Galeri yn cyflwyno Inc 2015 (04.06.2015 – 07.06.2015)
Swyddfa Docynnau Galeri – 01286 685 222
4-diwrnod llawn o weithgareddau’n ymwneud mewn rhyw ffordd neu gilydd â byd newyddiadura, y wasg a’r byd cyhoeddi. Dyma linc i Papur newydd INC 2015
Ymhlith rhai o uchafbwyntiau’r penwythnos eleni:
Gwobr Llyfr y Flwyddyn
04.06.2015
18:30 (Derbyniad) 19:15 (Seremoni)
£10.00 / £8.00
Ymunwch â Llenyddiaeth Cymru ar gyfer uchafbwynt gwobrau llenyddol mwyaf Cymru. Yn dilyn derbyniad gwin a canapés yng nghwmni beirniaid Gwobr 2015 ac awduron y Rhestr Fer, cewch ddarganfod pa lyfrau sydd wedi dod i’r brig yn y categorïau Barddoniaeth, Ffuglen, a Ffeithiol Greadigol, a pha lyfrau sy’n cipio’r teitlau Llyfr y Flwyddyn 2015 yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Arddangosfa Cloriau INC
04.06.2015 – 08.06.2015 (Safle Celf Galeri)

Arddangosfa arbennig i ddathlu’r Sîn Roc Gymraeg drwy gloriau albymau’r 40 mlynedd ddiwethaf. Trefnwyd yr arddangosfa gan yr Eisteddfod Genedlaethol yn wreiddiol, gyda Rhys Aneurin yn curadu. Dyma fydd y cyfle olaf i weld yr arddangosfa – a bydd yn Galeri tan ddydd Llun 08.06.15.
Yn dilyn yr agoriad swyddogol, bydd Yws Gwynedd yn perfformio set yn y bar o 21:30 [mynediad am ddim].

INC Dylanwadau: Kate Crockett
14:00 – 15:00 (Stiwdio 2)
£5.00 / £4.00

Mae Dylanwadau’n gyfres newydd gyda Mari Emlyn yn holi personoliaethau o fyd y celfyddydau am y dylanwadau sydd wedi llywio eu gwaith. Bydd “Dylanwadau INC” yn croesawu Kate Crockett; newyddiadurwraig sy’n ymddiddori’n fawr yn y celfyddydau. Mae wedi cyhoeddi tri llyfr, un ar y sîn roc Gymraeg a dau ar Dylan Thomas, gan gynnwys Mwy Na Bardd: Bywyd a Gwaith Dylan Thomas (2014). Bu’n cyflwyno nifer o raglenni teledu a radio, ac ar hyn o bryd mae’n cyflwyno’r Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru yn y boreau.
Linc i Inc
10:00 – 16:00 / Bar
06.06.2015
Am ddim

Awydd gyrfa mewn newyddiaduraeth? Cyfle i ‘Hacs’ y dyfodol fod yn newyddiadurwyr am ddiwrnod a hynny dan arweiniad y newyddiadurwr profiadol, Sali Collins. Cewch brofiad o ‘sgwennu, gohebu a chyhoeddi cynnwys yn ystod Gwyl Inc, 2015. Byddwch hefyd yn gwneud cyfweliadau, adolygiadau ac yn adrodd hanes yr wˆ yl gan fynegi barn am amrywiol ddigwyddiadau celfyddydol. Mae angen archebu eich lle drwy dderbynfa Galeri a thalu blaendal (a gaiff ei ad-dalu) o £5. Addas ar gyfer pobl ifanc 18 – 25 oed.
Dal Pen Rheswm
15:00 – 16:00 / Theatr
£8, £6

Dau sydd a’u gyrfaoedd, a’u cyfeillgarwch, yn ymestyn yn ol hanner canrif – cyn hyd yn oed i’r ddau gyd – weithio i gwmniau teledu yng Nghaerdydd yn 60au’r ganrif dd’wetha. Dau awdur, dau ddarlledwr. Gwyn Llewelyn yn cyflwyno rhaglenni fel “Y Dydd”, “Heddiw”, “Hel Straeon” a “Gwyn a’i Fyd”.
David Meredith yn trwytho’i hun yn y celfyddydau cain, yn dod yn gyfaill mynwesol ac awdur cyfrol am y diweddar Syr Kyffin Williams ond ar y ffordd yn cyfarfod hefyd a Bill Clinton, llu o actorion Hollywood yn ogystal a’r Pab. Cyffredin i’r ddau yw eu dawn dweud.
TIC TACS: Huw Llywelyn Davies (Cadeirydd: Nic Parry)
19:30 yn y Theatr
£10, £8, £7

Noson hwyliog yng nghwmni’r cyn sylwebydd chwaraeon Huw Llywelyn Davies. Yn dilyn sefydlu S4C dechreuodd gyflwyno’r newyddion, ac yna i sylwebu ar chwaraeon: golf, snwcer, tenis, ond rygbi’n bennaf hyd at y llynedd. Sylwebodd ar 360 o gemau rhyngwladol y cyfnod, 5 taith gyda’r Llewod
a llawer mwy gyda Chymru a 5 Cwpan Byd. Treuliodd 5 tymor yn sylwebu yn Saesneg i BBC Wales a’r rhwydwaith tan i‘r BBC golli’r hawliau i roi’r gwasanaeth i S4C. Bydd yn cael ei holi gan y sylwebydd chwaraeon Nic Parry yn ein cyfres ar bersonoliaethau’r byd chwaraeon ‘Tic Tacs’. Dyma gyfle unigryw i glywed am hanesion dwys a digri Huw yn ystod ei yrfa lewyrchus fel sylwebydd rygbi.
Yn dilyn y digwyddiad, bydd cerddoriaeth yn y bar gyda Geraint Lövgreen.

Sgwrs: Triptych gyda Judith Roberts a Gwyneth Glyn
14:30 – 15:30 / Stiwdio 1
07.06.2015
£5.00

Mae meddyliau miloedd o gyn – filwyr yn cael eu poenydio gan y pethau hynny a welwyd ac a wnaethpwyd yn enw dyletswydd. Mae colli aelod o’r corff yn weladwy ; nid yw poen meddwl ac felly mae’n cael ei ddiystyru’n hawdd. Ond mae miloedd o gyn – filwyr yn cael eu cystuddio â gofid meddwl o ganlyniad i’w profiad milwrol. Mae llawer yn trio cuddio hynny oherwydd eu bod yn teimlo cywilydd ac, o ganlyniad, mae eu sefyllfa’n gwaethygu. Mae eu teulu yn dioddef ac mae priodasau’n chwalu yn gyffredin. Mae cyfraddau hunanladdiad yn uchel. Yn y sesiwn hon, bydd Judith Roberts a Gwyneth Glyn yn siarad am y daith creadigol rhyfeddol sydd wedi arwain at TRIPTYCH – darn newydd ysgytwol i’r theatr fydd yn dod i Galeri fis Gorffennaf.
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig
16:00 – 17:00 / Theatr
£8, £6

Cyfle i glywed hanes llunio un o gyfrolau pwysicaf ein cenedl gyda Menna Baines a’r Athro Peredur Lynch, dau o olygyddion Gwyddoniadur Cymru. Byddant yn rhannu straeon am ddeng mlynedd o waith yn ymchwilio a pharatoi’r Gwyddoniadur a gyhoeddwyd yn 2008 gan gofio am eu cydolygyddion, y diweddar Athro John Davies a’r bardd Nigel Jenkins.
Y newyddiadurwr, y bardd a’r llenor Dylan Iorweth fydd yn cadeirio’ r sgwrs.
Dwyn Tysiolaeth / Bearing Witness (Digwyddiad Wales PEN Cymru)
19:30 / Theatr
£10 a £4 i aelodau Wales PEN Cymru

Menna Elfyn, President of WalesPENCymru, talks about the work of PEN, the international organisation which celebrates literature and defends freedom of speech, and introduces: Ben Rawlence, former Human Rights Watch senior researcher on Africa in conversation with Abdiaziz Ibrahim, award-winning Somali journalist and human rights activist and Norbert Mbu-Mputu, journalist, writer and media commentator, who was born in the Congo, became an asylum seeker and now lives in Wales.