‘Mi fyddai’n braf cael mwy o Jazz, Rag a Gwerin ar ein Cyfryngau Cenedlaethol’

Dylan Cernyw

Dylan Cernyw

Y telynor amrywddawn Dylan Cernyw sy’n son am yr hyn wnaeth ei ysbrydoli i ddechrau canu’r delyn. Mae’n talu teyrnged i’r diweddar Haf Morris ac yn sôn am hyn yr hoffai glywed mwy ohono ar ein sianeli radio a theledu Cenedlaethol. Tybed faint ohonom sy’n cysylltu’r delyn â cherddoriaeth Jazz, Rag a Gwerin?

Beth wnaeth dy ysbrydoli i ddysgu canu’r delyn? 

Pan oeddwn yn ifanc (yn yr ysgol gynradd) roeddwn i’n cael gwersi piano a chanu fel ambell i blentyn arall yn yr ysgol ac hefyd yn cael y profiad o ganu Cerdd Dant.  Roedden ni’n cael gosodiadau gan y diweddar Ida Taylor o Fochdre gyda mam yn ein hyfforddi fel plant. Dyna lle y dechreuais i glywed  y delyn a phenderfynu mai dyna’r offeryn yr oeddwn i eisiau dysgu ei ganu.

Dechreuais chwarae’r delyn pan oeddwn yn 10 oed yn Ysgol Maelgwyn yng Nghyffordd Llandudno gyda Mari Roberts, sydd yn chwaer i’r cyn Archdderwydd Gwyndaf Evans. Roedd Mari wedi rhoi benthyg ei thelyn i’r ysgol i bawb ddysgu arni gan nad oedd telyn yn yr ysgol. Pan gafodd yr ysgol delyn newydd drwy garedigrwydd R.Davy Jones a Chôr Maelgwyn o’r Gyffordd, dw i’n cofio rhedeg adref a gofyn i mam “Gawn ni fenthyg Telyn Mrs Roberts” a mam yn edrych yn wirion arnai fel “Iawn…. gawn ni weld pa mor hir fydd hyn yn parhau”.

Rwyt ti’n perfformio mewn cyngherddau mawreddog ar lefel cenedlaethol ac yn cyfrannu at ddiwylliant eisteddfodau bach a digwyddiadau lleol. Pa mor bwysig yw cynnal y diddordeb mewn eisteddfodau lleol? 

Rydw i’n  ffodus iawn o gael gyrfa lle  ‘dw i’n gallu perfformio ar lwyfannau mawr a bach y wlad yn ogystal â  thramor gyda rhai o fawrion y byd cerddorol.  Mae Eisteddfodau lleol yn bwysig iawn – roedd y profiad o gyfrannu at y diwylliant eisteddfodol yn arbennig iawn i mi – fe gododd fy hyder, cododd fy mhroffil fel telynor a datgeinydd ac roeddwn i hefyd yn medru rhoi’r profiad ges i yn ôl. Fel teulu, roedden ni’n mynd o amglych cartrefi’r henoed ac ysbytai yn diddanu – mae hyn wedi fy helpu i yn bendant.

Yr eisteddfod gyntaf i mi gyfeilio ynddi oedd yr Urdd yn Llanrwst pan oeddwn i tua 17 oed yn 1987.  Mae angen cefnogi ein eisteddfodau lleol.

Teyrnged i Haf Morris …

Roedd Haf yn un o’r bobl mwyaf caredig a gweithgar ym maes Cerdd Dant.  Roedd hi wastad yn barod iawn i helpu ein gosodwyr a’n cyfansoddwyr ifanc, unrhyw amser o’r dydd neu nos. Doedd hi ddim yn anarferol i Haf ffonio wedi 11 o’r gloch y nos am sgwrs neu i rannu syniad.

‘Dw i’n cofio eistedd mewn cyfarfod gyda Haf ar gyfer eisteddfod pan gafodd un alaw ei dewis a oedd ‘chydig yn “wahanol” gydag elfen “Jazz/Rag” iddi.  “Fydd hona yn iawn i’r  YTS Dylan (Youth Training Scheme) fel roedd hi’n ddwued gan fy mod yn ifanc yn dechrau chwarae yn y Genedlaethol. “Steil Dylan yn iawn,” meddai.

Stori arall yw pan oedd angen dewis darnau i’r Eisteddfod Genedlaethol.  Roedd Haf eisiau  y darn “Crogi Gwilym Brewys” ond doedd neb o’r pwyllgor yn meddwl fod y darn yn addas i’n corau cerdd dant. Galwad ffôn / llythyr yn ddiweddarach – roedd Haf wedi gofyn i’r cyfansoddwr,  Einion Dafydd osod y darn i Gôr Glanaethwy gyda Cefin wrth ei fodd wrth gwrs.  Cafwyd prynhawn bach diddorol yn y Babell Lên y flwyddyn honno gyda mawrion y maes yn gofyn “ai Cerdd Dant yw hwn neu beidio?” Roedd gwen falch ac hapus ar wyneb Haf, Cefin ac Einion y prynhawn hwnnw. Wrth gwrs, Haf oedd yn iawn! Mae’r darn wedi cael ei ganu ym mhob rhan or byd gan y Côr ers hynny gyda Cefin yn dweud y stori wrth bawb.  Roedd y gynulleidfa yn China wedi mwynhau y darn fel pob gwlad arall, roedd ymateb y gynulleidfa yn dweud y cyfan!

Uchafbwynt dy yrfa hyd yma? 

Mae hyn yn anodd i’w ateb gan fy mod wedi bod yn ffodus iawn i gael  teithio i gymaint o wahanol lefydd a pherfformio gyda rhai o’n enwogion mwyaf.  Roedd taith Canada gyda Chôr Caernarfon yn 2000 yn arbennig, Taith i’r Swistir gyda Chôr Glanaethwy (a cholli telyn ar y ffordd) yn “wahanol” a thaith i China yn 2010 yn brofiad a hanner.

Ond, ‘dw i’n credu mai Llwyfan Neuadd Albert Llundain yn 1987 oedd un o’r profiadau mwyaf cofiadwy. Cyngerdd 1000 o leisiau a rhannu llwyfan gyda’r corau i gyd, Rebecca Evans ac wedyn fi – hogyn o Gyffordd Llandudno, gyda fy rhieni a theulu yn y gynulleidfa  yn gwylio ac yn  gwrando ar bob nodyn. ‘Dw i dal i gofio cerdded at y llwyfan, eistedd tu ôl i’r delyn a gweld môr o wynebau o fy mlaen. Braf yw edrych ar hen luniau.

Oes gen ti gynlluniau cyffrous ar gyfer 2013? 

Mae’r dyddiadur yn prysur lenwi gyda chyngherddau, teithiau ac eisteddfodau.  Mae ‘na ambell i daith gyda Piantel ac fel unawdydd hefyd.

Fedri di ddweud chydig am Arpe Dolce (dy ddeuawd gyda Angharad Wyn Jones) a sôn am unrhyw brosiectau cyffrous sydd ar y gweill?

Fe sefydlwyd Arpe Dolce yn 2012.  Roedd Angharad Wyn Jones a finne yn ffodus o gael gwersi gan un o’r telynorion mwyaf profiadol ym maes Jazz yng Nghymru sef Robin James Jones o Ddolwyddelan.

Roedd Robin yn fy nysgu pan oedd adref ar wyliau o’i waith fel telynor mewn clwb nos yn New Orleans neu chwarae ar y QE2.

Mae Angharad a finne wedi perfformio mewn sawl cyngerdd, gyda mwy ymlaen eleni.  Un o’r pethau fuaswn i’n hoffi yn 2013 fyddai recordio CD  o waith a threfniadau Arpe Dolce, darnau Cymraeg gydag ychydig o jazz, latin a Rag ynddynt.

Jazz a Rag a Gwerin

Wrth deithio o gwmpas yn perfformio fel telynor yng Nghymru a dros y ffîn – un o’r pethau dw i’n glywed yn aml yw  “Nid oeddwn yn gwybod fod y delyn yn gallu gwneud hynny – mae’n braf cael clywed hyn”, sef Jazz a Rag a Gwerin.

Mi fyddai’n braf cael mwy o bethe fel hyn ar ein Radio Cenedlaethol a theledu. Yn aml iawn yr un peth sy’n cael ei chwarae dro ar ôl tro ar y rhaglenni hyn.  Mae angen dangos ein talent ifanc offerynnol, gwerin a’n cantorion ifanc i bawb.

http://www.dylancernyw.com/

Opera – ‘Chwalu’r ddelwedd sy’n cadw pobl draw’

Cyfweliad gyda Sioned Young – OPRA Cymru

Llongyfarchiadau i OPRA Cymru ar  3 enwebiad yng ngwobrau Theatre Critics of Wales am eu cynhyrchiad o Macbeth gan Verdi. Dyw Opera ddim yn gyfrwng newydd, ond rwy’n teimlo bod diffyg trafodaeth a sylw yn y wasg a’r cyfryngau yng Nghymru yn ei gwneud hi’n anodd  datblygu cynulleidfa newydd ar gyfer y cyfrwng. Roedd sgwrsio gyda Sioned am waith a gweledigaeth OPRA Cymru yn ysbrydoledig. Mae’n son am  y dalent cerddorol sydd yng Nghymru, am y  ffordd y mae opra’n cael ei ‘weld’  ac am yr her o ddatblygu cynulleidfa newydd wrth baratoi at y dyfodol.

Opra Cymru

Pam sefydlu OPRA Cymru? 

Sefydlwyd OPRA Cymru gan Patrick a finnau ‘nôl yn 2008 a gwelwyd ein perfformiad cyhoeddus cyntaf ym Mehefin 2009 pan ddaeth y cwmni a dros hanner cant o gerddorion ifanc at ei gilydd i ffurfio cerddorfa. Perfformiwyd rhai o glasuron byd opra oedd wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg mewn cyngerdd ym Mhontrhydfendigaid, gyda chantorion opra proffesiynol ( yn ogystal ag enwau newydd ar y pryd) yn perfformio gyda’r gerddorfa ifanc.

Troad y Rhod ddewison ni fel enw i’r digwyddiad. Addas iawn, gan ein bod yn perfformio ar ddydd Gwyl Ifan. Ond hefyd, ac yn bwysicach i ni, fe ddewison ni’r enw yma i adlewyrchu un o’r prif resymau dros sefydlu’r cwmni, sef i drawsnewid – i droi ar ei ben- y syniad o beth yw opra ac i newid y ffordd mae opra’n cael ei weld yng Nghymru. Ein bwriad o’r cychwyn yw i ddangos ei fod yn gelfyddyd i bawb.

Fe’n hysbrydolwyd ni ymhellach oherwydd y cyfoeth o dalent cerddorol sydd yma yng Nghymru a’r ffaith bod gwerthfawrogi cerddoriaeth dda yn dod yn naturiol i ni’r Cymry, diolch i raddau helaeth i’r traddodiad eisteddfodol a chorawl.

Mae opra wedi tueddu i fod yn gyfrwng diarth yma yng Nghymru ac efallai yn cael ei weld fel rhywbeth elitaidd. Roedden ni’n meddwl buasai’n her i ni geisio cyflwyno’r cyfrwng i gynulleidfaoedd na fyddai fel arfer yn dod i weld opra. Roedden ni’n hyderus byddai’n gwaith yn cael ei werthfawrogi mond i ni chwalu’r ddelwedd sydd yn cadw nifer o bobl draw.

Welson ni gyfle i greu diwylliant newydd mewn ffordd. Diwylliant operatig hollol Gymreig! Mae cymaint o dalent yng Nghymru ac mae gweld perfformwyr yn mynd tu allan i Gymru i chwilio am waith yn eitha trist. Ein gobaith yw i gyfrannu mewn rhyw ffordd tuag at gynnig cyfleoedd i berfformwyr talentog er mwyn iddyn nhw allu gweithio yng Nghymru ac yn y Gymraeg.

MacbethRydych chi newydd deithio Macbeth gan Verdi. Beth oedd uchafbwyntiau/ isafbwyntiau’r daith? 

Sefydlu cynulleidfa yw’n her fwyaf.

Yn dilyn ein cyngerdd agoriadol fe ddysgon ni bod rhaid i ni fynd i bob rhan o Gymru i ddenu cynulleidfaoedd newydd. Mynd a’n gwaith at y bobl.

Ein bwriad yw i wneud opra yn brofiad uniongyrchol ac hygyrch i’n cynulleidfaoedd. Dyna pam mae teithio i neuaddau a theatrau bach yn bwysig i ni a dyma hefyd y rheswm ein bod yn perfformio yng nghanol cynulleidfa (ar ffurf arena) . Mae’r gynulleidfa yn agos iawn at y perfformwyr yn ein sioeau, yn gorfforol yn ogystal a’n ieithyddol ac felly yn gerddorol a’n theatrig hefyd.

‘Dim rhwystrau ieithyddol’

Mae OPRA Cymru yn perfformio yn Gymraeg, ac felly mae’r gynulleidfa yn cael ei thynnu fewn i ddrama’r opera heb unrhyw rwystrau ieithyddol. Pan ddaw’r geiriau’n fyw, daw’r gerddoriaeth yn fyw hefyd. Mae hyn, dwi’n credu yn agosach at y profiad gwreiddiol o fynd i weld opera.

Dyma sut oedd Verdi’n cyfatherbu a’i gynulleidfa yn yr Eidal, yn iaith y gynulleidfa, a dyma sut i ni’n cyfathrebu gyda’n cynulleidfa ni.

Fel rhan o’r nod o ledaenu’n cynulleidfa mae’r cwmni’n gweithio gydag ysgolion. Bob tro fyddwn ni’n teithio ( a hon oedd ein trydydd taith) y’n ni’n cynnal gweithdai mewn ysgolion ac yn cyflwyno iaith a drama opra i ddisgyblion yn y gweithdai yma cyn cyflwyno perfformiadau llawn iddyn nhw. Disgyblion heddiw yw cynulleidfa yfory.

Creu diddordeb, awch a brwdfrydedd ymhlith plant a phobl ifainc a rhoi profiad theatrig cofiadwy iddynt yw’r nod ac mae’n beth braf iawn gweld rhyw 250 o ddisgyblion ysgol uwchradd ar flaen eu seddi wrth wylio a gwrando ar waith Verdi. Roedd hyn yn sicr yn uchafbwynt wrth i ni deithio. Mae gweld neuaddau llawn a’r cynulleidfaoedd ar eu traed yn cymeradwyo wrth gwrs yn wefr hefyd!

Faint o sylw mae Opera yn ei gael yng Nghymru? 

Mae’n wir ein bod yn cario’r baich o gael ein cysylltu a chyfrwng artistig a ystyrir yn elitaidd. Ond mae’r bobl sydd yn medru goresgyn y rhwystr cyntaf yma ac yn mentro dod i weld ein perfformiadau wrth eu bodd. Mae talent yn goresgyn snobyddiaeth ac elitiaeth.

 Beth mae OPRA Cymru yn gobeithio ei gyflawni yn y 10 mlynedd nesaf? 

Mae’r cwmni yn mynd i ddal ati i berfformio mewn neuaddau pentref ar raddfa fach ac yn awyddus i gynyddu’r gwaith a’r partneriaethau gydag ysgolion ar draws Cymru. Byddwn yn parhau i gyfieithu operau clasurol ac enwog i’r Gymraeg ond ein gobaith yw y byddwn hefyd yn medru annog cyfansoddwyr i greu operau newydd yn Gymraeg. Ni’n dysgu gymaint wrth ddatblygu’r cwmni ac mae hyn yn ein gyrru ni ymlaen wrth i ni dyfu.

Mae’n fwriad gennym i sefydlu rhyw fath o ŵyl haf er mwyn datblygu’r hyn wanethon ni yn ein cyngerdd cychwynol, sef cynnig cyfle i gerddorion ifanc berfformio mewn opera llawn ac felly i gyfannu’r rhod.

Kempf a Horowitz

Cyhoeddwyd ar www.golwg360.com  Tachwedd 24, 2010 gan Malan Wilkinson

Fe ddechreuodd cyfres cyngherddau clasurol  Venue Cymru ddydd Sul gyda rhaglen gyffrous gan un o brif gerddorfeydd Awstria, Cerddorfa Mozarteum Salzburg dan arweiniad Ivor Bolton a’r pianydd rhyngwladol, Freddy Kempf.

Roedd yna hefyd gyfweliad gyda’r pianydd cyn y perfformiad. Roedd o’n gyfle gwych i ddysgu mwy am Kempf – un o bianyddion amlycaf Ewrop heddiw. Ac er mor ddifyr y sesiwn a’i sylwadau, gresyn oedd gweld cyn lleied yno – criw o thua 50 yn un o ystafelloedd darlith theatr Venue Cymru – a llawer llai o Gymry ymhlith y criw hwnnw.

Dewis a dalodd

Roedd Symffoni rhif 2 opus 61  gan Robert Schumann yn C fwyaf yn ddewis dewr i ddechrau’r rhaglen – ond yn ddewis a dalodd ar ei ganfed. Mae Schumann yn un o gyfansoddwyr mawr y 19eg ganrif ac mae’r symffoni hon yn un o’m hoff ddarnau gan y cyfansoddwr – er nad yw’n ffefryn traddodiadol. Fe gafodd y symffoni ei hysgrifennu gan Schumann pan oedd yn isel ei ysbryd. Mae’n ddarn sy’n tynnu ar amrywiaeth helaeth o emosiynau tywyll ac yn darlunio anrhefn feddyliol Schumann yn ystod y cyfnod iddo’i hysgrifennu.

O’r bar cyntaf – roedd perfformiad y gerddorfa yn un gafaelgar a’u harddull perfformio yn ddwys, egnïol a sionc yng nghymalau ysgafnach y darn. Doedd dim byd statig am ymarweddiad y gerddorfa  ar y llwyfan. Nid sefyll fel delwau  llonydd, diserch yn perfformio darn yr oeddent wedi’i ddysgu eisoes oeddent (fel y gwelwch mewn ambell gerddorfa!). Ond, roedd pwyslais amlwg yma ar weithio gyda’i gilydd a chyd-symud.

Mae symudiad cyntaf y symffoni – Sostenuto Assai – allegro ma non troppo yn dechrau’n ddwys ei naws ac roedd ing y cyfansoddwr i’w glywed yn glir yng nghymalau cyfoethog y gerddorfa. Cafwyd dechrau tywyll i’r chorale pres araf yn y dechreuad cyn i’r symudiad cyntaf ddatblygu’n Sonata-Allegro aflonydd. Rwy’n teimlo fod y gerddorfa hon ar ei gorau wrth chwarae cymalau egnïol a bywiog fel y cafwyd yn y symudiad cyntaf a’r ail symudiad Scherzo Allegro Vivace sy’n fwy chwareus ei naws.

Ond i mi, fe ddaeth y brif  her nid ym mwrlwm yr Allegro ond yng ngwrthbwynt symudiad tri – Adagio Espressivo yn C leiaf.  Un o’r sialensiau mwyaf yma yw cynnal y cymalau galarus. Fe lwyddodd y llinynnau, oboau a chlarinetau wneud i hyn ymddangos yn gwbl rwydd. Camp yn wir! Dyma ddarn a hoeliodd sylw’r gynulleidfa ac a ddangosodd Schumann yn ei holl ddyfnder.

Aeddfed a gostyngedig

Yn ail ac yn ganolbwynt annisgwyl i’r gyngerdd  oedd Concerto Piano Rhif 23 yn A fwyaf K488 (1786) gan Wolfgang Amadeus Mozart gyda Kempf yn unawdydd piano.

Fe chwaraeodd Freddy Kempf y darn hwn am y tro cyntaf  pan yn ddim ond yn naw oed – ac mae wedi parhau i’w berfformio i gynulleidfaoedd ledled y byd dros y ddau ddegawd diwethaf . Mae’r concerto hwn yn un o ddarnau mwyaf poblogaidd Mozart  – felly mae gofyn peth dychymyg i wneud cyfiawnder ag o, gan fod cymaint o ddehongliadau tebyg eisoes yn bodoli sy’n efelychiadau gwael o waith pianyddion enwog y gorffennol.

Roedd dehongliad Kempf o’r gwaith yn aeddfed  a’i ymarweddiad yn ostyngedig. Roedd yn meddu  ar arddull berfformio Ewropeaidd; arddull y daeth yn gyfarwydd â hi yn yr Almaen – lle mae’n  cadw perthynas glos ag arweinydd yr ensemble wrth ddehongli’r gerddoriaeth. Yn hytrach na phennu ei ddehongliad ei hun gan adael i’r gerddorfa chwarae ar wahân yn y cefndir. Fe wnaeth y berthynas glos hon rhwng Kempf a’r arweinydd o Loegr sicrhau perfformiad ffres a digymell, llawn cyffro o hen ffefryn. Roedd yr amrywiaeth yn nhôn ei chwarae yn drawiadol ac ar brydiau roedd nodau  uchaf y piano’n meddalu’n unsain gyda gweddill y gerddorfa.

Ar y gorau, mae cerddoriaeth piano  Mozart yn noeth ac agored yn erbyn sain cerddorfa – ond fe ddefnyddiodd kempf y noethni hwn i’w fantais gan roi perfformiad sensitif o glasur. Braint o’r mwyaf oedd cael mwynhau’r dehongliad arbennig hwn gan Freddy Kempf a’r ensemble o Salzburg – lle ganwyd Mozart ei hun.

I gloi’r cyngerdd – cafwyd Symffoni rhif 41 gan Mozart neu’r Jupiter fel y caiff ei hadnabod. Dyma ddarn ysblennydd sy’n dangos y cyfansoddwr a’i allu ar ei orau – er na lwyddodd y perfformiad heno i fy nghyffroi gymaint â’r concerto blaenorol. Er hyn, roedd gallu  Bolton i weu’r  themâu cymhleth tua’r diwedd yn gelfydd a’r coda ffiwgaidd nodedig yn dod â’r gwaith i uchafbwynt cadarn.

‘Cawr’

Fe ddywedodd Kempf yn y sesiwn holi ar ddechrau’r noson mai un o’i brif ddylanwadau ar y piano oedd y cawr o bianydd virtuoso Rwsiaidd, Vladimir Horowitz.

Ond, nid adlais o ddehongliad Horowitz  o Goncerto piano rhif 23 gan Mozart oedd yn llenwi theatr Llandudno nos Sul – ond mwynder teimladwy dehonglwr anturus sy’n prysur dorri ei gŵys ei hun.

Does dim yn sicrach yn fy meddwl – bydd  Kempf, fel Horowitz  – rhyw ddydd – yn siŵr o ddatblygu’n gawr ei hun.

Tân y Ddraig allan o bwff?

Cyhoeddwyd ar www.Golwg360.com Mai 19, 2010 gan Malan Wilkinson

Malan Vaughan Wilkinson sy’n gofyn a ydi Gŵyl y Feanol wedi newid ei chân…

Mae’r cyhoeddiad y bydd noson Tan y Ddraig yng Ngŵyl y Faenol eleni yn cynnwys bandiau Seisnig wedi troi’n dipyn o bwnc llosg.

Ers bron i ddegawd roedd y noson yn gyfle prin, tu hwnt i un wythnos ym mis Awst, i roi llwyfan i gerddoriaeth boblogaidd bandiau Cymraeg.

Roedd y noson wedi denu cynulleidfa ffyddlon sy’n cario ‘mlaen i fynychu’r ŵyl yn flynyddol (gan fy nghynnwys i!).

Serch hynny, mae rhai wedi croesawu penderfyniad y trefnwyr i ddarparu llwyfan i fandiau Seisnig er mwyn denu tyrfa newydd i weld bandiau Cymraeg.

Ond, mae eraill yn gofyn pam na gymerwyd y cyfle i arddangos rhai bandiau Saesneg gyda chysylltiadau cryf â Chymru – fel yr awgrymodd Arfon Wyn o fand y Moniars.

Draig digon llipa

O’m rhan i, mae’r cliw yn yr enw. Tan y Ddraig fydd enw’r noson o hyd. A heblaw eu bod nhw’n cyfeirio at ryw sarff Siapaneaidd, rwy’n cymryd mai at Gymru’n benodol y maen nhw’n cyfeirio.

Wrth gwrs bod angen sêr mawr rhyngwladol o Loegr a thu hwnt ar yr ŵyl ond dwi’n siŵr ein bod ni’n gallu llunio o leiaf un line-yp o’n talent ein hunain?

Dwi’n credu y byddai cynnwys bandiau o Gymru sy’n canu’n Saesneg, ac mae yna ddigon ohonyn nhw wedi gwneud eu henw’n fyd eang, wedi bod yn llwyddiant mawr.

Mae’n wrthun i mi fod rhaid i ‘wlad y gân’ fentro ‘allan’ i chwilio am fandiau pan mae’r genedl yn meithrin cyfoeth o dalentau ifanc, brwd a dwyieithog.

Dyma un noson mewn gŵyl benwythnos sy’n gyfle perffaith i Gymru ddangos i weddill y byd mor amryddawn yw ei cherddorion.

Datganiad ‘gwleidyddol’

Beth bynnag am Dân y Ddraig, beth oedd yn gadael y blas cas yn y geg go iawn oedd noson gyfan i ddathlu  ‘Pen-blwydd Brwydr Prydain’.

Mae pawb yn cefnogi ac yn parchu’r aberth a wnaethpwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond o edrych ar y line yp mae peryg i’r noson droi yn noson o bropaganda i frwydrau’r  presennol sydd dipyn mwy dadleuol.

Dwi’n credu y byddai noson o’r math yma yn tynnu’n groes i ddaliadau heddychlon a chenedlaetholdeb Cymreig y rhan fwyaf o drigolion y fro ble y bydd hi’n cael ei chynnal.

Wrth gwrs bod “croesawu pobl o bob cwr o Brydain” i “gornel o Gymru unwaith eto” yn bwysig, fel y mae Bryn Terfel eisoes wedi sôn.

Ond does dim pwynt eu gwahodd nhw draw i fwynhau line-yp y gallen nhw fod wedi ei weld yn Chesham.

Y pryder sydd gen i yw bod Tan y Ddraig yng Ngŵyl y Faenol wedi colli peth ar yr hyn oedd yn ei gwneud hi’n noson unigryw.

Cawn ni weld yn y man os ydi hi wedi colli blas ar ei Chymreictod ac yn canu rhyw gân arall bellach.

Profiad rhyngwladol yn hwb i gerddorion Cymru

Cyhoeddwyd ar www.Golwg360.com  Mai 2, 2010 gan Malan Wilkinson

Malan Wilkinson sy’n dweud bod cerddorion Cymru yn elwa ar fynd allan i’r byd, a chroesawu’r byd i Gymru…

Rydan ni ar drothwy prif wyliau’r calendr cerdd yng Nghymru’r haf hwn, sef Eisteddfod yr Urdd fis nesaf, Eisteddfod Gydwladol Llangollen wedyn ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru fis Awst.

Ond, mae dwy gamp gerddorol arall wedi creu argraff arna’ i yn ystod y mis a’r rheiny’n rhoi cyfle i’r Cymry godi eu gêm wrth herio cerddorion o’r tu allan i’n gwlad.

Y cyntaf yw llwyddiant Band Pres Hŷn Cylch Ieuenctid Gwynedd a Môn yn ennill prif deitl Pencampwyr Bandiau Pres Ieuenctid Prydain.

Fe wnaeth y band pres, dan arweiniad Gwyn Evans  a thiwtoriaid eraill gyrraedd brig  uwch adran y bencampwriaeth yn Ysgol Gerdd y  Royal Northen College of Music ym Manceinion.

Hefyd, dau o brif chwaraewyr cornet soprano’r band, Owen Pickering o Lanllechid a Graham Bushel o Lanfairpwll, a enillodd wobrau chwaraewyr mwyaf addawol yr adran.

Mae’n galonnog gweld cerddorion o Gymru’n mentro tu allan i’r wlad ac yn llwyddo, gan ennill ymwybyddiaeth ehangach yn y byd cerddorol.

“Mae rhywun yn gweithio yn ei ardal ei hun yng Nghymru ond ddim yn sylweddpoli beth ydi’r safon nes mynd allan o Gymru i gystadlu,” meddai Gwyn Evans, yr arweinydd.

Wrth gwrs nid pawb sy’n mentro y tu allan i Gymru’n ‘llwyddiannus’ ac yn haeddu ‘clod’. Ond, mi rydw i, fel Gwyn Evans yn credu bod cerddorion ifanc yn cael gwell syniad beth yw’r safon wrth gystadlu yn erbyn y gorau o lefydd eraill.

‘Dw i hefyd yn credu bod amrywiaeth o brofiadau perfformio ar lefel cenedlaethol, prydeinig a rhyngwladol yn creu cerddorion mwy hyddysg a phrofiadol.

Mae Band Pres Hŷn Cylch Ieuenctid Gwynedd a Môn yn enghraifft o fand pres safonol o Gymru yn disgleirio ar lwyfan Prydeinig.

 

Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru

Yr ail ddigwyddiad cerddorol i greu argraff arna i oedd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru, ar 4 Ebrill hyd 10fed yn y Galeri, Caernarfon.

Roedd telynorion ifanc o Gymru yn cynnwys Hannah Stone, Benjamin Creighton Griffiths, Anne Denholm, Elen Hydref a Glain Dafydd yn rhan o’r ŵyl.

Roedd eu cyfraniad a’u llwyddiant yn amlwg ar lwyfan ryngwladol yr ŵyl wrth iddyn nhw gystadlu yn erbyn ymgeiswyr o Rwsia, Groeg, Lloegr, Lithwania, Yr Eidal, Singapore, Hwngari a’r Iseldiroedd.

Does dim amheuaeth gen i fod traddodiad eisteddfodol cyfoethog yng Nghymru. Ond mae profiad mewn gŵyl fel hon yn hanfodol i unrhyw delynor ifanc sydd â’i fryd ar lwyddo.

Gwahanol

Mae fformat y cystadlu a pheth o’r gofynion yn wahanol i’r drefn eisteddfod arferol yng Nghymru.

Mae’n orfodol perfformio  darnau prawf arbennig a phaneli sy’n beirniadu’r amrywiol gystadlaethau. Efallai bod hyn yn sbarduno’r cerddor i feddwl am y broses o baratoi rhaglen mewn ffordd wahanol gan ganolbwyntio ar fwy na dau ddarn penodol yn unig.

Mae’r ŵyl hefyd yn cynnig cyfle i bobol ifanc gyfarfod ymgeiswyr eraill o bedwar ban byd a rhannu profiadau.

Ond, efallai mai un o’r prif resymau yr ydw i’n hoff o’r ŵyl hon yw ei bod wedi creu llwyfan safonol  i feithrin traddodiad sy’n bwysig i Gymru – ar lefel ryngwladol.

Er bod Cymry wedi mentro i Fanceinion yn y digwyddiad cyntaf a’r byd wedi dod i Gymru yn yr ail – mae un peth yn glir, mae presenoldeb cenhedlaeth ifanc cerddorion ‘fory yn amlwg yng Nghymru a thu hwnt.

Clod i’r dewin Llŷr Williams

Cyhoeddwyd ar http://www.Golwg360.com/ Ebrill 18, 2010 gan Malan Wilkinson

Malan Wilkinson sy’n adolygu cyngerdd Llŷr Williams, Cyfres Sonatâu Beethoven, yng Ngaleri Caernarfon…

Cafwyd rhaglen amrywiol i drydydd cyngerdd y pianydd Llŷr Williams. Roedd y cyngerdd Sonatâu “ar ffurf brechdan” yng ngeiriau’r pianydd. Roedd Sonata gyntaf y rhaglen yn E feddalnod fwyaf Op. 7 a’r olaf yn B feddalnod fwyaf Op. 22 yn Sonatâu mawreddog, gwych a’r ddwy sonata ganol yn fwy chwareus.

Daeth Llŷr Williams i mewn i’r neuadd gyngerdd olau, oedd dan ei sang, wedi gwisgo mewn du o’i gorun i’w sawdl.  Roedd yn wên o glust i glust ac roedd ei ymarweddiad urddasol a’i hyder tawel yn dwysau disgwyliad a chyffro’r gynulleidfa – ar ddechrau’r hyn ro’ ni’n gwybod, a fyddai’n daith.

‘Syrpreis’

Dyw Sonata gynnar rhif 4 E feddalnod fwyaf Op. 7 (‘Grand Sonata’) Beethoven ddim yn un o’m ffefrynnau, mae’n rhaid i mi gyfaddef.  Ond, wrth wrando ar y Sonata hon y cefais syrpreis fwyaf y gyngerdd.

Daw un o’r cyfleoedd mwyaf trawiadol i ddal sylw’r gynulleidfa a chreu argraff yn yr ail symudiad  – Largo, con gran espressione. Yn y symudiad hwn, fe lwyddodd Llŷr Williams nid yn unig i liwio’r alaw yn hyfryd ond i drin seibiau cerddorol y cyfansoddwr yn gelfydd. I mi, mae’r seibiau hyn yn rhan annatod o’r alaw. Fe lwyddodd Llŷr Williams i ddal y gynulleidfa yng nghledr ei law heb ildio i ddehongliad gôr sentimental – rhywbeth fyddai wedi bod yn hawdd ei wneud! Fe ddywedodd un ddynes wrtha’i yn yr egwyl ei bod wedi dod yn agos at ‘golli deigryn’ yn ystod y symudiad. Tystiolaeth amlwg – ynghyd â thawelwch llethol y gynulleidfa yn ystod ei chwarae, o allu arbennig Llŷr Williams i gyffwrdd pobl, wrth lwyddo cadw’n hollol driw i ofynion technegol y cyfansoddwr.

‘Byrfyfyriol’

Er bod Sonata, rhif 9 yn E fwyaf  Op 14/1 yn dipyn fyrrach na hyd anghyffredin o hir y Sonata gyntaf , roedd ei ymdriniaeth o’r alawon yr un mor gelfydd a ffres. Roedd yn llwyddo perfformio’r  troeon annisgwyl yn y gerddoriaeth mewn ffordd  oedd yn ymddangos yn fyrfyfyriol ambell dro – gan gadw dychymyg y gynulleidfa’n fyw – a’u cadw hwythau ar flaenau eu seddi, camp yn wir!

Doedd ei ddehongliad o’r drydedd Sonata yn ddim llai gwyrthiol. Mae strwythur Sonata rhif 10 yn G fwyaf yn anghyffredin yn y ffaith mai Scherzo yw’r trydydd symudiad. A’r symudiad hwn oedd uchafbwynt ei berfformiad o’r Sonata i mi. Fe wnaeth Llŷr Williams chwarae thema gyntaf y finale yn hollol ddidwyll a disglair gan lwyddo i wneud i’r newidiadau cynnil yn y gerddoriaeth yn ddiweddarach ymddangos yn gwbl syml a diymdrech. Doedd dim amheuaeth gen i fy mod i’n mwynhau dehongliad perffeithydd o waith Sonatâu Beethoven!

‘Egni’ a ‘gwrthgyferbyniad’

Roedd egni Llŷr Williams yn Sonata rhif 11, B feddalnod fwyaf, Op. 22 yn amlwg o gychwyn cyntaf yr Allegro con brio. Nid perfformiad llawdrwm a gafwyd yma ond perfformiad sensitif, rhythmig a chwim o fotifau a themâu amrywiol y cyfansoddwr. Roedd y gwrthgyferbyniad hollol a gafwyd yn niwedd y symudiad cyntaf a’r ail (Adagio con molto esspressione) yn ysgytwol ac fe ddaeth yr holl gynnwrf i uchafbwynt ym mwrlwm beiddgar y coda sy’n cloi’r gwaith.

Mae Llŷr Williams yn ddehonglwr cywrain, glân a chynnil. Roedd y ddynes oedd yn eistedd wrth fy ymyl eisoes yn berchen ar recordiadau Beethoven y pianydd enwog Alfred Brendel a minnau’n berchen ar gasgliad Daniel Barenboim. Roedd y ddwy ohonon ni’n gegrwth ddiwedd y gyngerdd, dan gyfaredd lwyr – yn gwybod ein bod ni wedi profi rhywbeth hynod ac arbennig – ar ein stepen drws. Mae Llŷr Williams yn llwyddo i ennyn chwilfrydedd cynulleidfaoedd hyd a lled Prydain – cynulleidfaoedd sy’n dod yn ôl o hyd ac o hyd i wrando arno. O gymalau cyffrous, acennog ac egnïol Beethoven i’w alawon mwy breuddwydiol, roedd hud yn nehongliadau Llŷr Williams ohonynt heno. Ac wrtho iddo gerdded yn ôl i dywyllwch ochr y llwyfan, fe sylwais innau fy mod i eisiau ailddirwyn i ddechrau’r daith. Dyma ddewin o bianydd sy’n gaffaeliad i Gymru.

Pianyddion yn ‘cadw’n agos at waith Chopin’


Cyhoeddwyd ar http://www.Golwg360.com ar 03/03.2010 

 

Mae digon o bianyddion blaenllaw yn cadw at ‘air y cyfansoddwr’ meddai un o berfformwyr mwyaf disglair Cymru am waith Chopin.

Dydd Llun dywedodd Angela Lear, sy’n arbenigo yng ngwaith Chopin, wrth Golwg360 ei bod yn pryderu bod rhannau o waith Chopin yn cael “ei ailgyfansoddi”.

Dywedodd bod golygyddion a phianyddion yn gwneud hynny er mwyn “hwyluso’r gofynion technegol eithafol mae’r cyfansoddwr yn ei roi ar berfformwyr.”

Ond dywedodd Cymro byd enwog arall ym myd y piano, Iwan Llewelyn-Jones, wrth Golwg 360 nad oedd pianyddion yn gwyro o fwriad gwreiddiol Chopin.

Roedd pianyddion yn dathlu pen-blwydd Chopin yn 200 oed dydd Llun.

“Mae sawl copi o’r gwaith gwreiddiol ar gael a digon o bianyddion blaenllaw y byd proffesiynol yn cymryd gofal i gadw at ‘air y cyfansoddwr’ wrth astudio a pherfformio gweithiau Chopin,” meddai.

“Mae Chopin yn dal mor boblogaidd ac erioed ac mae sawl argraffiad o’i waith ar gael,” meddai’r pianydd.

“Ydi, mae rhai golygyddion wedi ymateb i’r alwad i symleiddio’r cynnwys ac mae hyn yn gallu dibrisio’r gweithiau gwreiddiol. Yn anffodus, dyna’r gost o fod yn enwog – pawb eisiau tamaid!”

Chopin a’r “Cymry” 

Wrth ddathlu daucanmlwyddiant y cyfansoddwr y mis hwn, dywedodd y pianydd fod “pawb yn mwynhau gweld enw Chopin’ ar raglen” cyn ychwanegu:

“Mae ei Nosganau yn ffefrynnau gan eu bod fel ‘Caneuon heb Eiriau’, alawon gyda chyfeiliant – a phwy well i werthfawrogi alaw hyfryd na’r Cymry!

“Roedd Chopin yn gerddor arbennig, a ‘one off’ – mwy neu lai yn hunan ddysgedig fel pianydd a chyfansoddwr, fe lwyddodd i greu iaith gerddorol newydd a phersonol.

“Mae cyfoedion Chopin (ei ddisgyblion a’i ffrindiau) wedi gadael adroddiadau personol o sut berson oedd Chopin, beth oedd ei feddyliau am gerddoriaeth a’i ymateb i berfformiadau.

“Digon i gnoi cil drosto a digon i gadw’r drafodaeth i fynd am flynyddoedd i ddod!” meddai Iwan Llewelyn-Jones.

 

Malan Wilkinson

‘Peidiwch â difetha gweithiau Chopin’

Cyhoeddwyd ar http://www.Golwg360.com 28.02.2010

 

A hithau’n 200 mlynedd ers geni’r cyfansoddwr Frédéric Chopin, mae awdurdod ar ei weithiau’n rhybuddio yn erbyn ‘ail-gyfansoddi’ ei gerddoriaeth.

Pryder yr ysgolhaig Angela Lear, sy’n ddehonglydd byd-eang o waith Chopin, yw fod rhannau o’i waith yn cael “ei ail-gyfansoddi” gan olygyddion a phianyddion er mwyn “hwyluso’r gofynion technegol eithafol mae’r cyfansoddwr yn ei roi ar berfformwyr.”

“I wirioneddol ddathlu daucanmlwyddiant y cyfansoddwr mawr hwn, y ffordd orau i’w wasanaethu yw drwy herio unrhyw ail-gyfansoddid o’i gerddoriaeth odidog,” meddai Angela Lear o Essex sydd wedi astudio llawysgrifau gwreiddiol y cyfansoddwr.

“Mae gan y cyhoedd pob hawl i ddisgwyl clywed cerddoriaeth Chopin yn cael ei ail-greu gan berfformwyr – ond nid i glywed fersiynau llawn newidiadau personol wedi’u gwneud i’w sgoriau,” dywedodd.

Yn ôl yr arbenigwraig, mae cerddoriaeth piano Chopin wedi cadw ei boblogrwydd dros y blynyddoedd oherwydd bod ei waith yn “cyffwrdd calonnau ac eneidiau pobl ar draws y byd.”

Nid “plentyn ei amser”

Doedd Chopin ddim yn ystyried ei hun fel ‘plentyn ei amser’ mewn cyd-destun ‘Rhamantaidd’, yn ôl Angela Lear.

“Roedd yn parchu cerddoriaeth Mozart a Bach uwchlaw ei gyfoeswyr,” meddai wrth sôn am gerddoriaeth “cain” cyfansoddwr y mae’n ei ddisgrifio fel un “unigryw.”

“Mae cerddorion a phobl gyffredin yn rhannu eu gwerthfawrogiad o harddwch cain cerddoriaeth Chopin, o rythmau ‘lilt’ ei Mazurkas, i ysbryd gwladgarol ei Polonaises.”

Fe gafodd Frédéric François Chopin ei eni yn 1810 ym mhentref cyngerdd Sonatâu Zelazowa Wola i’r gorllewin o Warsaw. Roedd y pianydd ifanc yn cael ei ystyried fel athrylith ers pan oedd yn ddim o beth.

Mae gweithiau Piano Chopin yn gofyn am allu technegol perfformio arbennig. Yn ystod ei yrfa, fe wnaeth y cerddor a’r pianydd enwog gyfansoddi llawer o Sonatau, Mazurkas, hwyrganau, études lliwgar a phreliwdiau.

Malan Wilkinson