau. Gan fod y cyfnod ers yr albym ddwythaf (Y ferch o Bedlam) wedi bod mor hir, dwi’m teimlo bod y caneuon wedi cael amser i setlo rhywsut, felly o ran fy nheimlad i tuag at yr albym – dwi’n teimlo’n hapusach gyda hon na fues i efo unrhyw beth ers talwm iawn a dweud y gwir. Mae’r profiadau personol a gefais yn ystod y blynyddoedd ddwytha hefyd wedi cyfrannu at ddwysder yr albym; ond i mi, mae hynny’n beth iach, a bu’r broses o greu yn un iach a chathartig. Dwi’n teimlo ei bod hi’n gyfanwaith reit ‘healing’ i mi ac wedi atgyfnerthu rhywfaint ar fy hyder creadigol  …..ha!….tydi’r ‘creative types’ ‘ma yn hen bethe simsan dwch!! Dwi’n gobeithio hefyd bod yr agwedd honno yn medru bod o gymorth i eraill yn ogystal, gan mod i wedi bod yn gredwr mawr yn nerth cerddoriaeth i iachau ers blynyddoedd lawer.